Gwobrau
ISO

Mae Cymru Gynnes wedi cael ei asesu a’i gymhwyso gan Systemau Safonau Rheoli QMS yn y systemau safonau ac amgylchedd, safonau a chanllawiau:-
ISO 9001 : 2008
ISO 14001 : 2008
Mae’r systemau rheoli safonau ac amgylcheddol cymwys yn berthnasol i’r isod:
Anelu at leihau’r nifer o gartrefi mewn tlodi tanwydd a gwella effeithiolrwydd ynni trwy Gymru gyfan.
Busnes yn y Gymuned

Derbyniodd Cymru Gynnes wobrau cenedlaethol Busnes yn y Gymuned yn 2006 a 2008 i gydnabod cyraeddiadau’r cwmni a’i bartneriaethau gydag eraill.
Mae Busnes yn y Gymuned yn trefnu digwyddiad gwobrwyo blynyddol i gydnabod a dathlu effaith gadarnhaol busnes mewn cymdeithas trwy gynlluniau cymunedol ac ymarfer da mewn busnes. Mae’r “Big Tick” yn wobr ychwanegol a roddir am ragoriaeth ym maes cyfrifoldeb corfforaethol.
