Polisi Preifatrwydd
Mae Cymru Gynnes Cwmni Buddiant Cymunedol wedi ymrwymo i ddiogelu a pharchu eich preifatrwydd.
Mae’r polisi hwn (ynghyd â’n telerau ac amodau ac unrhyw ddogfennau eraill y cyfeirir atyn nhw ynddo) yn nodi ar ba sail y bydd unrhyw ddata personol yr ydym yn eu casglu gennych chi, neu yr ydych yn eu darparu i ni, yn cael eu prosesu gennym ni. Darllenwch y canlynol yn ofalus i ddeall ein barn a’n harferion ynglŷn â’ch data personol a sut y byddwn yn eu trin.
At ddibenion Deddf Diogelu Data 2018 (y Ddeddf) a’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR), y rheolwr data yw:
Cymru Gynnes Cwmni Buddiant Cymunedol, Tŷ Llewellyn, Parc Busnes Glan yr Harbwr, Port Talbot, SA13 1SB
Gwybodaeth y gallwn ei chasglu gennych
Efallai y byddwn yn casglu ac yn prosesu’r data canlynol amdanoch:
- Gwybodaeth y byddwch yn ei darparu drwy lenwi ffurflenni cysylltu neu lanlwytho ar ein gwefan www.warmwales.org.uk (ein gwefan). Gall hyn gynnwys eich enw, cyfeiriad, manylion cyswllt a’ch dewisiadau cysylltu.
- Os byddwch yn cysylltu â ni, efallai y byddwn yn cadw cofnod o’r ohebiaeth honno ac yn cofnodi eich manylion personol a’ch dewisiadau optio i mewn.
- Efallai y byddwn hefyd yn gofyn i chi gwblhau arolygon achlysurol yr ydym yn eu defnyddio at ddibenion ymchwil, er nad oes rhaid i chi ymateb iddyn nhw.
- Manylion eich ymweliadau â’n gwefan gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, ddata traffig, data lleoliad, gweflogau a data cyfathrebu eraill, nid yw’r data ystadegol hyn yn adnabod unrhyw unigolion.
Cyfeiriadau IP
Efallai y byddwn yn casglu gwybodaeth am eich cyfrifiadur, gan gynnwys, pan fo ar gael, ble mae eich cyfeiriad IP, eich system weithredu a’ch math o borwr, at ddibenion gweinyddu’r system a datblygu’r wefan. Data ystadegol yw hyn am weithredoedd a phatrymau pori ein defnyddwyr ac nid yw’n adnabod unrhyw unigolyn.
Cwcis
Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis. Mae cwci yn ffeil fach o lythrennau a rhifau yr ydym yn ei rhoi ar eich cyfrifiadur os byddwch yn cytuno i hynny. Mae’r cwcis hyn yn caniatáu i ni eich gwahaniaethu oddi wrth ddefnyddwyr eraill ein gwefan, sy’n ein helpu i roi profiad da i chi pan fyddwch yn pori ein gwefan a hefyd yn ein galluogi i wella ein gwefan. Cwcis “dadansoddol” yw’r cwcis yr ydym ni’n eu defnyddio. Maen nhw’n ein galluogi i adnabod a chyfrif nifer yr ymwelwyr ac i weld sut mae ymwelwyr yn symud o amgylch y wefan pan fyddan nhw’n ei defnyddio. Mae hyn yn ein helpu i wella’r ffordd y mae ein gwefan yn gweithio, er enghraifft drwy sicrhau bod defnyddwyr yn dod o hyd i’r hyn y maen nhw’n chwilio amdano yn rhwydd. Darllenwch fwy am y cwcis unigol yr ydym yn eu defnyddio a sut i’w hadnabod drwy glicio yma.
Ble rydym yn storio eich data personol, diogelwch ac amgryptio
Mae’r data yr ydym yn eu casglu gennych ar y wefan hon yn cael eu storio ar weinydd yn y DU, lle mae lleoliad y gweinydd a’r ganolfan ddata wedi’u cydleoli yn Slough, ac mae copïau wrth gefn o’n gwefan yn cael eu storio ar weinydd arall yn yr un lleoliad. Nid oes dim o’r data hyn yn cael eu storio na’u trosglwyddo y tu allan i’r DU na’r AEE.
Mae’r ganolfan ddata yr ydym yn ei defnyddio wedi’i hadeiladu mewn seilwaith rhwydwaith diogel ac nid yw’n dibynnu ar ateb trydydd parti. Mae’r ganolfan ddata yn weithredol 24 awr y dydd, bob dydd o’r flwyddyn, gyda theledu cylch cyfyng a diogelwch mur cadarn ar-lein. Gall eich data gael eu prosesu ar-lein gan ein staff ar eich rhan, gall staff o’r fath weithredu i gyflawni eich archeb neu geisiadau, prosesu eich taliad a darparu gwasanaethau cymorth, ymysg pethau eraill. Drwy gyflwyno eich data personol, rydych yn cytuno i’r trosglwyddo, storio neu brosesu hyn. Byddwn yn cymryd pob cam sy’n rhesymol angenrheidiol i sicrhau bod eich data’n cael eu trin yn ddiogel ac yn unol â’r polisi preifatrwydd hwn.
Drwy gofnodi eich gwybodaeth mewn un o’n ffurflenni cysylltu ar ein gwefan, anfonir e-bost hysbysu at y tîm perthnasol yn ein sefydliad, mae’r data y byddwch yn eu rhoi hefyd yn cael eu storio mewn cronfa ddata ar yr un rhwydwaith â’n gwefan. Gall y wefan hon gynnwys ffurflenni cysylltu lle mae’n ofynnol lanlwytho dogfennau ac anfonir y data a gofnodir yn uniongyrchol at drydydd partïon dethol i brosesu eich data i fwrw ymlaen â’r gwasanaethau y gofynnwyd amdanyn nhw. Os felly, bydd gennych yr opsiwn drwy’r ffurflen o ran pa un o’n trydydd partïon dethol fydd yn derbyn data o’r fath a ddarperir.
Mae ein gwefan yn defnyddio SSL (https) i sicrhau bod unrhyw ddata y byddwch yn eu cyflwyno yn cael eu hamgryptio ar eu ffordd i’r gronfa ddata. Er bod amgryptio wedi’i alluogi, yn anffodus nid yw trosglwyddo gwybodaeth drwy’r rhyngrwyd bob amser yn gwbl ddiogel. Er y byddwn yn gwneud ein gorau i ddiogelu eich data personol, ni allwn warantu diogelwch eich data a drosglwyddir i’n gwefan; gwneir unrhyw drosglwyddiad ar eich risg eich hun. Pan fyddwn wedi derbyn eich gwybodaeth, rydym yn defnyddio gweithdrefnau llym a nodweddion diogelwch i atal mynediad heb awdurdod. Mae gennym brotocolau priodol ar waith ar lefel gweinydd ac yn uniongyrchol ar ein gwefan i wella a sicrhau diogelwch eich data.
Defnydd a wneir o’r wybodaeth
Rydym yn defnyddio gwybodaeth a gedwir amdanoch yn y ffyrdd canlynol:
- Sicrhau bod cynnwys o’n gwefan yn cael ei gyflwyno yn y modd mwyaf effeithiol i chi ac i’ch cyfrifiadur.
- Rhoi gwybodaeth i chi am y cynhyrchion neu’r gwasanaethau rydych wedi optio i mewn iddyn nhw naill ai drwy ffurflen gysylltu ar ein gwefan neu drwy alwad ffôn. Bydd y cyswllt hwn yn cael ei wneud gan ddefnyddio’r dewis(iadau) cysylltu yr ydych chi wedi’u dewis.
- Rhoi gwybod i chi am newidiadau i’n polisi preifatrwydd.
- Atgyfeirio i un o’n partneriaid fel y rhestrir isod. Dim ond os ydych wedi cydsynio’n benodol i wneud hynny drwy gysylltu ag un o’n cynghorwyr maes neu ffôn y gwneir yr atgyfeiriadau hyn.
At bwy rydym yn cyfeirio?
Rhaglen Cartrefi Iach Pobl Iach De Cymru
- Gofal a Thrwsio Rhondda Cynon Taf
- Gofal a Thrwsio Bae’r Gorllewin
- Cyngor ar Bopeth (pob rhanbarth)
- Cymdeithas Tai Arfordirol
- Dŵr Cymru
- Cyngor Castell-nedd Port Talbot (pob adran)
- Nyth Cymru
- Cyngor Rhondda Cynon Taf (pob adran)
- Cymdeithas Tai’r Rhondda
- Gwasanaeth Tân De Cymru
- Cymdeithas Tai Tarian
- Cymdeithas Tai Trivallis
- Wales & West Utilities
Rhaglen Cartrefi Iach Pobl Iach Cernyw
- Gwasanaeth Cyfeillio Cernyw CIC
- Cyngor Cernyw (pob adran)
- Gwasanaeth Tân ac Achub Cernyw
- South West Water Ltd.
- Western Power Distribution (De Orllewin) PLC
Rhaglen Cartrefi Iach Pobl Iach Gogledd Cymru
- Age Connects (pob rhanbarth)
- Cyngor Sir Ynys Môn (pob adran)
- Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr
- Gofal a Thrwsio Cymru
- Canolfan Cyngor ar Bopeth (pob rhanbarth)
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy (pob adran)
- Cyngor Sir Ddinbych (pob adran)
- Yr Adran Gwaith a Phensiynau
- Dŵr Cymru
- Banc Bwyd (pob rhanbarth)
- Cyngor Sir y Fflint (pob adran)
- Groundwork Gogledd Cymru
- Cyngor Sir Gwynedd (pob adran)
- Hafren Dyfrdwy
- HopeGiver
- Home Start
- Mind Gogledd Ddwyrain Cymru
- NCVO (Cyngor Cenedlaethol Mudiadau Gwirfoddol) – (pob rhanbarth)
- Canolfan Gofalwyr NEWCIS
- Nyth
- Canolfan Cyngor ar Ynni Gogledd Cymru
- Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru
- Heddlu Gogledd Cymru
- Iechyd Cyhoeddus Cymru
- Y Groes Goch
- Byddin yr Iachawdwriaeth
- Shelter Cymru
- Speakeasy
- Step Change
- Hwb Cyn-filwyr
- Turn2Us
- Cronfa Cartrefi Cynnes, Atebion Cynhesrwydd Fforddiadwy
- Cyngor Sir Wrecsam (pob adran)
Consortiwm Cymru Gynnes – Cynllun Treialu Cyngor ar Ynni Cartrefi Llywodraeth Cymru
- Y Dref Werdd
- Clwyd Alyn
- Mantell Gwynedd
- Grŵp Cynefin
- Cyngor ar Bopeth Ynys Môn
- Ynni Llŷn
- Cymdeithas Tai Unedig Cymru
- Cyngor ar Bopeth CBG
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
- Cyngor ar Bopeth Ceredigion
- Cymdeithas Tai Barcud
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Ceredigion
- Dotiau
- Prifysgol Glyndŵr Wrecsam
- Mike Corcoran, Ymchwilydd Gwadd, Prifysgol Glyndŵr Wrecsam
- Llywodraeth Cymru
- Elemental
Grantiau Cysylltiad Nwy
- Wales & West Utilities Limited
Cynlluniau Atgyfeirio Ynni
- E.ON UK
Datgelu eich gwybodaeth
Ni fyddwn byth yn gwerthu eich manylion personol i drydydd parti. Fodd bynnag, efallai y byddwn yn datgelu eich gwybodaeth bersonol i unrhyw aelod o’n grŵp, sy’n golygu ein his-gwmnïau, ein cwmni daliannol terfynol a’i is-gwmnïau, fel y’u diffinnir yn adran 1159 o Ddeddf Cwmnïau’r DU 2006. Dim ond yn yr achosion canlynol y gallwn ddatgelu eich gwybodaeth bersonol i drydydd partïon.
- Os byddwn yn gwerthu neu’n prynu unrhyw fusnes neu asedau, ac os felly efallai y byddwn yn datgelu eich data personol i ddarpar werthwr neu brynwr busnes neu asedau o’r fath.
- Os yw Cymru Gynnes Cwmni Buddiant Cymunedol neu’n sylweddol ei holl asedau yn cael eu caffael gan drydydd parti, ac os felly bydd data personol a gedwir ganddo am ei gwsmeriaid yn un o’r asedau a drosglwyddir.
- Os ydym o dan ddyletswydd i ddatgelu neu rannu eich data personol er mwyn cydymffurfio ag unrhyw rwymedigaeth gyfreithiol, neu er mwyn gorfodi neu gymhwyso ein telerau busnes a chytundebau eraill; neu i ddiogelu hawliau, eiddo neu ddiogelwch Cymru Gynnes Cwmni Buddiant Cymunedol ein cwsmeriaid, neu eraill. Mae hyn yn cynnwys cyfnewid gwybodaeth â chwmnïau a sefydliadau eraill at ddibenion diogelu rhag twyll a lleihau risg credyd.
Eich Hawliau
Byddwch yn cael gwybod ar adeg casglu sut rydym yn bwriadu defnyddio’ch data a gofynnir i chi am ganiatâd penodol i ni wneud hynny. Os byddwch yn newid eich meddwl yn y dyfodol, mae gennych yr hawl i ofyn i ni beidio â phrosesu eich data personol. Gallwch arfer eich hawl ar unrhyw adeg drwy gysylltu â ni yn [email protected].
Gall ein gwefan, o bryd i’w gilydd, gynnwys dolenni i wefannau ein partneriaid ac oddi yno. Os dilynwch ddolen i unrhyw un o’r gwefannau hyn, nodwch fod gan y gwefannau hyn eu polisi preifatrwydd eu hunain ac nad ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb nac atebolrwydd am y polisïau hyn. Gwiriwch y polisïau hyn cyn i chi gyflwyno unrhyw ddata personol i’r gwefannau hyn.
Mynediad at eich gwybodaeth
Mae’r Ddeddf yn rhoi’r hawl i chi gael mynediad at wybodaeth a gedwir amdanoch. Gellir arfer eich hawl mynediad yn unol â’r Ddeddf. Gall unrhyw gais am fynediad fod yn destun ffi o £10 i dalu ein costau wrth roi manylion i chi am yr wybodaeth sydd gennym amdanoch.
Newidiadau i’n polisi preifatrwydd
Bydd unrhyw newidiadau y gallwn eu gwneud i’n polisi preifatrwydd yn y dyfodol yn cael eu rhoi ar y dudalen hon a, lle bo’n briodol, yn cael eu hysbysu i chi drwy e-bost.
Cysylltu
Croesewir cwestiynau, sylwadau a cheisiadau ynghylch y polisi preifatrwydd hwn a dylid eu cyfeirio i [email protected].