Gwasanaethau Gwerth Ychwanegol
Mae Cymru Gynnes yn cydweithio gyda nifer o sefydliadau eraill sy’n gweithio mewn cymunedau trwy Gymru gyfan i gynyddu ymwybyddiaeth o’r gwasanaethau niferus y gall trigolion lleol eu derbyn erbyn hyn. Mae tîm asesu Cymru Gynnes yn cynnig y gwasanaethau i bob cartref, ac mae’r rhain yn cynnwys:
- Hybu Iechyd sy’n cynnig ystod o offer diogelu plant mewn cartrefi incwm isel, ac offer arbed anafiadau i bobl hŷn;
- Y timau Gwasanaethau Cymdeithasol sy’n cynnig cyngor, gwasanaethau cefnogi a chanllawiau ymarferol i helpu pobl sydd â phob math o broblemau teuluol a gweithgareddau bywyd bob dydd;
- Mae gwasanaeth Crefftwyr Cymru Gynnes mewn partneriaeth â Gofal a Chyweirio’n cynnig gwneud mân dasgau cyweirio cartref a gosod cyfarpar diogelwch tân a chartref i bobl hŷn sy’n berchen ar eu cartref eu hun;
- Mae’r Gwasanaeth Atal Tân yn cynnig cyngor a chyfarpar diogelwch tân;
- Mae’r Cynllun Atal Troseddi’n cynnig cyngor ac asesiadau diogelwch cartref;
- Mae Gofal Henoed Cymru’n ceisio gwella bywydau holl bobl hŷn Cymru;
- Mae Cymru Gynnes hefyd yn gweithio gyda Safonau Masnach a Heddlu’r Gymuned i ddarparu adroddiad dibynadwy, cyson ac wedi ei gydlynu o ble rydyn ni a beth ydy’n gweithgareddau ni.
