Derbyn cais ar y cyd rhwng Cymru Gynnes a Charter am grant ariannu ‘Arbed’ gwerth £1.6m ar gyfer Markham
Mae cais ar y cyd rhwng Cymru Gynnes a Charter am grant ariannu ‘Arbed’ gwerth £1.6m i ddarparu gwelliannau arbed ynni i gartrefi ym mhentref Markham wedi cael ei gymeradwyo gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.
Bydd y grant Arbed o £1.6m yn helpu ariannu cynllun gwerth £2.3m o welliannau effeithiolrwydd ynni i’r 124 o dai Charter a chartrefi preifat/cyhoeddus eraill yn Markham fel ei gilydd. Mae’r mesurau arfaethedig gan Arbed yn cynnwys insiwleiddio muriau mewnol ac allanol, dŵr poeth wedi ei wresogi gan yr haul a phaneli ffotofoltaidd. Mae Cymru gynnes ac Npower yn chwilio am ariannu ychwanegol gan y Bartneriaeth Arbed Ynni Cymunedol (CESP) i dalu am fesurau eraill, gan gynnwys arolygon asesu ynni yn y cartref, insiwleiddio llofft, cysylltiadau nwy newydd a systemau gwres canolog i gartrefi tanwydd solet, uwchraddio systemau gwresogi cyfredol, ac unedau defnydd ynni amser go iawn.
Bydd prosiect Markham yn rhedeg o fis Ebrill 2010 tan fis Mawrth 2011. Mae’r prosiect hefyd yn ceisio creu hyfforddiant a chyfleoedd cyflogaeth i bobl leol, gan gynnwys tri Warden Ynni Cymuned, wedi eu hariannu gan Gronfa Swyddi’r Dyfodol.
Cronfa o £30m ydy Arbed, wedi ei ariannu fwyaf gan y Gronfa Buddsoddiad Cyfalaf Strategol (SCIF) ac Adran Ynni a Newid Hinsawdd y DU (adnabyddir y fenter hefyd dan yr enw ‘Cynllun Buddsoddiad Perfformiad Ynni Strategol’). Mae Cymal 1 Arbed yn canolbwyntio’n benodol ar welliannau effeithiolrwydd ynni i gartrefi mewn cymunedau sy’n amddifad o adnoddau o fewn ardal Blaenau’r Cymoedd.
Ffeithiau allweddol:
- Cyfanswm y cartrefi yn Markham: 624
- Cyfanswm nifer y mesurau arfaethedig: 2,154
- Cyfanswm cost y cynllun: £2,320,598
- Cyfanswm grant ariannu Arbed: £1,600,000
- Ariannu ychwanegol gan y Bartneriaeth Arbed Ynni Cymunedol (CESP), y Targed Lleihau Lledaeniad Carbon (CERT) a chyfraniad Charter.
- Cyfanswm posibl arbediadau biliau ynni i gartrefi yn Markham: £169,129 per annum
- Arbediad oes CO2 o ganlyniad i wella cartrefi yn Markham: 24,738 tunnell fetrig
Tags: Arbed, CESP, Charter, Cymru Gynnes, energy efficency, Markham, npower, Warm Wales
