FAQs
Pam fod Cymru Gynnes yn wahanol?
Hwn oedd y cynllun cyntaf, a hwn ydy’r unig gynllun o’i fath yng Nghymru. Rydyn ni’n gweithio’n agos gyda chynghorau Sir gyda’r bwriad o leihau eich biliau tanwydd a gwneud eich cartref yn gynhesach.
Fydd hyn yn ddrud? Fydd rhaid i fi dalu?
Mae eich cyngor wedi gweithio gyda ni i ariannu’r cynllun hwn. Mae hyn yn golygu na fydd trigolion sydd fwyaf mewn angen yn gorfod talu dime goch.
Sut alla i wybod os ydw i’n gymwys i dderbyn help?
Rydyn ni’n anfon ein tîm atoch chi i ofyn cwestiynau all ein helpu ni i asesu a ydych chi’n gymwys. Er bod rhywfaint o’r wybodaeth sydd ei hangen arnon ni’n bersonol, mae’n bwysig i chi roi’r atebion yna i ni er mwyn i ni sicrhau eich bod yn gymwys. Rydyn ni’n addo na fyddwn ni’n trosglwyddo’r wybodaeth hon i unrhyw un arall heb eich caniatâd. Bydd pob cartref cymwys yn yr ardal yn derbyn llythyr o gyflwyniad a phecyn gwybodaeth cyn i ni alw i esbonio’r cynllun.
Beth os na fydda i’n gymwys i dderbyn help?
Hyd yn oed os nad ydych chi’n gymwys am unrhyw grantiau, gallwn ni gynnig cyngor i chi ar wneud eich cartref yn fwy effeithiol o ran ynni. Bydd pawb sy’n llenwi holiadur i ni’n derbyn bylbiau ynni effeithiol yn rhad ac am ddim. Yn ogystal, rydyn ni’n cynnig gostyngiad sylweddol i bob cartref ar fesurau insiwleiddio cartref hyd yn oed os, yn anffodus, dydyn nhw ddim yn gymwys i dderbyn cymorth yn rhad ac am ddim
Pa fath o help allwn i ei gael?
Os ydych chi’n gymwys, gallech chi gael help gydag insiwleiddio llofft a wal ddwbl, gorchudd i’r tanc dŵr poeth ac efallai hyd yn oed gwelliant i’r gwres canolog.
Os bydda i’n cwblhau’r holiadur, beth fydd yn digwydd wedyn?
Os ydych chi’n gymwys i dderbyn cymorth, bydd syrfëwr yn ymweld â chi i weld beth yn union sydd angen ei wneud. Wedyn bydd ein contractwr yn cysylltu â chi i drefnu pryd all y gwaith gael ei wneud. Mae mor syml â hynny!
Faint fydd hyn yn ei gymryd?
Bydd yn dibynnu ar ba waith sydd angen ei wneud. Ond rydyn ni’n gobeithio y gall unrhyw waith gael ei wneud o fewn ychydig wythnosau wedi’r holiadur.
Rydw i’n byw mewn tŷ neu fflat ar osod. Fydd fy landlord yn caniatàu i fi gael y gwaith wedi ei wneud os ydyn ni’n gymwys?
Byddwn ni’n cysylltu â’r landlord i ddweud wrthyn nhw am y cynnig di-dâl. Os byddan nhw’n rhoi caniatâd, gallwn wneud y gwaith i chi. Os na fyddwch chi’n gymwys i gael gwaith di-dâl, bydd ein contractwyr yn cynnig gostyngiad i’ch landlord.
Alla i dderbyn grant i helpu talu fy miliau tanwydd?
Na. Ond gall ein tîm eich helpu i ddarganfod a oes budd-daliadau eraill y gallwch chi eu hawlio.
Sut fydda i’n gwybod pwy ydych chi pan fyddwch chi’n galw?
Bydd ein staff i gyd wedi derbyn gwiriad CRB a byddan nhw’n gwisgo gwisg goch arbennig gyda logo draig y cynllun arni. Byddan nhw’n cario cardiau adnabod. Gofynnwch am weld y carden hwn cyn rhoi mynediad i’ch cartref i unrhyw un, os gwelwch yn dda.
