Cartrefi Iach, Pobl Iach
Mae Cartrefi Iach, Pobl Iach yn gweithio ledled Cymru a De-orllewin Lloegr gan gefnogi pobl i gael:

Mae Cartrefi Iach, Pobl Iach yn cael ei ariannu gan Wales & West Utilities ac fe’i cyflwynir mewn partneriaeth ag Community Energy Plus a National Energy Action. Rydym yn gweithio ar y cyd â nifer o asiantaethau a sefydliadau gan gynnwys Dŵr Cymru, Gofal a Thrwsio, awdurdodau lleol ac amrywiaeth o elusennau cenedlaethol a lleol.

Sut Gall HHHP Eich Helpu Chi:
Mae ein tîm o Weithwyr Cymunedol yn cynnig amrywiaeth o opsiynau cyngor, cymorth ac atgyfeirio wedi’u teilwra i anghenion yr aelwyd. Mae Cartrefi Iach, Pobl Iach ar gael i bawb, ond mae gan rai o’r gwasanaethau yr ydym yn cyfeirio atyn nhw eu meini prawf cymhwysedd eu hunain. Mae’r meini prawf hyn fel arfer yn ymwneud ag a yw rhywun ar incwm isel, ar fudd-daliadau prawf modd penodol a / neu â chyflyrau iechyd. Mae ein Gweithwyr Cymunedol yn hynod wybodus ac yn trafod yr holl feini prawf gydag unigolion cyn gwneud atgyfeiriadau.
Mae’r cymorth rydym yn ei gynnig yn cynnwys:
- Ynni: cymorth a chyngor ar ddeall biliau ynni, cymorth gyda dyled tanwydd, newid tariff, mesuryddion clyfar, cynilion a gostyngiadau (e.e. Gostyngiad Cartrefi Cynnes)
- Dŵr: gwybodaeth, cyngor a chymorth gyda gostyngiadau i’r tariff a mesuryddion dŵr
- Gwres: cymorth gyda cheisiadau i Nyth, cynllun a ariennir gan Lywodraeth Cymru, sy’n darparu boeleri newydd, systemau gwres canolog, ac insiwleiddio i aelwydydd cymwys
- Cynyddu incwm: cymorth a chyfeirio i wiriadau budd-daliadau a cheisiadau am ostyngiadau i’r dreth gyngor
- Addasiadau i’r cartref: cymorth i gael mynediad at reiliau cydio, cawodydd mynediad gwastad, lifftiau grisiau, ac ati.
- Cofrestr Gwasanaethau Blaenoriaethol: cofrestru am ddim gyda darparwyr nwy, trydan a dŵr ar gyfer aelwydydd cymwys
- Mesurau diogelwch yn y cartref: ymwybyddiaeth o garbon monocsid, larymau mwg, a falfiau coginio cloi – gwybodaeth a chyngor i bawb a dyfeisiau ar gyfer aelwydydd cymwys
- Cysylltiad â’r rhwydwaith nwy: cymorth i wneud cais am dalebau cysylltiad nwy os byddwch yn gymwys
Cysylltwch â ni
O gyngor ar arbed ynni i gymorth gyda dyledion tanwydd, cyngor ar ddiogelwch yn y cartref i gyngor ar hawl i fudd-daliadau; mae ein tîm yma i helpu. Ewch i’n tudalen cysylltu i’n ffonio am fwy o wybodaeth neu gymorth:
Ffoniwch ni: 01656 747 622 / 01656 747623
E-bostiwch ni: [email protected]
HHHP ar Waith
Rhwng mis Hydref 2017 a mis Rhagfyr 2021, cefnogodd ein tîm o Weithwyr Cymunedol dros 3500 o ddeiliaid tai gydag amrywiaeth o gyngor, gwybodaeth ac atgyfeiriadau, gan ddarparu bron i £3 miliwn o arbedion uniongyrchol a gosod mesurau arbed ynni. Mae’r gwaith hwn yn parhau drwy gydol 2022 ac i 2023, gan helpu mwy o bobl i fyw mewn cartrefi cynhesach, mwy diogel ac iachach.