Telerau ac Amodau
Mae’r dudalen hon (ynghyd â’r dogfennau y cyfeirir atyn nhw arni) yn dweud wrthych y telerau defnyddio ar gyfer defnyddio ein gwefan www.warmwales.org.uk (ein gwefan), boed fel gwestai neu ddefnyddiwr cofrestredig. Darllenwch y telerau defnyddio hyn yn ofalus cyn i chi ddechrau defnyddio’r wefan. Drwy ddefnyddio ein gwefan, rydych yn nodi eich bod yn derbyn y telerau defnyddio hyn a’ch bod yn cytuno i gadw atyn nhw. Os nad ydych yn cytuno â’r telerau defnyddio hyn, dylech ymatal rhag defnyddio ein gwefan.
Gwybodaeth amdanom ni
Mae Cymru Gynnes Cwmni Buddiant Cymunedol wedi’i gofrestru yng Nghymru a Lloegr o dan rif cwmni 05183580 ac mae ein swyddfa gofrestredig yn:
Tŷ Llewellyn, Parc Busnes Glan yr Harbwr, Port Talbot, SA13 1SB
Mynediad at ein gwefan
Caniateir mynediad dros dro at ein safle, ac rydym yn cadw’r hawl i dynnu’n ôl neu ddiwygio’r gwasanaeth yr ydym yn ei ddarparu ar ein gwefan heb rybudd (gweler isod). Ni fyddwn yn atebol os nad yw ein gwefan ar gael ar unrhyw adeg neu am unrhyw gyfnod am unrhyw reswm.
O bryd i’w gilydd, efallai y byddwn yn cyfyngu mynediad at rai rhannau o’n gwefan, neu ein gwefan gyfan, i ddefnyddwyr sydd wedi cofrestru gyda ni.
Os byddwch yn dewis, neu’n cael cod adnabod defnyddiwr, cyfrinair neu unrhyw ddarn arall o wybodaeth fel rhan o’n gweithdrefnau diogelwch, mae’n rhaid i chi drin gwybodaeth o’r fath yn gyfrinachol, ac mae’n rhaid i chi beidio â’i datgelu i unrhyw drydydd parti. Mae gennym yr hawl i analluogi unrhyw god adnabod defnyddiwr neu gyfrinair, p’un a ddewisir gennych chi neu a ddyrannwyd gennym ni, ar unrhyw adeg, os ydych, yn ein barn ni, wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw un o ddarpariaethau’r telerau defnyddio hyn.
Chi sy’n gyfrifol am wneud yr holl drefniadau angenrheidiol i chi gael mynediad at ein gwefan. Chi hefyd sy’n gyfrifol am sicrhau bod pawb sy’n defnyddio ein gwefan drwy eich cysylltiad rhyngrwyd yn ymwybodol o’r telerau hyn, a’u bod yn cydymffurfio â nhw.
Hawliau eiddo deallusol
Ni yw perchennog neu drwyddedai’r holl hawliau eiddo deallusol yn ein gwefan, ac yn y deunydd a gyhoeddir arni. Mae’r gwaith hwnnw’n cael ei ddiogelu gan gyfreithiau hawlfraint a chytuniadau ledled y byd. Cedwir pob hawl o’r fath.
Cewch argraffu un copi, a chewch lawrlwytho darnau, o unrhyw dudalen(nau) o’n gwefan at eich defnydd personol a gallwch dynnu sylw eraill yn eich sefydliad at ddeunydd a bostiwyd ar ein gwefan.
Mae’n rhaid i chi beidio ag addasu’r copïau papur neu ddigidol o unrhyw ddeunyddiau yr ydych wedi’u hargraffu neu eu lawrlwytho mewn unrhyw ffordd, ac mae’n rhaid i chi beidio â defnyddio unrhyw ddarluniau, ffotograffau, deunydd fideo neu sain nac unrhyw graffeg ar wahân i unrhyw destun cysylltiedig.
Mae’n rhaid cydnabod ein statws (a statws unrhyw gyfranwyr a nodwyd) fel awduron deunydd ar ein gwefan bob amser.
Mae’n rhaid i chi beidio â defnyddio unrhyw ran o’r deunyddiau ar ein gwefan at ddibenion masnachol heb gael trwydded i wneud hynny gennym ni neu ein trwyddedwyr.
Os byddwch yn argraffu, copïo neu lawrlwytho unrhyw ran o’n gwefan yn groes i’r telerau defnyddio hyn, bydd eich hawl i ddefnyddio ein gwefan yn dod i ben ar unwaith a bydd yn rhaid i chi, yn ôl ein dewis ni, ddychwelyd neu ddinistrio unrhyw gopïau o’r deunyddiau a wnaed gennych.
Dibynnu ar wybodaeth a bostiwyd
Ni fwriedir i sylwadau a deunyddiau eraill sy’n cael eu postio ar ein gwefan fod yn gyfystyr â chyngor y dylid dibynnu arno. Felly, rydym yn gwrthod yr holl atebolrwydd a chyfrifoldeb sy’n deillio o unrhyw ddibyniaeth a roddir ar ddeunyddiau o’r fath gan unrhyw ymwelydd â’n gwefan, neu gan unrhyw un a allai gael gwybod am unrhyw ran o’i gynnwys.
Mae ein gwefan yn newid yn rheolaidd
Ein nod yw diweddaru ein gwefan yn rheolaidd, a gallwn newid y cynnwys ar unrhyw adeg. Os bydd yr angen yn codi, efallai y byddwn yn atal mynediad i’n gwefan, neu’n ei chau am gyfnod amhenodol. Gall unrhyw ran o’r deunydd ar ein gwefan fod yn hen ar unrhyw adeg benodol, ac nid oes rheidrwydd arnom i ddiweddaru deunydd o’r fath.
Ein hatebolrwydd
Darperir y deunydd a ddangosir ar ein gwefan heb unrhyw warantau, amodau na gwarantau o ran ei gywirdeb. I’r graddau a ganiateir gan y gyfraith, rydym ni, aelodau eraill o’n grŵp o gwmnïau a thrydydd partïon sy’n gysylltiedig â ni drwy hyn yn eithrio’r canlynol yn benodol:
- Pob amod, gwarant a thelerau eraill a allai fel arall gael eu hawgrymu gan statud, cyfraith gyffredin neu gyfraith ecwiti.
- Unrhyw atebolrwydd am unrhyw golled neu ddifrod uniongyrchol, anuniongyrchol neu ganlyniadol a achosir gan unrhyw ddefnyddiwr mewn cysylltiad â’n gwefan neu mewn cysylltiad â’r defnydd, anallu i ddefnyddio, neu ganlyniadau defnyddio ein gwefan, unrhyw wefannau sy’n gysylltiedig â hi ac unrhyw ddeunyddiau a bostiwyd arni, gan gynnwys, heb gyfyngiad, unrhyw atebolrwydd am y canlynol:
- Colli incwm neu refeniw;
- Colli busnes;
- Colli elw neu gontractau;
- Colli arbedion a ragwelir;
- Colli data;
- Colli ewyllys da;
- Rheoli gwastraff neu amser swyddfa; ac
- Am unrhyw golled neu ddifrod arall o unrhyw fath, sut bynnag y mae’n codi ac a achosir gan gamwedd (gan gynnwys esgeulustod), torri contract neu fel arall, hyd yn oed os gellir rhagweld, ar yr amod na fydd yr amod hwn yn atal hawliadau am golli neu ddifrodi eich eiddo diriaethol nac unrhyw hawliadau eraill am golled ariannol uniongyrchol nad ydyn nhw wedi’u heithrio gan unrhyw un o’r categorïau a nodir uchod.
Nid yw hyn yn effeithio ar ein hatebolrwydd am farwolaeth neu anaf personol sy’n deillio o’n hesgeulustod, na’n hatebolrwydd am gamliwio twyllodrus neu gamliwio o ran mater sylfaenol, nac unrhyw atebolrwydd arall na ellir ei eithrio neu ei gyfyngu o dan y gyfraith berthnasol.
Gwybodaeth amdanoch chi a’ch ymweliadau â’n gwefan
Rydym yn prosesu gwybodaeth amdanoch yn unol â’n polisi preifatrwydd. Drwy ddefnyddio ein gwefan, rydych yn cydsynio i brosesu o’r fath ac rydych yn gwarantu bod yr holl ddata a ddarperir gennych yn gywir.
Lanlwytho deunydd i’n gwefan
Bydd unrhyw ddeunydd y byddwch yn ei lanlwytho i’n gwefan yn cael ei ystyried yn anghyfrinachol ac yn amherchnogol, ac mae gennym yr hawl i ddefnyddio, copïo, dosbarthu a datgelu i drydydd partïon unrhyw ddeunydd o’r fath at unrhyw ddiben. Mae gennym hefyd yr hawl i ddatgelu pwy ydych chi i unrhyw drydydd parti sy’n honni bod unrhyw ddeunydd a bostiwyd neu a lanlwythwyd gennych i’n gwefan yn torri eu hawliau eiddo deallusol, neu o’u hawl i breifatrwydd.
Ni fyddwn yn gyfrifol, nac yn atebol i unrhyw drydydd parti, am gynnwys na chywirdeb unrhyw ddeunyddiau a bostiwyd gennych chi nac unrhyw ddefnyddiwr arall o’n gwefan.
Rydym yn cadw’r hawl i dynnu unrhyw ddeunydd neu bostiadau a wnewch ar ein gwefan.
Firysau, hacio a throseddau eraill
Mae’n rhaid i chi beidio â chamddefnyddio ein gwefan drwy gyflwyno firysau, trojans, llyngyr, bomiau rhesymeg neu ddeunydd arall sy’n faleisus neu’n dechnolegol niweidiol yn fwriadol. Mae’n rhaid i chi beidio â cheisio cael mynediad anawdurdodedig at ein gwefan, y gweinydd y mae ein gwefan yn cael ei storio arno nac unrhyw weinydd, cyfrifiadur neu gronfa ddata sy’n gysylltiedig â’n gwefan. Mae’n rhaid i chi beidio ag ymosod ar ein safle drwy ymosodiad gwadu gwasanaeth neu ymosodiad gwrthod gwasanaeth dosbarthedig.
Drwy dorri’r ddarpariaeth hon, byddech yn cyflawni trosedd o dan Ddeddf Camddefnyddio Cyfrifiaduron 1990. Byddwn yn rhoi gwybod i’r awdurdodau gorfodi’r gyfraith berthnasol am unrhyw doriad o’r fath a byddwn yn cydweithredu â’r awdurdodau hynny drwy ddatgelu pwy ydych chi iddyn nhw. Os bydd toriad o’r fath, bydd eich hawl i ddefnyddio ein gwefan yn dod i ben ar unwaith.
Ni fyddwn yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod a achosir gan ymosodiad gwrthod gwasanaeth dosbarthedig, firysau neu ddeunydd arall sy’n niweidiol yn dechnolegol a allai heintio eich offer cyfrifiadurol, rhaglenni cyfrifiadurol, data neu ddeunydd perchnogol arall oherwydd eich defnydd o’n gwefan neu i lawrlwytho unrhyw ddeunydd a bostiwyd arni, neu ar unrhyw wefan sy’n gysylltiedig â hi.
Cysylltu â’n gwefan
Gallwch gysylltu â’n hafan, ar yr amod eich bod yn gwneud hynny mewn ffordd sy’n deg ac yn gyfreithlon ac nad yw’n niweidio ein henw da nac yn manteisio arno, ond mae’n rhaid i chi beidio â sefydlu dolen mewn modd sy’n awgrymu unrhyw fath o gysylltiad, cydsyniad neu gymeradwyaeth ar ein rhan lle nad oes un yn bodoli.
Mae’n rhaid i chi beidio â sefydlu dolen o unrhyw wefan nad yw’n eiddo i chi.
Mae’n rhaid i’n gwefan beidio â chael ei fframio ar unrhyw safle arall, ac ni chewch greu dolen i unrhyw ran o’n gwefan ar wahân i’r dudalen hafan. Rydym yn cadw’r hawl i dynnu caniatâd cysylltu yn ôl heb rybudd.
Os ydych yn dymuno gwneud unrhyw ddefnydd o ddeunydd ar ein gwefan ar wahân i’r hyn a nodir uchod, anfonwch eich cais i [email protected].
Dolenni i’n gwefan
Pan fo’n gwefan yn cynnwys dolenni i wefannau ac adnoddau eraill a ddarperir gan drydydd partïon, darperir y dolenni hyn er eich gwybodaeth yn unig. Nid oes gennym unrhyw reolaeth dros gynnwys y safleoedd na’r adnoddau hynny, ac nid ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb amdanyn nhw nac am unrhyw golled neu ddifrod a allai godi o’ch defnydd ohonyn nhw.
Amrywiadau
Gallwn ddiwygio’r telerau defnyddio hyn ar unrhyw adeg drwy ddiwygio’r dudalen hon. Disgwylir i chi ddychwelyd i’r dudalen hon o bryd i’w gilydd i nodi unrhyw newidiadau a wnaethom, gan eu bod yn eich rhwymo. Gall rhai o’r darpariaethau a gynhwysir yn y telerau defnyddio hyn hefyd gael eu disodli gan ddarpariaethau neu hysbysiadau a gyhoeddir mewn mannau eraill ar ein gwefan.
Eich Pryderon
Os oes gennych unrhyw bryderon ynglŷn â deunydd sy’n ymddangos ar ein gwefan, cysylltwch ag [email protected].