Rydych yma » Hafan » Gwres yn y Gymuned

Gwres yn y Gymuned

Mae Cymru Gynnes, mewn partneriaeth â npower, yn gweithio gyda nifer o Awdurdodau Lleol trwy Gymru i gyflenwi prosiectau Gwres Fforddiadwy i gymunedau yn y sector breifat sydd fwyaf agored i niwed, yn ogystal â LTCC a thai awdurdodau lleol.

Mae’n cynlluniau cyfredol yn targedu cartrefi yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig (Mynegai Anghenion Lluosog Cymru 2008). Mae pob cartref o fewn ‘Ardaloedd Allbwn Gor Isel’ yn derbyn ymweliad, waeth pwy ydy’r perchennog na beth ydy incwm y cartref a.y.b., ac mae pob mesur sydd ar gael yn cael ei gynnig i’r teuluoedd. Dydy Tlodi Tanwydd ddim yn cydnabod ffiniau na manylion lleoliad, felly mae’n cynllun ni’n ceisio datrys y broblem hon lle bynnag mae i’w chanfod.

Mae nifer o gartrefi’n gymwys i dderbyn insiwleiddio a mesurau gwresogi’n rhad ac am ddim:

  • Dros 70 oed
  • Yn hawlio budd-dâl blaenoriaeth

Mae nifer o bobl eraill sy’n byw mewn Tlodi Tanwydd wedi eu heithrio o’r amodau i dderbyn cymorth.

Mae Gwres i’r Gymuned Cymru’n cynnig cymorth i’r cartrefi hynny hefyd. Os oes cartref agored i niwed yn byw mewn Tlodi Tanwydd, fe helpwn ni nhw yn rhad ac am ddim – beth bynnag ydy’r budd-daliadau sy’n cael eu hawlio, neu bwy bynnag ydy aelodau’r cartref.

Diffinad: Tlodi Tanwydd
Tlodi Tanwydd – mae’n bodoli pan fod aelodau cartref yn gorfod gwario 10% neu fwy o’u hincwm er mwyn sicrhau lefel ddigonol o wres yn eu cartref.

Bydd cartrefi nad sy’n perthyn i’r categorïau uchod ond sydd angen gweithredu mesurau arbed ynni yn cael cynnig cyfradd gostyngol – rydyn ni’n gwarantu na fydd neb yn talu mwy na £149 – ac mae rhai o’n cynlluniau ni’n cynnig insiwleiddio am gyn lleied â £29 ar hyn o bryd.

Mae’r mesurau’n cynnwys insiwleiddio llofft a waliau dwbl, a’r posibilrwydd o insiwleiddio muriau mewnol ac allanol, cysylltu nwy, gwres canolog a thechnoleg gwresogi cynaliadwy.

Nid dyma’r unig fesurau mae Cymru Gynnes yn eu hystyried – rydyn ni hefyd yn cynnig:

  • Cyngor ar Fudd-daliadau
  • Cyngor ar Dariffau
  • Cyngor ar Ynni
  • Rheoli Dyled Ynni
  • Gwiriadau Diogelwch Tân Cartref
  • Synwyryddion Carbon Monocsid
  • Arddangosiadau Amser Cywir


Rydyn ni’n anelu at greu datrysiadau cymunedol – nid atebion dros dro.