Cronfa Castell-nedd Port Talbot
Diolch am ymweld â thudalen we Cynllun Rhyddhad Caledi Castell-nedd Port Talbot. Rydym wedi dileu’r ffurflen atgyfeirio dros dro er mwyn ein galluogi i gysylltu â phawb sydd wedi bod mewn cysylltiad hyd yn hyn. Cawsom dros 650 o atgyfeiriadau mewn pythefnos ac er ein bod yn rhagweld ac yn paratoi ar gyfer niferoedd uchel o atgyfeiriadau, rydym am sicrhau ein bod wedi cysylltu â phawb sydd wedi gwneud cais cyn i wasanaethau Cymru Gynnes gau dros gyfnod y Nadolig. Bydd y ffurflen yn ôl yn gynnar ym mis Ionawr.
Yn ystod gwyliau’r Nadolig, os oes angen cymorth brys arnoch gan fanciau bwyd, neu ddarpariaethau y tu allan i oriau gan eich awdurdod lleol, ewch i https://www.npt.gov.uk/33339
Mae Cynllun Rhyddhad Caledi Cyngor Castell-nedd Port Talbot ar gael i drigolion sy’n byw yng Nghastell-nedd Port Talbot i helpu pobl i gadw eu cartrefi’n gynnes.
Gall preswylwyr gael mynediad at gymorth i helpu sicrhau bod eu cartrefi’n cael eu cynhesu’n fwy effeithlon, ynghyd â mesurau i’w helpu talu biliau ynni, gan gynnwys:
Cefnogaeth
- Trwsio boeleri, atgyweirio a chynnal a chadw/ gwella systemau gwresogi
- Atgyweirio’r cartref, megis atgyweirio cliciedau neu fframau ffenestri.
- Nwyddau gwynion e.e. oergelloedd a chwceri
- Mân newidiadau i gadw’r cartref yn gynnes e.e. atalwyr drafftiau
- Taliadau mesuryddion credyd ynni
- Talebau topio i fyny argyfwng
- Tanwydd gwresogi domestig
- Dyled tanwydd
Mae’n bosibl y bydd mesurau eraill hefyd ar gael.

Pwy sy’n gymwys ar gyfer y gronfa?
I fod yn gymwys, rhaid bod yr aelwyd wedi’i leoli yng Nghastell-nedd Port Talbot a bod:
Incwm net yr aelwyd o dan £34,500
Incwm net yr aelwyd o dan £34,500 (wedi treth, Yswiriant Gwladol a chostau tai [taliadau morgais/ rhent, treth y cyngor])
A
Bod aelod o’r aelwyd yn agored i niwed o’r oerfel oherwydd eu hoedran
Bod aelod o’r aelwyd yn agored i niwed o’r oerfel oherwydd eu hoedran (plant neu bobl dros 60 oed) neu bod ganddynt gyflwr iechyd sydd eisoes yn bodoli (corfforol neu feddyliol)
Mae preswylwyr nad ydynt yn cwrdd â’r meini prawf ond sy’n parhau i gael trafferth talu eu biliau ynni yn dal i gael eu hannog i gysylltu â Chymru Gynnes, gan y mae’n bosibl y byddant yn gallu cael mynediad at ffrydiau eraill o gefnogaeth.

Sut mae’n gweithio