Rydych yma » Hafan » Cartrefi Cynaliadwy » Landlordiaid Tai Cymdeithas Cofrestredig

Landlordiaid Tai Cymdeithas Cofrestredig

Bu tlodi tanwydd yn amlwg yn y sector Tai Cymdeithas ers amser hir, gyda tua 70% o gartrefi’n cael eu hystyried yn flaenoriaeth ar gyfer cymorth grant o dan delerau’r cynllun Targed Lleihau Lledaeniadau Carbon (CERT). O blith y sawl sy’n gymwys, mae rhyw 40% wedi derbyn asesiad o fod mewn tlodi tanwydd.

Mae gan LTCC nifer o ddyletswyddau i’w cyflawni, gan gynnwys cyflawni Mesur Safon Tai Cymru. Mae’r dyletswyddau’n cynnwys cyflawni targedau uchelgeisiol ar gyfer effeithiolrwydd ynni. Mae LTCC hefyd yn gorfod anelu at dargedau i ddileu tlodi tanwydd, cydymffurfio â Rheoleiddiadau Cynllunio, Adeiladu ac HMO newydd, yn ogystal ag adeiladu yn ôl canllawiau’r Côd Cartrefi Cynaliadwy.

Yn y cyfnod hwn lle mae newidiadau’n digwydd mor sydyn, rydyn ni’n credu fod galw am gymorth arbenigol a chyngor ymarferol. Rydyn ni hefyd yn credu y gallwn ni gynorthwyo mewn cyflenwi datrysiadau fforddiadwy i LTCC newydd a sefydledig gyflawni a rhagori ar Fesur Safon Tai Cymru.

Rydyn ni’n cynnig datrysiad newydd, arloesol i helpu LTCC i gyflawni’r gofynion hyn trwy un bartneriaeth. Trwy ein his-gwmni, Tai Cynaliadwy Cymru, gallwn ni ddarparu’r cyngor technegol a’r cymorth ariannol angenrheidiol i LTCC. Gallwn ni hefyd gynnig datblygu ac adeiladu tai enghreifftiol sy’n cyflawni safonau uchaf oll cynaliadwyedd amgylcheddol. Bydd hyn yn helpu i osgoi’r gwallau allai gael eu gwneud gan ddatblygwyr sy’n gweithio mewn maes newydd ac anghyfarwydd. Bydd ein grym pryniant yn y sector adnewyddiad hefyd yn help i leihau costau.