Canmol Prosiect Blaengar Partneriaeth Tlodi Tanwydd Cymru Gynnes gan Carwyn Jones, AC Pen-y-bont ar Ogwr a’r Prif Weinidog
Monday, July 26th, 2010Mae prosiect blaengar a lansiwyd gan Cymru Gynnes mewn cymuned ymddeol gan Wales & West Housing Association (WWHA) i fynd i’r afael â thlodi ynni wedi cael ei gymeradwyo gan y Prif Weinidog, Carwyn Jones.
Mae’r prosiect, sydd wedi ei leoli yng nghymuned ymddeol The Beeches ym Mhen-y-bont ar Ogwr, yn ffrwyth partneriaeth rhwng Cymru Gynnes, WWHA a Wales & West Utilities Cyf. (WWU) i ddechrau’r fenter tlodi ynni sydd i’w gweithredu ym mhob rhan o Gymru.
“Rydw i wrth fy modd fod y cynllun hwn i ddod â gwres cost effeithiol i’r sawl sy’n byw yn The Beeches ym Mhen-y-bont wedi bod mor llwyddiannus,” meddai Mr Jones, yr AC dros Ben-y-bont. “Rydw i ar ddeall mai dyma’r prosiect cyntaf o’i fath yng Nghymru, ac rydw i’n falch iawn ‘mod i wedi gallu helpu’r trigolion i ddechrau’r prosiect.”
Dywedodd Phil Roberts, Prif Weithredwr Cymru Gynnes: “Rydyn ni’n hynod falch fod y corff rheoleiddio, Ofgem, a Wales & West Utilities wedi creu’r trefniadau yma i gartrefi yng Nghymru a de-orllewin Lloegr. Rydyn ni’n ffyddiog y bydd y drefn newydd yn darparu’r ddolen goll yn y gadwyn ariannu i nifer fawr o deuluoedd. Does gan drigolion ddim byd i’w golli, ac o bosibl lawer i’w ennill o fod wedi treulio rhai munudau’n rhoi atebion i ni.”
Dywedodd Graham Edwards, Prif Weithredwr WWU: “Mae hwn yn gam positif iawn ymlaen wrth ddatrys materion tlodi ynni, ac rydyn ni wrth ein bodd i fod wedi gweithio gyda Cymru Gynnes a Wales & West Housing Association i sicrhau fod y gymuned ymddeol hon ymhlith y gyntaf i elwa ar y cynllun.”
Mae’r cynllun tlodi ynni i ymestyn rhwydwaith nwy WWU i gymunedau sydd mewn tlodi ynni, ac unigolion sydd hyd yn hyn wedi methu manteisio ar gysylltiad i nwy o’r prif gyflenwad, yn dilyn cytundeb gyda chorff rheoleiddio’r diwydiant, Ofgem. Bydd Cymru Gynnes yn gweithio gyda WWU i helpu cyfleu’r fenter.
Cymru Gynnes sydd yn gyfrifol am werthuso ceisiadau ochr yn ochr â’r amodau a bennir gan y corff rheoleiddio. Gallan nhw hefyd adnabod cymorth ychwanegol i’r sawl nad ydynt yn ymwybodol o’r cyfleoedd sydd ar gael am arbedion a chefnogaeth ar gyfer gwresogi ac arbed ynni.
Golygodd y prosiect hwn greu cysylltiad nwy i leoliad y cynllun (o’r prif gyflenwad nwy yn y brif ffordd sy’n rhedeg o flaen y lleoliad), tynnu gwresogyddion storio trydan a silindrau dŵr poeth a gosod yn eu lle foeleri newydd arbed ynni, cyfunol a chywasgu ynghyd â systemau gwres canolog newydd. Mae gan y rhain falfiau rheoli gwres thermostatig, amserydd a rhaglennydd. Mae’r boeleri’n caniatáu i dymheredd y gwresogi a’r dŵr poeth gael eu rheoli yn annibynnol ar ei gilydd. Mae’r rhaglennydd wedi cael ei gynllunio i gael ei ddefnyddio gan bobl sydd yn rhannol ddall.
Llwyddodd Cymru Gynnes i dynnu at ei gilydd becyn ariannu, a gweithio gyda’r partneriaid allweddol i alluogi i’r prosiect ddigwydd. Buasai’r gwaith nwy (cysylltu gwasanaethau a phibau) fel arfer wedi costio ychydig dros £30,000 ond ariannwyd e 100% gan y cynllun grant newydd a gynigiwyd gan WWU. Cafodd trigolion eu cymhwyso am gymorth grant ar sail naill ai oedran neu fudd-daliadau a dderbyniwyd. Lleihawyd costau’r systemau gwresogi newydd trwy grantiau ychwanegol. Cymru Gynnes wnaeth y trefniadau grant cysylltu nwy ar ran WWHA, fel partner ‘lles y gymuned’ WWU, a chyflwyno WWHA i gyfleoedd eraill am grantiau i leihau cost gosod y system wresogi newydd.
Cwblhawyd y gwaith yn gyflym, o fewn ychydig wythnosau. Cynhaliwyd agoriad swyddogol lle dathlodd y Prif Weinidog Carwyn Jones gyda holl bartneriaid y prosiect a thrigolion y gymuned. Mae ymateb y trigolion yng nghymuned The Beeches wedi bod yn bositif iawn.
Pam fod Cymru Gynnes yn wahanol?
Mae Cymru Gynnes yn Gwmni cofrestredig Lles y Gymuned sy’n gweithredu ar sail ‘ddim er elw’. Mae’n ail-fuddsoddi ei arbedion busnes yn y prosiectau mae’n eu cyflawni o fewn y cymunedau lle mae’n gweithio i sicrhau etifeddiaeth o gyrhaeddiad cadarnhaol. Mae’n cynnig ymgynghori, rheoli prosiect a gwasanaethau i wneud y mwyaf o ffynonellau ariannu. Mae Cymru Gynnes yn credu mai nhw ydy’r unig sefydliad sy’n cynnig y cyfuniad unigryw hwn o wybodaeth, arbenigedd a mynediad i ariannu yn y sector dai cymdeithasol yng Nghymru.
Mae Cymru Gynnes yn gallu cyflawni prosiectau tebyg ar draws Cymru, gan roi pecyn o gymorth grant at ei gilydd a chreu cyfuniad o’r partneriaid mwyaf addas. Os hoffech chi dderbyn mwy o wybodaeth am y prosiect neu rydych chi am wybod os gall Cymru Gynnes eich helpu chi, gallwch chi ffonio: 01639 825960, mynd i www.cymrugynnes.org.uk neu e-bostio enquiries@warmwales.org.uk.
