Rydych yma » Hafan » Gwres yn y Gymuned » Lle rydyn ni’n gweithio » Sir Ddinbych

Sir Ddinbych

Am fwy o wybodaeth, ffoniwch 0845 0261 135.

Amlinelliad o’r Prosiect
Mae Cymru Gynnes, mewn partneriaeth â npower, Cyngor Sir Ddinbych (CSD) a Llywodraeth Cynulliad Cymru (LlCC) yn cynnig ymgymryd â phrosiect Gwres Fforddiadwy o fewn y sir.

Mae’r tai sy’n cael eu targedu yn perthyn i’r sector breifat ac yn dai ar osod, ac yn gyffredinol, maen nhw o fewn cwintel uchaf ‘ardaloedd-allbwn-gor-isel’ ym Mynegai Anghenion Lluosog Cymru (WIMD 2008).

Bydd y prosiect yn cyfannu’r gwaith sydd wedi cael ei wneud hyd yn o fewn y sector dai cymdeithas trwy sefydlu mesurau i helpu gostwng tlodi tanwydd o fewn y cartrefi mwyaf difreintiedig ac agored i niwed yn y sector dai preifat.

Bydd y prosiect hefyd yn cynnig amrywiaeth o fesurau ‘meddal’ fydd yn anelu at wneud y mwyaf o incwm y cartref a/neu ostwng cost ynni. Bydd hefyd yn darparu Gwiriadau Diogelwch Tân Cartrefi (GDTC) a nifer cyfyngedig o synhwyryddion Carbon Monocsid (CO) i gartrefi yn yr Ardaloedd Adnewyddu.

I annog teuluoedd i gwblhau asesiad, byddan nhw’n cael cynnig pedwar Bylb Golau Arbed Ynni yn rhad ac am ddim.

Buddion y Prosiect
Bydd y prosiect yn:

  • Gostwng costau tanwydd i deuluoedd trwy ddarparu, lle’n addas, insiwleiddio cartref gwell, cael defnyddio ynni rhatach a systemau gwresogi newydd;
  • Gostwng lledaeniad atmosfferig gan gynwys carbon deuocsid, nwyon asidig a defnydd gronynnol;
  • Cynyddu incwm mewn cartrefi trwy adnabod cyfleoedd i ysgafnhau baich dyled ynni, sefydlu tariffau ynni cymdeithasol is i gartrefi cymwys a chynnig cyngor a chymorth ar gyfer hawlio budd-daliadau;
  • Sefydlu cyfleoedd cyflogaeth;
  • Cyfleu data SAP ac ystadegol cynhwysfawr ar BOB cartref sy’n cael ei asesu i’r awdurdod, trwy gronfa ddata Cymru Gynnes;
  • Cynyddu ymwybyddiaeth o fewn cartrefi o risgiau tân trwy ddarparu Gwiriadau Diogelwch Tân Cartref;
  • Ceisio amddiffyn yn erbyn risg lefelau peryglus Carbon Monocsid mewn cartrefi trwy ddarparu synhwyryddion.