Penybont ar Ogwr
Am fwy o wybodaeth, ffoniwch 0845 0261 135.
Amlinelliad o’r Prosiect
Mae Cymru Gynnes, mewn partneriaeth â npower a Chyngor Sir Bwrdeistref Pen-y-bont ar Ogwr (CSBP) yn cynnig ymgymryd â phrosiect Gwres Fforddiadwy o fewn sir Pen-y-bont ar Ogwr. Mae’r tai sy’n cael eu targedu yn perthyn i’r sector breifat ac yn dai ar osod.
Mae’r tai i gyd o fewn ‘ardaloedd-allbwn-gor-isel’ [LSOA] o fewn cwintel uchaf ardaloedd difreintiedig Cymru (WIMD 2008). Bydd y prosiect yn cyfannu’r gwaith sydd wedi cael ei wneud hyd yn hyn gyda’r sector dai cymdeithas trwy sefydlu mesurau i helpu gostwng tlodi tanwydd o fewn y cartrefi mwyaf difreintiedig ac agored i niwed yn y sector dai preifat.
Bydd y prosiect hefyd yn cynnig amrywiaeth o fesurau ‘meddal’ fydd yn anelu at wneud y mwyaf o incwm y cartref a/neu ostwng cost ynni.
Buddion y Prosiect
Bydd y prosiect yn:
- Gostwng costau tanwydd i deuluoedd trwy ddarparu, lle’n bosibl, insiwleiddio cartref gwell, cael defnyddio ynni rhatach a systemau gwresogi newydd;
- Gostwng lledaeniadau atmosfferig gan gynnwys carbon deuocsid, nwyon asidig a defnydd gronynnol;
- Cynyddu incwm mewn cartrefi anghenus trwy adnabod cyfleoedd i ysgafnhau baich dyled ynni, sefydlu tariffau ynni cymdeithasol is i gartrefi cymwys a chynnig cyngor a chymorth ar gyfer hawlio budd-daliadau;
- Sefydlu cyfleoedd cyflogaeth;
- Cyfleu data SAP ac ystadegol cynhwysfawr ar BOB cartref sy’n cael ei asesu i’r awdurdod, trwy adroddiad ein data bas MAXIM.
