Grantiau posibl ar gyfer cyflenwad nwy newydd
Efallai eich bod yn gymwys i dderbyn cymorth i dalu am eich cyflenwad nwy newydd.
Mae cynllun newydd i ehangu’r rhwydwaith nwy yng Nghymru a de-orllewin Lloegr wedi cael ei lansio’n ddiweddar gan Wales & West Utilities (WWU), mewn partneriaeth â Cymru Gynnes.
Mae’r cynllun, sy’n berthnasol i dai sefydledig yn unig, ar gyfer unigolion a chymunedau sydd ddim wedi profi manteision bod yn gysylltiedig â’r prif gyflenwad nwy.
Gallech chi fod yn gymwys i dderbyn grant os oes un o’r amodau isod yn berthnasol i chi:
- Mae’r gymuned lle rydych chi’n byw o fewn yr 20% o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru a Lloegr fel y’i diffinnir ym Mynegai Anghenion Lluosog y Llywodraeth (IMD);
- Rydych chi’n gwario dros 10% o’ch incwm ar danwydd i’r cartref;
- Rydych chi’n derbyn budd-dal lles;
- Rydych chi dros 70 mlwydd oed.
Os hoffech chi dderbyn amcan bris am gysylltu cyflenwad nwy i’ch cartref, cysylltwch â Wales & West Utilities, neu ewch i’w gwefan. Yma gallwch lenwi ffurflen gais ar-lein i wneud cais am amcan bris ar gyfer cysylltu â’r prif gyflenwad nwy.
I weld a ydych chi’n gymwys i dderbyn grant, llenwch y ffurflen a amgaewyd gyda’ch amcan bris a’i dychwelyd aton ni yn yr amlen ddi-dâl. Gwnawn ni ymrwymo i gwblhau’r asesiad cymhwyso Tlodi Tanwydd ar ran WWU.
Sut mae’n gweithio
Pan fod cais yn gymwys, bydd taleb am fwyafswm gwerth o £1,815 yn cael ei hanfon atoch chi. Dylech chi gyflwyno’r daleb i Wales & West Utilities ynghyd â ffurflen derbyn amcan bris wedi ei llofnodi, i’w hadfer fel rhan o’r gost, neu gost gyfan, y cyswllt â’r cyflenwad nwy.
Bydd Cymru Gynnes hefyd yn medru eich cynghori chi os ydych chi’n gymwys i dderbyn unrhyw ariannu pellach tuag at gost boeler, gwaith pibellau tu fewn, cyfarpar nwy a.y.b.
