Sut ydw i’n cymhwyso?
Os ydych chi’n ateb ‘YDW’ i’r cwestiynau isod ac mae gyda chi dŷ â waliau dwbl neu lofft i’w insiwleiddio, gall Cymru Gynnes eich helpu i dderbyn insiwleiddio yn rhad ac am ddim. Croeso i chi’n ffonio ni ar 01639 825960 os oes gyda chi unrhyw gwestiwn yr hoffech ei ofyn.
Ydych chi’n byw yn un o’r siroedd lle rydyn ni’n gweithio?
Ydych chi’n byw mewn ardal benodedig gan Cymru Gynnes o fewn y sir honno?
Ydych chi’n 70 oed neu’n hŷn?
neu
Ydych chi’n derbyn un o’r budd-daliadau isod?
- Ategiad Incwm
- Ategiad Incwm + Premiwm Anabledd
- Credydau Pensiwn
- Credyd Treth Plant (incwm blynyddol yn llai na £15,592)
- Budd-dal Tai
- Budd-dal Tai + Premiwm Anabledd
- Budd-dal Treth Cyngor
- Budd-dal Treth Cyngor + Premiwm Anabledd
- Credydau Treth Gweithio (incwm blynyddol yn llai na £15,592)
- Credydau Treth Gweithio + Premiwm Anabledd
- Lwfans Ymgeiswyr Swyddi wedi ei seilio ar Incwm
- Lwfans Mynychu
- Lwfans Byw gydag Anabledd
- Pensiwn Anabledd Rhyfel gyda Lwfans Mynychu Parhaol neu Ategiad Symudoldeb
a/neu
Ydych chi’n gwario mwy na 10% o incwm eich cartref* – wedi tynnu treth ac Yswiriant Gwladol – i wresogi’ch cartref?
*Gall Cymru Gynnes amcangyfrif hyn ar eich rhan unwaith byddwch chi wedi derbyn eich asesiad. Mae incwm cartref yn cynnwys pob cyflog, budd-dal, pensiwn a chyfraniad a wneir i gyllideb y teulu neu’r cartref.
