Astudiaethau Achos
Astudiaeth Achos 1: Mrs Brenda Thomas, Llansawel
Pan dorrodd hen foeler glo Mrs Thomas i lawr dros y Flwyddyn Newydd, roedd ei theulu’n poeni’n arw am ei hiechyd. Roedd hi wedi bod yn yr ysbyty ddwywaith yn ddiweddar. Roedd hi’n anodd dod o hyd i blymer i wneud y gwaith yn ystod cyfnod yna’r flwyddyn, a doedd gan Mrs Thomas ddim cynilon i dalu am foeler newydd. Dywedodd y cynghorydd lleol wrth Cymru Gynnes am sefyllfa Mrs Thomas.
O fewn pythefnos, roedd Cymru Gynnes wedi trefnu cyswllt nwy i’r tŷ, ac roedd gan Mrs Thomas system gwres canolog nwy newydd sbon. Dywedodd Mrs Thomas: “Mae wedi gwneud gwahaniaeth anferth i fi. Ro’n i’n ei chael hi’n anodd delio gyda’r glo, ac roedd aelod o’r teulu’n gorfod galw bob dydd i fy helpu i. Nawr mae gen i reiddiadur ym mhob ystafell am y tro cyntaf, ac mae fy ystafell wely yn gynnes ac yn glyd.” Ychydig wedi hynny, roedd Mrs Thomas yn gallu arbed mwy fyth ar ei biliau tanwydd pan gafodd insiwleiddio llofft a wal ddwbl eu gosod yn y tŷ yn rhad ac am ddim.
Astudiaeth Achos 2: Mr Michael Freeman, Glyncorrwg
Roedd Mr Freeman yn ceisio gwresogi ei dŷ gydag ambell hen stôr-wresogydd a thân trydan. Roedd hyn yn ddrud ac roedd e’n defnyddio ei gynilon i dalu ei filiau tanwydd. Roedd e’n poeni na fyddai’n gallu parhau i fforddio byw yn y tŷ. Bu Mr Freeman yn rhan o gynllun ‘Cyflenwi Cartrefi Cynnes i Gastell-nedd Port Talbot’ ac roedd hi’n anodd ganddo gredu’r lwc dda a ddaeth yn sgil hynny.
Gosododd Cymru Gynnes system gwres canolog nwy cyflawn ac insiwleiddio yn y tŷ. Gweithiodd y tîm budd-daliadau ar geisiadau ychwanegol gydag e, a bellach mae e’n derbyn £236 yn ychwanegol bob mis. Dywedodd Mr Freeman: “Nawr mae gen i gartref cynnes braf. Mae’r arian ychwanegol yn golygu nad oes rhaid i fi boeni am y dyfodol rhagor. Galla i fforddio aros yma a mwynhau fy nghartref. Allwn i byth fod wedi disgwyl y fath anrheg pen-blwydd.”
Astudiaeth Achos 3: Mrs Taylor, Port Talbot
Bu Nigel Whitworth o dîm Cynllun Ail-alluogi Cymunedol yn Ysbyty Cimla yn rhan o gynllun hyfforddi Iechyd trwy Wres npower gyda Cymru Gynnes. Roedd ei gleient, Mrs Taylor, wedi cael llawdriniaeth clun newydd. Sylwodd Nigel mai dim ond un tân nwy oedd ganddi i wresogi ei thŷ, a doedd hi ddim yn gallu estyn y botymau i’w reoli. Roedd staff gofal yn ymweld bob dydd i weithio’r tân iddi.
Atgyfeiriodd Nigel achos Mrs Taylor i Cymru Gynnes, ac fe osodon nhw system gwres canolog nwy cyflawn iddi. Dywedodd Mrs Taylor: “Nawr galla i aros yn fy nghartref a bod yn fwy annibynnol. Mae’r diolch am hynny i’r cymorth arbennig dwi wedi ei dderbyn gan Nigel, y tîm a Cymru Gynnes.”
Astudiaeth Achos 4: Y teulu Ross, Castell-nedd
Roedd y teulu Ross yn ei chael hi’n anodd i wella’r amodau byw yn eu cartref. Doedd dim gwres, dŵr poeth na chyflenwad dŵr digonol. Roedd y ddau blentyn ifanc yn dioddef yn aml o anwydydd, ac roedd yr hynaf yn colli amser yn yr ysgol. Roedd Mrs Ross yn disgwyl trydydd plentyn. Roedd incwm y teulu’n isel, ond doedden nhw ddim yn gymwys i dderbyn budd-daliadau ychwanegol.
Gosododd Cymru Gynnes system gwres canolog nwy newydd iddyn nhw, a helpu trwy weithio gyda’r cwmni dŵr i drefnu cyflenwad dŵr boddhaol.
