Wrecsam
Am fwy o wybodaeth, ffoniwch 0845 0261 135.
Amlinelliad o’r Prosiect
Cyngor Bwrdeistref Sir Wrecsam oedd yr ail awdurdod lleol yng Nghymru i lansio prosiect tlodi tanwydd ac ynni effeithiol ledled y sir. Mewn partneriaeth â Cymru Gynnes, gwnaeth Cyngor Wrecsam hi’n bosibl i bob trigolyn gael cyfle i ddefnyddio ynni’n fwy effeithiol. Gallai hyn ddod â buddsoddiad o tua £10m. i bobl yn Wrecsam.
Mae’r prosiect ‘Cyflenwi Cartrefi Cynnes i Wrecsam’ wedi creu partneriaeth ddeinamig gyda llawer o sefydliadau eraill hefyd, gan gynnwys Llywodraeth Cynulliad Cymru, y Grid Cenedlaethol a npower. Maen nhw i gyd yn cydweithio i helpu dileu tlodi ynni a mynd i’r afael ag ynni effeithiol ar raddfa eang.
Mae Cyngor Wrecsam heyfd eisiau helpu trigolion i wellau eu hiechyd, eu lles a diogelwch yn y cartref. Mae prosiect ‘Cyflenwi cartrefi cynnes a iechyd gwell i Wrecsam’ yn cynyddu ymwybyddiaeth o, ac yn cyfeirio pobl at adrannau’r Cyngor a sefydliadau sydd eisoes yn cynnig gwasanaethau o fewn y sir. Mae timau o fewn y Cyngor – Hybu Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Heddlu Diogelwch Cymunedol, y tîm Diogelwch Tân a Gofal a Chyweirio Wrecsam – yn cyfleu gwasanaethau mewn partneriaeth â Cymru Gynnes.
Buddion y Prosiect
Prif nod ‘Cyflenwi cartrefi cynnes i Wrecsam’ oedd lleihau’r nifer o bobl mewn tlodi tanwydd yn yr ardal trwy gyflwyno mesurau effeithiolrwydd ynni i 80% o gartrefi oedd mewn tlodi tanwydd.
Cynlluniwyd a sefydlwyd y prosiect er mwyn:
- Gostwng nifer y marwolaethau a achoswyd gan, neu oedd yn ymwneud ag oerfel yn y Fwrdeistref Sirol;
- Asesu anghenion effeithiolrwydd ynni 80% o gartrefi;
- Creu 25 o swyddi lleol – bydd 50% o’r rhain yn gynaliadwy am o leiaf 5 mlynedd;
- Lle bynnag mae hynny’n bosibl, codi lefelau effethiolrwydd ynni cartref i gyflawni amcanion Mesur Safon Tai Cymru;
- Sefydlu Canolfan Cyngor Ynni leol mewn siop yng nghanol y dref rydyn ni’n gobeithio ei rhannu gydag Undeb Credyd;
- Cynyddu ymwybyddiaeth o ynni effeithiol yn yr ardal;
- Gostwng lledaeniadau CO²;
- Defnydd is o danwydd;
- Cynyddu hawlio budd-daliadau i gartrefi cymwys;
- Gweithio gyda chynlluniau Cymunedau’n Gyntaf;
- Cynnig atgyfeiriadau i amrywiaeth o gynlluniau lleol sy’n cynnig gwasanaeth i grwpiau agored i niwed fel pobl hŷn a phlant ifanc.
Adolygiad y Prosiect
Darllen neu lawrlwytho dogfen pdf o adolygiad cynllun tair blynedd Wrecsam.
