Castell-nedd Port Talbot
Am fwy o wybodaeth, ffoniwch 0845 0261 135.
Amlinelliad o’r Prosiect
Arweiniodd Castell-nedd Port Talbot y ffordd yng Nghymru trwy lansio’r prosiect tlodi tanwydd ac arbed ynni mwyaf cynhwysfawr yn y wlad. Gweithiodd yr awdurdod lleol gyda Cymru Gynnes i gynnig cyfle i bawb yn y fwrdeistref ddefnyddio ynni’n fwy effeithiol. Mae’r prosiect wedi cyfleu buddsoddiad o dros £10.3m i gartrefi lleol hyd yn hyn.
Mae’r prosiect ‘Cyflenwi Cartrefi Cynnes i Gastell-nedd Port Talbot’ wedi creu partneriaeth ddeinamig gyda nifer o sefydliadau eraill hefyd, gan gynnwys Llywodraeth Cynulliad Cymru, y Grid Cenedlaethol a npower. Maen nhw i gyd yn cydweithio i helpu dileu tlodi ynni a mynd i’r afael ag ynni effeithiol ar raddfa eang.
Bu Cymru Gynnes yn ymweld â phob cartref yn y fwrdeistref yn ystod 3 blynedd gychwynnol y cynllun i gynnig insiwleiddio cartref yn rhad ac am ddim, cyngor ar fudd-daliadau ac mewn rhai achosion, gwres canolog. Cafodd y tai hynny nad oedd yn gymwys i dderbyn gwaith yn rhad ac am ddim gynnig gostyngiad sylweddol ar gost insiwleiddio cartref. Parhaodd y cynllun am 2 flynedd arall ac ail-ymweld â chartrefi nad oedd wedi bod yn rhan o’r cynllun yn y tair blynedd gyntaf.
2004 i 2007: Ffigyrau Adolygiad 3 Blynedd
- Cysylltwyd â 62,000 o gartrefi
- Aseswyd 81% o gartrefi
- Derbyniodd 19,000 o gartrefi gymorth gydag insiwleiddio
- Crëwyd £2.1m mewn budd-daliadau ychwanegol
Buddion y Prosiect
Cynlluniwyd a sefydlwyd y prosiect er mwyn:
- Gostwng nifer y marwolaethau a achoswyd gan, neu oedd yn ymwneud ag oerfel yn y Bwrdeistref Sirol;
- Asesu anghenion effeithiolrwydd ynni 80% o gartrefi;
- Creu 50 o swyddi lleol – bydd 50% o’r rhain yn gynaliadwy am o leiaf 5 mlynedd;
- Lle bynnag mae hynny’n bosibl, codi lefelau effeithiolrwydd ynni cartref i gyflawni amcanion Mesur Safon Tai Cymru;
- Cynyddu ymwybyddiaeth o ynni effeithiol yn yr ardal;
- Gostwng lledaeniadau CO²;
- Defnydd is o danwydd;
- Cynyddu hawlio budd-daliadau i gartrefi cymwys;
- Gweithio gyda chynlluniau Cymunedau’n Gyntaf.
Adroddiad Prosiect
Darllen neu lawrlwytho dogfen pdf o adolygiad cynllun tair blynedd Castell-nedd Port Talbot
