Ynglŷn â Cymru Gynnes
Mynd i’r afael â thlodi tanwydd yng Nghymru a De-orllewin Lloegr.
Mae Cymru Gynnes yn gweithio i liniaru tlodi tanwydd yng Nghymru a’r De-orllewin drwy brosiectau cymunedol a gweithio mewn partneriaeth.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am Cymru Gynnes a’n prosiectau presennol drwy lawrlwytho ein llyfryn corfforaethol sydd ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg
Sefydlwyd yn 2004 gan y Grid Cenedlaethol
Sefydlwyd Cymru Gynnes yn 2004 gan y Grid Cenedlaethol fel rhan o nod penodol y cwmni hwnnw i gyflawni ei gyfrifoldeb corfforaethol i’r Llywodraeth a sicrhau manteision i 1 miliwn o gartrefi sy’n dioddef tlodi tanwydd. Dewisodd wneud hyn o dan faner y Rhaglen ‘Cynhesrwydd Fforddiadwy’ gyda Cymru Gynnes yn cyfrannu tuag at y targed.
Cwmni Buddiant Cymunedol Cyntaf Cymru
Yn 2006 newidiodd Cymru Gynnes statws y cwmni i fod yn Gwmni Buddiant Cymunedol (CIC) cyntaf Cymru. Mae bod yn CIC yn golygu nad oes gennym gyfranddalwyr, yn hytrach mae unrhyw elw a wneir yn cael ei roi yn ôl i’r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu. Mae ein statws hefyd yn golygu ein bod yn defnyddio dull cymunedol ar gyfer cynaliadwyedd economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol. Rydym yn buddsoddi yn y cymunedau yr ydym yn gweithio ynddyn nhw ac yn gadael etifeddiaeth o gyflawniadau cadarnhaol. Mae casgliad bach o’n prosiectau blaenorol wedi’i gynnwys ar y wefan hon.
Cael y newyddion diweddaraf!
Os hoffech glywed mwy am yr hyn y mae Cymru Gynnes yn ei wneud i helpu i fynd i’r afael â thlodi tanwydd yng Nghymru a De-orllewin Lloegr ewch i’n blog lle rydym yn rhannu cyngor ar ynni a newyddion Cymru Gynnes
Ein Tîm
Rheolir Cymru Gynnes gan Fwrdd o Gyfarwyddwyr ac mae’n cael ei redeg gan dîm o Uwch Arweinwyr, Rheolwyr Prosiect a Gweithwyr Cymunedol.
Yr Uwch Dîm Arwain
Jonathan Cosson
Claire Powell
Katie Cooke
Joanna Seymour
Y Tîm Gweithrediadau
Alicia Thomas
Leigh Forman
Wayne Powney
Patreia Mayers
Y Tîm Cyflawni
Katrina Bradley
Kathy Harris
Ceinwen Owen
Aled Jenkins
Anthony Houghton
Kate Wilkinson
Karen Hughes
Jacqui Dean
Emma Davies
Jodie Roberts
Holly Parry
Bwrdd y Cyfarwyddwyr
Mae Bwrdd Cyfarwyddwyr Cymru Gynnes yn dod ag ystod eang o sgiliau a phrofiad i’r sefydliad, gan gynnwys ynni, dylunio adeiladau, academia, AD, rheoli newid, cyllid a masnach, y diwydiannau nwy a thrydan, yr amgylchedd, cynaliadwyedd, marchnata a chyfathrebu, seilwaith, cyfrifyddiaeth, sefydliadau dielw.
Yr Athro Phil Jones OBE
Kevin Rendell
Steve Edwards BSc Hons, ACMA, FIGEM
Mari Arthur
Sarah Williams
Llyfrynnau Corfforaethol
Dysgwch fwy am Cymru Gynnes drwy lawrlwytho ein llyfrynnau corfforaethol