Grantiau Cysylltiad Nwy
I lawer o gartrefi, gall newid i system gwres canolog nwy wella sgôr ynni’r eiddo a lleihau biliau ynni’n sylweddol.
Rydym yn gweithio gyda Wales & West Utilities ar y cynllun Cymorth Cartref Cynnes i ddarparu grantiau cysylltiad nwy i ddeiliaid tai a thalebau i gwsmeriaid cymwys. Yna gellir defnyddio’r rhain i dalu cost cysylltiad nwy newydd.
Miloedd wedi’u helpu eisoes
Mae miloedd o eiddo wedi elwa ar gymorth i gysylltu â’r rhwydwaith nwy ers i’r cynllun ddechrau ym mis Hydref 2019.
O GRANTIAU WEDI’U DERBYN
O GYSYLLTIADAU WEDI’U HYMRWYMO
Pwy sy’n gymwys i gael taleb?
Os ydych yn byw mewn eiddo perchnogaeth breifat neu rentu preifat, mae dwy ffordd o gymhwyso ar gyfer taleb cysylltiad nwy:
Derbyn Budd-daliadau Cymwys Allweddol
Rydych yn byw mewn eiddo perchnogaeth breifat neu rentu preifat ac yn hawlio unrhyw un o’r budd-daliadau ar restr budd-daliadau’r grant cysylltiad nwy:
- Gwarant Credyd Pensiwn
- Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm
- Credyd Treth Gwaith (mae terfyn uchaf ar enillion yn berthnasol)
- Credyd Treth Plant (mae terfyn uchaf ar enillion yn berthnasol)
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy’n gysylltiedig ag incwm
- Cymhorthdal Incwm
- Credyd Cynhwysol
- Gostyngiad yn y Dreth Gyngor
Gwario Canran Uchel o Incwm Gwario ar Danwydd
Rydych yn denant cymdeithasol, neu’n byw mewn eiddo perchnogaeth breifat neu rentu preifat ac yn gwario canran uchel o incwm gwario ar danwydd cartref.
Sut mae’n gweithio
Llenwch y Ffurflen Gais am Grant ar-lein a byddwn wedyn yn rhoi gwybod i chi yn ddi-oed os gallwch dderbyn cyfraniad tuag at eich cysylltiad nwy. Os ydych yn gymwys, byddwn yn anfon Taleb Cysylltiad Nwy atoch i dalu tuag at gost y cysylltiad nwy.
Yna dylid anfon y daleb hon, ynghyd ag unrhyw daliad ychwanegol sy’n ofynnol, a ffurflen derbyn dyfynbris wedi’i llofnodi, at Wales & West Utilities a fydd yn trefnu’ch cysylltiad nwy.
Nodyn Pwysig: Dylech wneud cais am gyfraniad tuag at eich cysylltiad nwy CYN i chi dalu Wales & West Utilities am y cysylltiad nwy.
I gael rhagor o gymorth neu gyngor ar wneud cais am grant cysylltiad nwy, gallwch gysylltu â’n tîm cysylltu drwy’r manylion ar ein tudalen cysylltu neu lenwi’r ffurflen gais ar-lein eich hun.
Mwy am Gynllun Cymorth Cartrefi Cynnes
Mae Cymru Gynnes yn gweithio gyda Wales & West Utilities ar y Cynllun Cymorth Cartrefi Cynnes; rydym yn nodi aelwydydd a allai elwa ar gysylltiad â’r rhwydwaith nwy ac yn asesu eu cymhwysedd i gael grant tuag at y gost.