Rydych yma » Hafan » Hafan » Gwres yn y Gymuned » Y Broses

Y Broses

1. Marchnata

marketing

Mae pob ardal yn derbyn ymweliad am gyfnod o farchnata dwys i roi gwybod i bobl a chreu ymwybyddiaeth fod cynllun Gwres i’r Gymuned ar fin dechrau yn eu hardal nhw. Mae hyn yn cynnwys cysylltu â nifer o grwpiau lleol i ddweud wrthyn nhw a’u haelodau am y cynllun, gosod hysbysebion ac erthyglau yn y papurau lleol a chynnal digwyddiadau lansio. Rydyn ni wedyn yn anfon llythyr a phecyn gwybodaeth at bob cartref sydd wedi ei gynnwys yn y cynllun gyda’r manylion llawn.

2. Asesiad

assessment

Mae ein tîm yn galw ym mhob tŷ sy’n rhan o’r cynllun i wahodd trigolion i fod yn rhan ohono trwy gwblhau ein holiadur rhiniog y drws. Rydyn ni hefyd yn ymweld â grwpiau lleol o fewn y gymuned, gweithleoedd a chanolfannau siopa i sicrhau ein bod yn llwyddo. Yn olaf, rydyn ni’n anfon ffurflen hunan-asesu i’r cartrefi na fuon ni’n medru cysylltu â nhw yn ystod cyfnod cychwynnol y cynllun.

3. Arolwg a Gosod

insulation

Mae ein tîm arolwg wedyn yn mesur yr holl dai sy’n gymwys i dderbyn gwaith insiwleddio’n rhad ac am ddim. Mae’n contractwyr wedyn yn gwneud apwyntiad gyda thrigolion y cartrefi i gyflawni’r gwaith.