Partneriaethau
Rydym yn gweithio gyda phartneriaid yn y sectorau cyhoeddus a phreifat i sicrhau bod pobl ledled Cymru a De-orllewin Lloegr yn byw mewn cartrefi cynnes a diogel.
Rydym yn cydweithio â sefydliadau ledled Cymru i ddarparu ystod o fesurau i liniaru tlodi tanwydd.
Cartrefi Iach Pobl Iach +Lles
Mae ein tîm yng Ngogledd Cymru yn cydweithio ag amrywiaeth o bartneriaid i ddarparu model uwch o Gartrefi Iach, Pobl Iach ledled Gogledd Cymru.
Drwy ddefnyddio’r Model Cartrefi Iach Pobl Iach Uwch rydym yn ceisio gwella canlyniadau iechyd pobl drwy fynd i’r afael â’r achosion sylfaenol. Mae’r model uwch yn ceisio mynd i’r afael â thlodi tanwydd, lleihau anghydraddoldeb iechyd y gellir ei osgoi a gwella iechyd a lles, gyda’r nod o roi cartrefi, bywydau a chymunedau iach i drigolion.
Sut mae gwneud hyn?
- Sicrhau bod anghenion sylfaenol trigolion yn cael eu diwallu fel y gallan nhw gyflawni eu potensial.
- Ymgysylltu, annog, addysgu a grymuso.
- Sicrhau bod gan bawb fynediad at dai diogel, cadarn, a chynnes, lle gallan nhw dyfu, gweithio a chwarae.
Meysydd y gallwn eu cefnogi:
Diogelwch yn y Cartref
Ymwybyddiaeth o garbon monocsid, bod ag annwyd yn ormodol, lleithder a llwydni, a baglu, llithro a chwympo.
Defnydd Gorau Posibl o Arian
Lleihau biliau ynni a dŵr, cymorth gyda dyled, a chymorth gyda thai.
Cyngor ar Ynni a Chynhesrwydd Fforddiadwy
Gwres: cymorth gyda cheisiadau i Nyth, cynllun a ariennir gan Lywodraeth Cymru, darparu boeleri newydd, systemau gwres canolog, ac inswleiddio i aelwydydd cymwys.
Cysylltiad â’r rhwydwaith nwy: cymorth i wneud cais am dalebau cysylltiad nwy os byddwch yn gymwys.
Iechyd a Lles Personol
Gwella iechyd meddwl, corfforol, lles, a lleihau unigedd. Rydym yn ceisio ymgysylltu, annog, addysgu a grymuso ein buddiolwyr gan eu galluogi i gael rheolaeth a gwneud newidiadau drostyn nhw eu hunain. Rydym hefyd yn asesu lles trigolion drwy gysylltu ein gwaith â Rhagnodi Cymdeithasol a mesur lles personol gan ddefnyddio SYG4.
Anghenion Sylfaenol
Sicrhau bod anghenion sylfaenol yn cael eu diwallu cyn edrych ar y 4 maes allweddol uchod. Mae’n rhaid i ni gydnabod bod iechyd unigolyn yn cael ei bennu’n bennaf gan amrywiaeth o ffactorau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol. Darparu mynediad i gymorth brys ar ffurf ychwanegiadau brys a phecynnau bwyd.
Rydym yn defnyddio’r model uwch i ddarparu’r canlynol:
Cynllun Treialu Cyngor ar Ynni Llywodraeth Cymru
Mae Cymru Gynnes yn falch iawn o fod yn gweithio ar gynllun treialu Cyngor ar Ynni yn y Cartref a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Y diben yw profi a mesur effeithiolrwydd darparu cyngor a chymorth yn y cartref i bobl ledled Cymru mewn cysylltiad â mynd i’r afael â thlodi tanwydd.
Bydd y dystiolaeth a gesglir o’r cynllun treialu hwn yn helpu i bennu’r budd y gellir ei gael o gefnogi aelwydydd* i leihau eu defnydd o ynni, gan arbed arian. Rydym yn gweithio gydag ystod drawiadol o bartneriaid sy’n ein cefnogi i gyflwyno’r cynllun treialu hwn mewn tair sir yng Nghymru; Gwynedd, Ceredigion a Chaerffili.
Pa gymorth sydd ar gael:
- Cyngor a chymorth manwl i aelwydydd* gan eu galluogi i leihau’r defnydd o ynni wrth gynnal gwres boddhaol
- Helpu aelwydydd i newid eu cyflenwr ynni i arbed arian
- Galluogi aelwydydd* i wella eu hincwm drwy sicrhau bod yr holl hawliau budd-daliadau, grantiau a chonsesiynau yn cael eu hawlio
- Helpu aelwydydd* i newid i fesuryddion digidol a defnyddio technoleg glyfar
- Lleihau nifer y cartrefi* sy’n defnyddio mesuryddion rhagdalu domestig a’u newid i dariff cost is
- Gwneud atgyfeiriadau priodol ar gyfer cyllid i osod mesurau effeithlonrwydd ynni yn y cartref i helpu i leihau’r defnydd o ynni a biliau
- Darparu cyngor a chymorth manwl ar reoli dyledion tanwydd*
*Gan fodloni’r meini prawf penodol a nodir yn y cynllun treialu

Awydd cymryd rhan?
I gael gwybod mwy am gymryd rhan yn y prosiect treialu yng Ngwynedd, Ceredigion, neu Gaerffili, cysylltwch ag un o’n Gweithwyr Cymunedol cyfeillgar
Cartrefi, Pobl, Bywydau a Chymunedau Iach
Mewn partneriaeth â Clwyd Alyn a Thîm TGP Cymru, byddwn yn cefnogi o leiaf 3000 o aelwydydd sy’n agored i niwed a 5000 o drigolion ledled Gogledd Cymru i fod yn gynhesach, yn fwy diogel ac yn iachach. Ein cenhadaeth yw cefnogi defnyddwyr ynni sy’n agored i niwed ledled Gogledd Cymru i fod yn gynhesach, yn fwy diogel ac yn iachach drwy ddarparu dull cyfannol sy’n cydnabod y cysylltiadau rhwng tlodi tanwydd, anghydraddoldeb iechyd y gellir ei osgoi, a lles. Bydd y prosiect yn darparu pecyn o ymyriadau sydd wedi’u teilwra i anghenion yr aelwydydd gan sicrhau bod achosion sylfaenol yn cael eu nodi a’u datrys.
Dysgwch fwy
I gael rhagor o wybodaeth am HHPLC a sut i gymryd rhan ewch i’r dudalen HHPLC.
Hybiau Cymorth Cymunedol
Mae’r Hybiau Cymorth Cymunedol yn cynnig cymorth ar unwaith gyda phrofion llif unffordd ac yn helpu i hunanynysu os oes angen. Maen nhw hefyd yn cynnig cymorth tymor hwy i bobl a allai fod yn ei chael hi’n anodd prynu bwyd neu dalu rhent, cael gafael ar wasanaethau, rheoli dyled neu gyda biliau cyfleustodau. Mae’r cynllun treialu yn rhan o raglen Profi Olrhain Diogelu Cymru, sy’n cyflwyno cynnig ‘Diogelu’ estynedig a thymor hwy mewn cymunedau difreintiedig yng Ngogledd Cymru. Mae’n dwyn ynghyd Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, Awdurdodau Lleol, y sector gwirfoddol a grwpiau cymunedol i gefnogi cymunedau mewn amrywiaeth o feysydd. Mae’r dull aml-bartner hwn yn golygu y gellir cynnig cymorth ychwanegol os caiff ei nodi, hyd yn oed os yw pobl yn profi’n negatif am Covid-19 ac nad oes angen iddyn nhw hunanynysu, fel cyfeirio i fudd-daliadau, darparu gwybodaeth am fanciau bwyd a gwasanaethau bwyd cost isel, a chyngor ar gyllidebu.
Ffurflen hunangyfeirio i hwb cymorth cymunedol:
Saesneg:https://www.smartsurvey.co.uk/s/communitysupporthubsreferral/
Cymraeg: https://www.smartsurvey.co.uk/s/FfurflenCyfeirioatHybiauCymorthCymunedol/
Ble i ddod o hyd i ni:
Sir y Fflint
Eglwys Rivertown, Stryd Fawr Shotton.
Ar agor rhwng 9am-12:30pm
Dydd Llun, Mercher a Gwener
Bydd ein Gweithwyr Cymunedol yno bob dydd Mercher 9.00am- 12.30pm
Wrecsam
Canolfan Hamdden Plas Madoc, Ffordd Llangollen, Acrefair LL14 3HL
Ar agor: Dydd Mawrth 10-12pm
Conwy
Hyb Cymunedol Llandudno, wrth ymyl yr orsaf drenau.
Bydd ein Gweithwyr Cymunedol yno ddydd Mawrth cyntaf bob mis
Yr Wyddgrug
Hyb Cymunedol Llandudno, wrth ymyl yr orsaf drenau.
Bydd ein Gweithwyr Cymunedol yno ddydd Mawrth cyntaf bob mis
Ar agor: 10-11:30am bob dydd Mawrth
HHHP +Lles ar Waith
Yn 2021, cefnogodd ein tîm yng Ngogledd Cymru gyfanswm o 598 o aelwydydd, dros 1000 o drigolion rhwng 8 wythnos a 90 mlwydd oed, mae ein Gweithwyr Cymunedol wedi gwneud 1305 o ymyriadau, gan gynnal 4173 o gysylltiadau sydd wedi arwain at arbedion o dros £130,000. Bu cynnydd cyfartalog o 63.3% mewn boddhad bywyd cyffredinol (SYG4) a chynnydd cyfartalog o 50% mewn boddhad bywyd cleientiaid (SYG 4)
O AELWYDYDD WEDI’U CEFNOGI
CYFANSWM YR ARBEDION
O GYNNYDD MEWN BODDHAD BYWYD CLEIENTIAID
Cysylltwch â ni
Os oes gennych unrhyw bryderon sy’n ymwneud â biliau ynni a’u heffaith ar eich lles, mae ein tîm yma i helpu. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth neu os hoffech gyfeirio rhywun i’r gwasanaethau HHHP +Lles, cysylltwch â ni:
E-bost: [email protected]
Ffoniwch ein swyddfa yng Ngogledd Cymru: 01352 711751
I atgyfeirio llenwch y ffurflen drwy glicio ar y ddolen hon https://forms.gle/8wwFMZhm4i38YadU8