Cartrefi Cynaliadwy
Nod Cymru Gynnes ydy helpu i ddileu tlodi tanwydd yn y cymunedau rheiny lle mae’n partneriaid ymhlith Awdurdodau Lleol a LTCC yn gweithredu.
Rydyn ni’n cyflawni hyn trwy ddarparu:
- Cyngor technegol a chymorth ar ddatrysiadau cost effeithiol ac effeithiol o ran ynni, i dai newydd a sefydledig;
- Cymorth ymarferol gydag ariannu a gosod mesurau gwella’r amgylchedd fel Insiwleiddio Arbennig, Cyfyngu Aer, Pympiau Gwres Tarddiad Aer, Celloedd PV, dŵr Poeth Heulol, Gwresogi Bio-mäs a.y.b.;
- Cael mynediad i gartrefi preifat sy’n byw mewn tai a fu’n dai cymdeithas i’r un ystod o fesurau;
- Amrywiaeth o wasanaethau eraill, fel estyniadau i bibau rhwydwaith nwy, budd-daliadau lles a chyngor ar dariffau ynni i gartrefi;
- Partneriaethau gyda’r gwasanaethau tân a’r heddlu ac asiantaethau gofal, i adnabod y sawl sydd angen gwasanaethau cymorth cymunedol arbenigol;
- Pecynnau Dylunio ac Adeiladu byddai’n cynnig arbenigedd datblygu, technegol ac adeiledd i gyflenwi adeiladau o’r radd amgylcheddol flaenaf, i gynlluniau ar gyfer tai newydd a rhai sefydledig fel ei gilydd. Lle mae’n bosibl, byddwn ni hefyd yn codi arian i helpu gwella hyfywedd ariannol i LTCC trwy gael mynediad i grantiau ychwanegol;
- Datblygiadau sy’n creu etifeddiaeth o wybodaeth i LTCC trwy ddosbarthiad gwybodaeth dechnegol arbenigol (trwy ddarparu Pecyn Technegol Tai Cynaliadwy Cymru at ddefnydd staff a thrigolion yn y dyfodol);
- Technegau arbenigol rhagfynegol TG, a fydd yn sicrhau fod datrysiadau dylunio ac adeiledd newydd yn perfformio fel y bwriedir iddyn nhw wneud;
- Monitro Ôl-Gwblhad ar adeiladau, i fesur perfformiad yn erbyn targedau a darparu mesur o’r gwir gost ynni a’r arian a gafodd ei arbed;
- Cyngor hyfforddi, gweithdai a chynhadleddau wedi eu teilwra i gynyddu gwybodaeth ac ymwybyddiaeth i LTCC, Contractwyr, Defnyddwyr ac eraill yn y sector;
- Creu gwaith tymor hir a chyfleoedd hyfforddi yn y gymuned leol.
