Sir y Fflint
Am fwy o wybodaeth, ffoniwch 0845 0261 135.
Amlinelliad o’r Prosiect
Mae Cymru Gynnes, mewn partneriaeth â npower a Chyngor Sir y Fflint (CSFf) yn cynnig ymgymryd â phrosiect gwres fforddiadwy o fewn sir y Fflint. Mae’r holl dai sy’n rhan o’r prosiect ‘ardaloedd-allbwn-gor-isel’ yn y cymunedau uchaf ar restr Mynegai Anghenion Lluosog Cymru (WIMD 2008). Bydd y prosiect yn gorfod ymweld â PHOB tŷ sector breifat o fewn cwintel uchaf ardaloedd difreintiedig y mynegai hwn, a bydd y tai sy’n weddill yn cael eu dewis o blith y cymunedau sydd uchaf yn y mynegai. Bydd y prosiect yn cyfannu’r gwaith sydd wedi cael ei wneud hyd yn o fewn y sector dai cymdeithas trwy sefydlu mesurau i helpu gostwng tlodi tanwydd o fewn y cartrefi mwyaf difreintiedig ac agored i niwed yn y sector dai preifat. Bydd y prosiect hefyd yn cynnig amrywiaeth o fesurau ‘meddal’ fydd yn anelu at wneud y mwyaf o incwm y cartref a/neu ostwng cost ynni. I annog teuluoedd i gwblhau asesiad, byddan nhw’n cael cynnig Bylbiau Golau Arbed Ynni yn rhad ac am ddim.
Buddion y Prosiect
Bydd y prosiect yn:
- Gostwng costau tanwydd i deuluoedd trwy ddarparu, lle’n addas, insiwleiddio cartref gwell, cael defnyddio ynni rhatach a systemau gwresogi newydd;
- Gostwng lledaeniad atmosfferig gan gynwys carbon deuocsid, nwyon asidig a defnydd gronynnol;
- Cynyddu incwm mewn cartrefi trwy adnabod cyfleoedd i ysgafnhau baich dyled ynni, sefydlu tariffau ynni cymdeithasol is i gartrefi cymwys a chynnig cyngor a chymorth ar gyfer hawlio budd-daliadau;
- Sefydlu cyfleoedd cyflogaeth.
