Rydych yma » Hafan » Amdanom Ni » Bwrdd Cyfarwyddwyr

Bwrdd Cyfarwyddwyr

Yr Athro Phil Jones (Cadeirydd)

Phil ydy Pennaeth Ysgol a Chyfarwyddwr Gwyddoniaeth Bensaernïol Ysgol Bensaernïaeth Cymru (YBC), Prifysgol Caerdydd. Mae ganddo enw da cenedlaethol a rhyngwladol fel arbenigwr yn ei faes, sef defnydd ynni, dylunio amgylcheddol a chynaliadwyedd yn yr amgylchedd adeiledig. O dan ei arweiniad e, mae YBC wedi dod yn un o’r ysgolion pensaernïol mwyaf a mwyaf clodfawr yn y DU. Mae Phil wedi gweithredu fel ymgynghorydd i lywodraeth y DU ar reoleiddiadau adeiladu ac mae e wedi cadeirio sawl gweithgor gweithredol. Ar hyn o bryd mae e’n cadeirio rhwydwaith Ewropeaidd COST 23 ‘Amgylcheddau Adeiledig Trefol Carbon Isel’, gydag 19 aelod gwladwriaethol. Ymunodd Phil â Cymru Gynnes fel Aelod ac fel Cadeirydd y Bwrdd pan sefydlwyd y cwmni yn 2004.

Phil Roberts

Ymunodd Phil â’r Bwrdd yn 2008 pan oedd e’n Is Brif Weithredwr yn Grŵp Gwalia Cyf, un o brif ddarparwyr cartrefu fforddiadwy a gwasanaethau cefnogaeth. Mae gan Phil radd feistr mewn pensaernïaeth amgylcheddol ac mae’n syrfëwr siartredig gyda diddordeb arbennig mewn cyfuno dylunio o safon uchel ag egwyddorion a thechnoleg amgylcheddol. Mae Phil yn Aelod o Gymdeithas Frenhinol y Penseiri yng Nghymru. Mae’n ddarlithydd teithiol ac yn Gymrawd Ymchwil Er Anrhydedd yn Ysgol Bensaernïaeth Cymru ac yn Gadeirydd Gwybodaeth Goed Cymru. Yn 2009, apwyntiwyd Phil yn Brif Weithredwr Cymru Gynnes.

Richard Grant O.B.E

Gwyddonydd amgylcheddol ydy Richard, sydd wedi gweithio i gwmnïau rhyngwladol megis Shell, Shell International, BP a’r Grid Cenedlaethol. Ar hyn o bryd, Richard ydy Cyfarwyddwr Datblygu Cymru Gynnes. Iddo fe mae’r diolch am arwain datblygiad datrys tlodi ynni o fewn y DU am mai ef oedd Cyfarwyddwr Cynllun Gwres Fforddiadwy’r Grid Cenedlaethol ar y pryd, yn ogystal â bod yn Bennaeth ar Uned Dylunio ac Arddangos yr Adran Fusnes, Menter a Diwygio Rheoleiddio. Derbyniodd Richard OBE am ei wasanaeth i’r diwydiant ynni yn Rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines ym mis Mehefin 2009. Mae e hefyd yn aelod o Fwrdd Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Ynni Kirklees, cwmni buddiant cymunedol sy’n rheoli un o’r cynlluniau tlodi tanwydd mwyaf yn y DU.

Ian Parfitt

Mae Ian yn syrfëwr meintiau siartredig sydd wedi sefydlu a rheoli nifer o gwmnïau preifat. Mae e’n Rheolwr Gyfarwyddwr yn Richard Parfitt Associates, sy’n darparu gwasanaethau rheoli prosiect ac arolygu i gleientiaid o bwys ym meysydd manwerthu, bancio ac addysg. Mae RPA yn un o’r ychydig gwmnïau yng Nghymru i weinyddu cytundeb Menter Ariannu Breifat (PFI). Mae Ian yn cyfrannu at y Bwrdd trwy ei wybodaeth yn ogystal â’i arbenigedd masnachol mewn cwmni preifat.

John Wybrew

Mae John yn beirianydd cymwysedig ac mae e wedi bod yn uwch swyddog mewn nifer o  gwmnïau rhyngwladol, gan gynnwys Grŵp Shell a Nwy Prydain a’i gwmnïau olynnol. Bu’n aelod o Fwrdd Shell UK, ail gwmni gweithredol mwyaf Shell, am saith mlynedd. Yn ystod y 1980au hwyr, bu ar secondiad tair blynedd yn Uned Bolisi’r Prif Weinidog, yn ymgynghori ar bolisïau ynni a thrafnidiaeth. Mae John yn Aelod anweithredol o’r corff rheoleiddio nwy a thrydan, OFGEM, ac yn Gadeirydd y Cyngor Ynni Prydeinig a chyngor sgiliau’r sector, Sgiliau Ynni a Gwasanaethau.

Stephen Berry

Ysgrifennydd y Cwmni. Cefnogaeth i’r Bwrdd.
Mae Stephen Berry yn gyfreithiwr cymwysedig yng nghwmni M&A Solicitors, Caerdydd, ac mae’n cefnogi’r Bwrdd fel Ysgrifennydd y Cwmni.