Rydych yma » Hafan » Hafan » Gwres yn y Gymuned » Diogelwch

Diogelwch

security2

Mae’r tîm Gwres i’r Gymuned yn anfon llythyr o gyflwyniad a phecyn gwybodaeth i bob cartref cyn galw yn y cartrefi. Rydyn ni’n rhoi gwybod i’r heddlu ac asiantaethau lleol eraill am ein cynlluniau i ymweld â phob ardal ymlaen llaw. Mae ein tîm o Aseswyr yn gwisgo gwisg goch arbennig Gwres i’r Gymuned ac yn cario carden adnabod sy’n dangos eu llun a rhif ffôn cyswllt. Rydyn ni’n annog trigolion i ofyn am weld y garden cyn i’r asesiad gael ei wneud a’n ffonio ni os oes ganddyn nhw unrhyw bryderon. Mae pob aelod o’n staff ymweliadau cartref wedi pasio gwiriad diogelwch Swyddfa Cofnodion Troseddol (CRB) cyn eu bod yn cael galw mewn cartrefi. Bydd Gwres i’r Gymuned yn cadw gwybodaeth am drigolion yn gyfrinachol i’w defnyddio o fewn y cynllun, ac mae’n cydymffurfio â gofynion a chanllawiau Deddf Diogelu Data 1998.