Ymgysylltu, Addysgu, Annog a Grymuso
Gall byw mewn cartref oer gael effaith difrodus ar llesiant corfforol a meddyliol pobl, a chynyddu’r gagendor cymdeithasol a chyfrannu at anghyfiawnderau cymdeithasol ar draws Cymru. Mae cydweithio mewn partneriaeth â chymunedau a mudiadau lleol i wresogi eu cartrefi mewn ffordd mwy fforddiadwy, a thaclo anghyfiawnderau iechyd, wrth wraidd prosiectau Cartrefi Iachus, Pobl Iachus Gwell HHHP+ (CIPI+).
Mae ein tîm a’n partneriaid yn darparu ystod o gefnogaeth i bobl ledled Cymru ac ar draws De-Orllewin Lloegr drwy gyfarfod â phreswylwyr er mwyn sicrau bod eu hanghenion sylfaenol yn cael eu diwallu. Trwy drafod anghenion yr unigolyn ac aelodau eu haelwyd, gall ein tîm a’n partneriaid ddarparu cefnogaeth deilwredig i’r person hwnnw, i sicrhau bod gan bawb fynediad at gartref diogel, cadarn, sicr a chynnes lle y gallant dyfu, gweithio a chwarae.
‘‘Yr ydym yn darparu cefnogaeth drwy CIPI+, gan ein bod wedi sylwi po fwyaf y byddwch yn trafod, y fwyaf y byddwch yn darganfod. Mae deall yr effaith y mae’r amgylchedd yn cael ar eich iechyd meddwl a’ch llesiant o bwys mawr, yn enwedig ar hyn o bryd. Yr ydym yn cysylltu’r gefnogaeth sy’n cael ei ddarparu ar gyfer preswylwyr fel bod y gefnogaeth yn cefnogi’r preswylwyr i greu cartref yn eu tŷ. Felly, sut ydych yn mynd ati i droi tŷ yn gartref? Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn diffinio tŷ fel strwythur corfforol, a chartref fel strwythur cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd sy’n cael ei greu gan yr unigolyn. Felly, ein tasg ni yw helpu’r preswylwyr greu cartref mewn tŷ’.
JOANNA SEYMOUR, PENNAETH PARTNERIAETHAU A DATBLYGU
Mae gawith Cartrefi Iachus, Pobl Iachus+ yn canolbwyntio ar ymgysylltu, addysgu, annog a grymuso aelwydydd. Yr ydym yn gwneud hyn gydag ystod o brosiectau, gan gynnwys Healthy Homes, People, Lives & Communities (Cartrefi Iachus, Pobl, Bywydau a Chymunedau), prosiect a sefydlwyd mewn cydweithrediad â ClwydAlyn a TGP Cymru. Mae HHPLC (CIPBCh) wedi’i anelu at gydweithio mewn partneriaeth er mwyn gwella iechyd a llesiant preswylwyr Gogledd Cymru.
Diolch i gyllid oddiwrth y Gronfa Energy Redress mae HHPLC (CIPBCh) yn brosiect lle y mae Cymru Gynnes yn cydweithio’n agos gyda’r Tîm o Gwmpas y Denantiaeth a ClwydAlyn i gefnogi preswylwyr ClwydAlyn, a’r gymuned ehangach i ddelio â materion Ynni. Mae hyn yn cynnwys Ymwybyddiaeth Ynni, Cefnogaeth ac Addysg, ac yn canolbwyntio’n agos ar bobl sydd newydd symud i eiddo neu sy’n anghyfarwydd â byw’n annibynnol. Yn ogystal â chynnig cefnogaeth sy’n ffocysu ar ynni, yr ydym yn darparu cefnogaeth ar bob math o faterion eraill o ran llesiant, a sicrhau bod y cartref yn lle iachus i fyw ynddo’
ALED JENKINS, CYD-GYSYLLTYDD Y PROSIECT
Cenhadaeth HHPLC (CIPBCh) yw darparu gwasanaethau cynhwysfawr i 3000 o aelwydydd ar draws Gogledd Cymru, gan gynnig cefnogaeth byw ac ymyriadau arbenigol.
- Mae cydweithio gyda thîm TGP Cymru yn golygu ein bod yn gallu sicrhau cefnogaeth ac addysg i’n pobl ifanc yn y sector tenantiaeth er mwyn eu cefnogi i sefydlu eu cartref cyntaf.
- Mae Cartrefi Iachus, Pobl, Bywydau a Chymunedau hefyd yn gweithio i gyflwyno hyfforddiant defnyddio ynni’n gall a chyngor ynni llawysgafn i 300 o swyddogion rheng flaen, er mwyn ymgorffori addysg yn ein holl weithgareddau.
- Yr ydym wedi creu cyfeirlyfr ymyriadau canolog er mwyn cyflwyno dull holistaidd, a brwydro yn erbyn tlodi, fel ein bod yn gallu agor achosion y gall ein preswylwyr eu monitro, a chefnogi iechyd a llesiant yn barhaol yn y gymuned. Efallai y bydd modd ymgysylltu â Meddygon Teulu a’r Bwrdd Iechyd drwy rhannu ein hymyriadau.
Yr oeddwn wedi sylwi bod bwlch ym maes cefnogi ynni ac addysg, a nad yw llawer o bobl yn gwybod am y gefnogaeth sydd ar gael neu’r gefnogaeth y gallant ei hawlio. Drwy HHPLC (CIPBCh) gall ein Gweithwyr Cymunedol helpu i ymgysylltu â ac addysgu, annog a grymuso cymunedau er mwyn lleihau tlodi tanwydd a’r anghyfiawnderau iechyd y mae modd eu hosgoi.
Yn 2021 mae ein model Cartrefi Iachus, Pobl Iachus Gwell wedi cefnogi dros 598 aelwyd i gael cartrefi cynhesach, mwy diogel a mwy iachus, ac wedi gweld cynnydd o 50% ym moddhad bywyd cleientiaid. Tra bod cartref cynnes, i rai, yn rhywbeth i’w gymryd yn ganiataol, i ormod o bobl mae’n foethyn nad ydynt yn gallu ei fforddio, ac wrth bod prisoedd ynni yn parhau i godi mae prosiectau megis Cartrefi Iachus, Pobl Iachus+ a’r gefnogaeth y gallant gynnig yn dod yn fwyfwy pwysig.