Mae Cymru Gynnes yn falch iawn o gael ei benodi gan Gyngor Sir Powys a Chyngor Castell-nedd Port Talbot i reoli’r gwaith o ail-lansio’r cynllun grant o’r enw ECO Flex, sy’n galluogi gwelliannau ynni cartref i gael eu cyflwyno i drigolion Powys a Chastell-nedd Port Talbot sydd mewn tlodi tanwydd.
Mae Rhwymedigaeth Cwmni Ynni (ECO) yn gynllun effeithlonrwydd ynni’r llywodraeth i helpu i leihau allyriadau carbon a mynd i’r afael â thlodi tanwydd, gan greu cartrefi cyfforddus sy’n rhatach i’w gwresogi. Mae’r mesurau sydd ar gael drwy’r cynllun yn cynnwys Inswleiddio Waliau Ceudod, Gwresogyddion Storio Trydan, Inswleiddio Llawr, Inswleiddio Waliau Mewnol, Inswleiddio Atig, Gwres Canolog LPG, ac Inswleiddio Ystafell mewn To.
Cymorth ar gyfer gwella eich cartrefr.
Pwy gaiff hawlio Cyllid ECO?
Nod Cyllid Eco yw helpu’r rhai sy’n byw mewn tlodi tanwydd ac sy’n agored i’r risg o fyw mewn cartref oer, ac y mae eu tŷ yn aneffeithlon o ran ynni ym Mhowys a Chastell-nedd Port Talbot. Ewch i dudalen meini prawf ECO3 i weld a ydych yn gymwys i gael cyllid.
Sut i wneud cais:
Os ydych chi’n credu y gallech chi fod yn gymwys i gael Cyllid ECO, gallwch wneud cais drwy un o’r contractwyr cymeradwy a restrir isod, yn seiliedig ar ba fesur yr hoffech gael ei osod.
Cysylltwch â’ch cwmni dewisol gyda’ch manylion, bydd yn gofyn ychydig o gwestiynau i chi ac yn cynnal arolwg i benderfynu a yw eich cartref yn addas ar gyfer gwelliannau effeithlonrwydd ynni.
Noder: Ni fydd Cymru Gynnes yn derbyn unrhyw geisiadau sy’n gysylltiedig â Chyllid ECO. Os hoffech wneud cais am gyllid neu os oes gennych unrhyw ymholiadau, dylech eu cyfeirio at un o’r contractwyr a restrir isod.
Gwybodaeth am Asiantau ECO
Gweler isod y rhestr o gontractwyr Cyllid ECO cymeradwy a’r mesurau y maen nhw’n eu cynnig.
We use cookies on our website to give you the most relevant experience by remembering your preferences and repeat visits. By clicking “Accept All”, you consent to the use of ALL the cookies. However, you may visit "Cookie Settings" to provide a controlled consent.
This website uses cookies to improve your experience while you navigate through the website. Out of these, the cookies that are categorized as necessary are stored on your browser as they are essential for the working of basic functionalities of the website. We also use third-party cookies that help us analyze and understand how you use this website. These cookies will be stored in your browser only with your consent. You also have the option to opt-out of these cookies. But opting out of some of these cookies may affect your browsing experience.