Rydych yma » Hafan » Amdanom Ni » Gwerthoedd / Amcanion

Gwerthoedd / Amcanion

Ar hyn o bryd, mae tua 220,000 o gartrefi yng Nghymru’n dioddef heb lais, gyda biliau ynni’n llyncu dros 10% o’u hincwm am nad ydy eu cartrefi’n defnyddio ynni’n effeithiol ac mae eu hincwm yn isel. Bob tro bydd prisiau ynni’n codi, mae mwy o bobl yn syrthio i fagl tlodi tanwydd.

Mae’n rhaid i’r sefyllfa yma newid. Mae tystiolaeth yn awgrymu fod cartrefi mewn tlodi tanwydd yn wynebu risg gynyddol o afiechydon difrifol, ac mae eu plant yn fwy tebygol o fethu yn yr ysgol. Bob blwyddyn bydd cannoedd o bobl yng Nghymru, nifer ohonyn nhw’n hen, yn marw o afiechydon neu heintiau sy’n ymwneud ag oerfel. Bydd eraill yn gorfod mynd i’r ysbyty neu ymweld â’u meddyg yn amlach am eu bod yn sâl. Mae cartrefi oer a thamp yn rhan arwyddocaol o’r sefyllfa annerbyniol hon.

Mae Cwmni Buddiant Cymunedol Cymru Gynnes yn bwriadu newid hyn oll trwy ddod â’r cyfranogwyr allweddol ar draws Cymru at ei gilydd a chyflenwi partneriaethau dyfeisgar, tymor hir a fydd yn dileu tlodi tanwydd a chyfrannu at ddefnydd ynni cynaliadwy yng Nghymru.

Ein nod ydy sicrhau fod prosiectau cychwynnol mewn cartrefu cynaliadwy’n cael eu hystyried fel potensial ar gyfer y dyfodol yn hytrach na rywbeth newydd dros dro. Mae Tai Cynaliadwy Cymru’n awyddus i gynnig cyngor a meithrin hyder mewn datblygwyr tai cymdeithas i gyfleu lefelau uchel o gynaliadwyedd mewn dull fforddiadwy a hawdd i’w ddyblygu.

Bydd gwasanaethau’n cynnwys:

  • Hyfforddiant;
  • Datblygu gwybodaeth a sgiliau;
  • Mynediad i ffynhonellau ariannu;
  • Cyngor proffesiynol a gwasanaethau rheoli prosiect.


Yn y cyfnod hwn o newidiadau cyflym, rydyn ni’n credu fod angen am gefnogaeth arbenigol a chyngor ymarferol. Rydyn ni hefyd yn credu y gallwn gynorthwyo mewn cyfleu datrysiadau fforddiadwy i Landlordiaid Tai Cymdeithas Cofrestredig (LTCC) i gyrraedd, a rhagori ar, Fesur Safon Tai Cymru.