» » Archives for Warm Wales

Posts Tagged ‘Warm Wales’

Cymru Gynnes i dechrau cwmni newydd

Tuesday, July 26th, 2011

COCYMRU3Warm Wales launches new company

Warm Wales Launches New Company Warm Wales is excited to announce the development of ‘Co-Cymru’ a new community interest company within the group.  Co-Cymru offers community regeneration services to customers, focusing on employment, training and community friendly procurement.  To assist them in this venture they have been joined by Rachel Moxey, an expert in social regeneration.  Rachel was until recently the Head of Employment and Social Procurement for the Welsh Government’s Regeneration Division.  She ran the uniquely successful JobMatch programme across the Heads of the Valleys area.  Rachel is assisted by Mandy Summers, bringing specialist expertise in the development of employment and training packages for employers.  Warm Wales was set up in 2004 by National Grid and has successfully offered support to individuals, local authorities and housing associations in Wales to reduce their energy bills by introducing renewable energy technology to homes and buildings.  Phil Roberts, CEO of Warm Wales said ‘this exciting new development enables us to offer holistic regeneration solutions to communities in Wales.  Warm Wales has always created employment and this development will enable us to give this area of our work real drive’.  Rachel feels that ‘regeneration only counts if you are able to put cash in the pockets of local people.  By offering them jobs or opportunities to develop their skills we can do this.’  She further added ‘The Welsh Government has announced only this week its drive to ensure that local people gain employment benefits from all their redevelopment activity.  Company’s, local authorities and housing associations in Wales will be looking for creative solutions to achieve this and we would be delighted to help.’  For further information please contact rachel.moxey@co-cymru.org.uk or follow this link

Canmol Prosiect Blaengar Partneriaeth Tlodi Tanwydd Cymru Gynnes gan Carwyn Jones, AC Pen-y-bont ar Ogwr a’r Prif Weinidog

Monday, July 26th, 2010

Mae prosiect blaengar a lansiwyd gan Cymru Gynnes mewn cymuned ymddeol gan Wales & West Housing Association (WWHA) i fynd i’r afael â thlodi ynni wedi cael ei gymeradwyo gan y Prif Weinidog, Carwyn Jones.

Mae’r prosiect, sydd wedi ei leoli yng nghymuned ymddeol The Beeches ym Mhen-y-bont ar Ogwr, yn ffrwyth partneriaeth rhwng Cymru Gynnes, WWHA a Wales & West Utilities Cyf. (WWU) i ddechrau’r fenter tlodi ynni sydd i’w gweithredu ym mhob rhan o Gymru.

“Rydw i wrth fy modd fod y cynllun hwn i ddod â gwres cost effeithiol i’r sawl sy’n byw yn The Beeches ym Mhen-y-bont wedi bod mor llwyddiannus,” meddai Mr Jones, yr AC dros Ben-y-bont. “Rydw i ar ddeall mai dyma’r prosiect cyntaf o’i fath yng Nghymru, ac rydw i’n falch iawn ‘mod i wedi gallu helpu’r trigolion i ddechrau’r prosiect.”

Dywedodd Phil Roberts, Prif Weithredwr Cymru Gynnes: “Rydyn ni’n hynod falch fod y corff rheoleiddio, Ofgem, a Wales & West Utilities wedi creu’r trefniadau yma i gartrefi yng Nghymru a de-orllewin Lloegr. Rydyn ni’n ffyddiog y bydd y drefn newydd yn darparu’r ddolen goll yn y gadwyn ariannu i nifer fawr o deuluoedd. Does gan drigolion ddim byd i’w golli, ac o bosibl lawer i’w ennill o fod wedi treulio rhai munudau’n rhoi atebion i ni.”

Dywedodd Graham Edwards, Prif Weithredwr WWU: “Mae hwn yn gam positif iawn ymlaen wrth ddatrys materion tlodi ynni, ac rydyn ni wrth ein bodd i fod wedi gweithio gyda Cymru Gynnes a Wales & West Housing Association i sicrhau fod y gymuned ymddeol hon ymhlith y gyntaf i elwa ar y cynllun.”

Mae’r cynllun tlodi ynni i ymestyn rhwydwaith nwy WWU i gymunedau sydd mewn tlodi ynni, ac unigolion sydd hyd yn hyn wedi methu manteisio ar gysylltiad i nwy o’r prif gyflenwad, yn dilyn cytundeb gyda chorff rheoleiddio’r diwydiant, Ofgem. Bydd Cymru Gynnes yn gweithio gyda WWU i helpu cyfleu’r fenter.

Cymru Gynnes sydd yn gyfrifol am werthuso ceisiadau ochr yn ochr â’r amodau a bennir gan y corff rheoleiddio. Gallan nhw hefyd adnabod cymorth ychwanegol i’r sawl nad ydynt yn ymwybodol o’r cyfleoedd sydd ar gael am arbedion a chefnogaeth ar gyfer gwresogi ac arbed ynni.

Golygodd y prosiect hwn greu cysylltiad nwy i leoliad y cynllun (o’r prif gyflenwad nwy yn y brif ffordd sy’n rhedeg o flaen y lleoliad), tynnu gwresogyddion storio trydan a silindrau dŵr poeth a gosod yn eu lle foeleri newydd arbed ynni, cyfunol a chywasgu ynghyd â systemau gwres canolog newydd. Mae gan y rhain falfiau rheoli gwres thermostatig, amserydd a rhaglennydd. Mae’r boeleri’n caniatáu i dymheredd y gwresogi a’r dŵr poeth gael eu rheoli yn annibynnol ar ei gilydd. Mae’r rhaglennydd wedi cael ei gynllunio i gael ei ddefnyddio gan bobl sydd yn rhannol ddall.

Llwyddodd Cymru Gynnes i dynnu at ei gilydd becyn ariannu, a gweithio gyda’r partneriaid allweddol i alluogi i’r prosiect ddigwydd. Buasai’r gwaith nwy (cysylltu gwasanaethau a phibau) fel arfer wedi costio ychydig dros £30,000 ond ariannwyd e 100% gan y cynllun grant newydd a gynigiwyd gan WWU. Cafodd trigolion eu cymhwyso am gymorth grant ar sail naill ai oedran neu fudd-daliadau a dderbyniwyd. Lleihawyd costau’r systemau gwresogi newydd trwy grantiau ychwanegol. Cymru Gynnes wnaeth y trefniadau grant cysylltu nwy ar ran WWHA, fel partner ‘lles y gymuned’ WWU, a chyflwyno WWHA i gyfleoedd eraill am grantiau i leihau cost gosod y system wresogi newydd.

Cwblhawyd y gwaith yn gyflym, o fewn ychydig wythnosau. Cynhaliwyd agoriad swyddogol lle dathlodd y Prif Weinidog Carwyn Jones gyda holl bartneriaid y prosiect a thrigolion y gymuned. Mae ymateb y trigolion yng nghymuned The Beeches wedi bod yn bositif iawn.

Pam fod Cymru Gynnes yn wahanol?

Mae Cymru Gynnes yn Gwmni cofrestredig Lles y Gymuned sy’n gweithredu ar sail ‘ddim er  elw’. Mae’n ail-fuddsoddi ei arbedion busnes yn y prosiectau mae’n eu cyflawni o fewn y cymunedau lle mae’n gweithio i sicrhau etifeddiaeth o gyrhaeddiad cadarnhaol. Mae’n cynnig ymgynghori, rheoli prosiect a gwasanaethau i wneud y mwyaf o ffynonellau ariannu. Mae Cymru Gynnes yn credu mai nhw ydy’r unig sefydliad sy’n cynnig y cyfuniad unigryw hwn o wybodaeth, arbenigedd a mynediad i ariannu yn y sector dai cymdeithasol yng Nghymru.

Mae Cymru Gynnes yn gallu cyflawni prosiectau tebyg ar draws Cymru, gan roi pecyn o gymorth grant at ei gilydd a chreu cyfuniad o’r partneriaid mwyaf addas. Os hoffech chi dderbyn mwy o wybodaeth am y prosiect neu rydych chi am wybod os gall Cymru Gynnes eich helpu chi, gallwch chi ffonio: 01639 825960, mynd i www.cymrugynnes.org.uk neu e-bostio enquiries@warmwales.org.uk.

 

Derbyn cais ar y cyd rhwng Cymru Gynnes a Charter am grant ariannu ‘Arbed’ gwerth £1.6m ar gyfer Markham

Wednesday, May 26th, 2010

Mae cais ar y cyd rhwng Cymru Gynnes a Charter am grant ariannu ‘Arbed’ gwerth £1.6m i ddarparu gwelliannau arbed ynni i gartrefi ym mhentref Markham wedi cael ei gymeradwyo gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.

Bydd y grant Arbed o £1.6m yn helpu ariannu cynllun gwerth £2.3m o welliannau effeithiolrwydd ynni i’r 124 o dai Charter a chartrefi preifat/cyhoeddus eraill yn Markham fel ei gilydd. Mae’r mesurau arfaethedig gan Arbed yn cynnwys insiwleiddio muriau mewnol ac allanol, dŵr poeth wedi ei wresogi gan yr haul a phaneli ffotofoltaidd. Mae Cymru gynnes ac Npower yn chwilio am ariannu ychwanegol gan y Bartneriaeth Arbed Ynni Cymunedol (CESP) i dalu am fesurau eraill, gan gynnwys arolygon asesu ynni yn y cartref, insiwleiddio llofft, cysylltiadau nwy newydd a systemau gwres canolog i gartrefi tanwydd solet, uwchraddio systemau gwresogi cyfredol, ac unedau defnydd ynni amser go iawn.

Bydd prosiect Markham yn rhedeg o fis Ebrill 2010 tan fis Mawrth 2011. Mae’r prosiect hefyd yn ceisio creu hyfforddiant a chyfleoedd cyflogaeth i bobl leol, gan gynnwys tri Warden Ynni Cymuned, wedi eu hariannu gan Gronfa Swyddi’r Dyfodol.

Cronfa o £30m ydy Arbed, wedi ei ariannu fwyaf gan y Gronfa Buddsoddiad Cyfalaf Strategol (SCIF) ac Adran Ynni a Newid Hinsawdd y DU (adnabyddir y fenter hefyd dan yr enw ‘Cynllun Buddsoddiad Perfformiad Ynni Strategol’). Mae Cymal 1 Arbed yn canolbwyntio’n benodol ar welliannau effeithiolrwydd ynni i gartrefi mewn cymunedau sy’n amddifad o adnoddau o fewn ardal Blaenau’r Cymoedd.

Ffeithiau allweddol:

  • Cyfanswm y cartrefi yn Markham: 624
  • Cyfanswm nifer y mesurau arfaethedig: 2,154
  • Cyfanswm cost y cynllun: £2,320,598
  • Cyfanswm grant ariannu Arbed: £1,600,000
  • Ariannu ychwanegol gan y Bartneriaeth Arbed Ynni Cymunedol (CESP), y Targed Lleihau Lledaeniad Carbon (CERT) a chyfraniad Charter.
  • Cyfanswm posibl arbediadau biliau ynni i gartrefi yn Markham: £169,129 per annum
  • Arbediad oes CO2 o ganlyniad i wella cartrefi yn Markham: 24,738 tunnell fetrig

Adnewyddu a Chôd ar gyfer datrysiadau Cartrefi Cynaliadwy gan BRE a Cymru Gynnes

Thursday, November 26th, 2009

Mae BRE Cymru a Cymru Gynnes yn cydweithio i gyfleu datrysiad un cam i gyflenwi’r Côd ar gyfer Cartrefi Cynaliadwy ac Adnewyddiad Cynaliadwy.

Mae’r ddau gwmni’n gyrff “ddim am elw” heb gyfranddalwyr. Mae unrhyw ‘ormodedd’ sy’n cael ei gynhyrchu gan gwmnïau BRE yn cael ei fuddsoddi mewn cynlluniau ymchwil ac addysg yn y sector adeiledig, tra bod gornifer Cymru Gynnes yn cael ei ail-fuddsoddi yn y cymunedau mae’n eu gwasanaethu.

Trwy gydweithio, mae BRE a Cymru Gynnes mewn sefyllfa unigryw i gynnig ymgynghori, arweiniad a hyder i gyflenwi lefel uchel o gynaliadwyedd mewn ffordd fforddiadwy, rhwydd i’w dyblygu.

Am wybodaeth bellach, lawrlwythwch y Côd ar gyfer Cartrefi Cynaliadwy ac Adnewyddiad Cynaliadwy (pdf).