Rydych yma » Hafan » Amdanom Ni

Amdanom Ni

Mae Cymru Gynnes a’i is-gwmni, Tai Cynaliadwy Cymru, yn cynnig cyfleu ystod eang o fesurau ym meysydd ynni cynaliadwy ac adnewyddu, i gefnogi polisïau’r Cynulliad.

Fel Cwmni Buddiant Cymunedol blaenllaw a llwyddiannus iawn, heb gyfranddalwyr, rydyn ni’n ail-fuddsoddi unrhyw arian dros ben i’r cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu.

Fel Cwmni Buddiant Cymunedol wedi ei reoleiddio, mae Cymru Gynnes yn meithrin agwedd wedi ei chanoli ar y cymunedau i gynaliadwyedd economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol Rydyn ni’n buddsoddi yn y cymunedau rydyn ni’n gweithio ynddyn nhw a gadael etifeddiaeth o gyraeddiadau cadarnhaol. Tra bod cyrff eraill yn cynnig rhai o’r gwasanaethau hyn, rydyn ni’n credu nad oes unrhyw sefydliad Cymraeg arall yn cynnig y cyfuniad unigryw hwn o wybodaeth, arbenigedd a mynediad i ariannu i’r sector dai yng Nghymru.

Sefydlwyd Cymru Gynnes yn 2004 gan y Grid Cenedlaethol, gyda’r nod penodol o gyflawni ei gyfrifoldeb corfforaethol i’r Llywodraeth a dosbarthu budd-daliadau i filiwn o gartrefi mewn tlodi tanwydd. Dewisodd wneud hyn dan y pennawd ‘Cynllun Gwres Fforddiadwy’.

Fe weithion ni gyda Chyngor Bwrdeistref Castell-nedd Port Talbot i gyflwyno’r cynllun ‘Cyflenwi Cartrefi Cynnes’, a chydweithio’n agos gyda’r cyfranogwyr i sicrhau cyflenwi’r targed o ysgogi 80% o gartrefi i ymateb. Arweiniodd llwyddiant y cynllun at sefydlu ail gynllun yn Wrecsam. Mae Cymru Gynnes eisoes wedi cyfleu gwerth dros £26m o fuddsoddiad i Gymru, gan sicrhau ariannu gan amrywiaeth o bartneriaid a chreu arbediadau ynni gwerth dros £52m.

Rydyn ni’n medru cael mynediad i gymorth grantiau trwy’r Targed Gostwng Lledaeniadau Carbon (CERT) a’r Cynllun Arbed Ynni Cymunedol (CESP ) o nifer o ffynhonellau, gyda npower yn brif noddwr. Mae’n ariannu grant yn ein galluogi ni i ddarparu datrysiadau ariannol dyfeisgar i brosiectau astrus.