Torfaen
Am fwy o wybodaeth, ffoniwch 0845 0261 135.
Amlinelliad o’r Prosiect
Mae Cymru Gynnes, mewn partneriaeth â npower a Chyngor Bwrdeistref Sir Torfaen, yn cynnig ymgymryd â phrosiect Gwres Fforddiadwy o fewn bwrdeistref sir Torfaen. Mae’r tai sy’n cael eu targedu’n perthyn i’r sector breifat ac yn dai ar osod.
Mae’r tai i gyd o fewn ‘ardaloedd-allbwn-gor-isel’ o fewn cwintel uchaf ardaloedd difreintiedig yng Nghymru (WIMD 2008). Bydd y prosiect yn cyfannu’r gwaith sydd wedi cael ei wneud gan Gyngor Bwrdeistref Sir Torfaen hyd yn hyn o fewn y sector dai cymdeithas trwy sefydlu mesurau i helpu gostwng tlodi tanwydd o fewn y cartrefi mwyaf difreintiedig ac agored i niwed yn y sector dai preifat.
Bydd y prosiect hefyd yn cynnig amrywiaeth o fesurau ‘meddal’ fydd yn anelu at wneud y mwyaf o incwm y cartref a/neu ostwng cost ynni. I annog teuluoedd i gwblhau asesiad, byddan nhw’n cael cynnig Bylbiau Golau Arbed Ynni yn rhad ac am ddim.
Buddion y Prosiect
Bydd y prosiect yn:
- Gostwng costau tanwydd i deuluoedd trwy ddarparu, lle’n addas, insiwleiddio cartref gwell, cael defnyddio ynni rhatach a systemau gwresogi newydd;
- Gostwng lledaeniad atmosfferig gan gynwys carbon deuocsid, nwyon asidig a defnydd gronynnol;
- Cynyddu incwm mewn cartrefi trwy adnabod cyfleoedd i ysgafnhau baich dyled ynni, sefydlu tariffau ynni cymdeithasol is i gartrefi cymwys a chynnig cyngor a chymorth ar gyfer hawlio budd-daliadau;
- Sefydlu cyfleoedd cyflogaeth cynaliadwy;
- Cyfleu data SAP ac ystadegol cynhwysfawr ar BOB cartref sy’n cael ei asesu i’r awdurdod, trwy adroddiad cronfa ddata MAXIM.
