Cynllun Arbed Ynni Powys Cymru Gynnes
Mae Cymru Gynnes yn falch i ddarparu’r Cynllun Arbed Ynni arloesol ym Mhowys a ddyluniwyd i fynd i’r afael â thlodi tanwydd a lleihau allyriadau carbon drwy fabwysiadu dull a datrysiad ‘tŷ cyfan’.
Ein cenhadaeth yw ceisio gwella bywydau pobl drwy fod yn gallu cynnig iddynt y cyfle i wneud gwelliannau i adeiladwaith a dull gwresogi’r tŷ cyfan, gan ganolbwyntio ar ddatrysiadau mwy gwyrdd, carbon niwtral, er mwyn lleihau costau ynni yn arwyddocaol, tra’n gwneud Powys yn fwy gwyrdd ac eco-gyfeillgar.
Beth mae’r Cynllun Arbed Ynni yn cynnig?
Mae’r cynllun, via ECO4, yn darparu arian ar gyfer y mesurau gwelliant canlynol, yn amodol ar ddiwallu’r meini prawf a’r amodau cymhwyso a restrir isod.
Mesurau
- System gwres canolog (rheiddiadur)/dan y llawr o Bwmp Gwres Ffynhonnell Aer/Daear
- Solar PV (Batris Storio Ynni – yn amodol ar gyllid oddiwrth Gyngor Sir Powys)
- Boeler Nwy Prif Gyflenwad (rhaid i’r boeler presennol fod yn un nad yw’n cyddwyso)
- Rheoli Gwresogi (Parth) SMART
- Goleuadau Arbed Ynni
- Insiwleiddio’r Atig
- Insiwleddio Ystafell yn y To
- Insiwleddio Waliau Solet
- Insiwleddio Wal Geudod
- Insiwleddio o Dan y Llawr
- Insiwleddio Toeon Fflat
- Atal Drafftiau
Sut mae gwneud cais:
I wneud cais, cysylltwch â Chymru Gynnes.
Cyn gwneud cais, a wnewch chi wirio’r meini prawf cymhwyso.
Cymhwyster
Mae’r broses gymhwyso yn cynnwys dwy rhan fel a ganlyn:
Rhan 1 Meini Prawf cymhwyso – Cartref sy’n anodd i’w wresogi, preswylwyr agored i niwed neu dlodi tanwydd
Er mwyn cymhwyso o dan Rhan 1, rhaid i unrhyw breswylydd sy’n byw yn y tŷ annedd dan sylw fod yn wynebu mwy o risg oherwydd effeithiau byw mewn cartref oer.
- A) Eiddo sy’n anodd i’w wresogi
Eiddo a leolir mewn ardaloedd heb gyflenwad nwy, neu bod angen sylw ar un o’r mesurau canlynol:
- Waliau Solet (Insiwleiddio’r Wal ar y tu fewn/ ar y tu allan)
- Dim gofod yn yr atig (Insiwleiddio ystafell yn yr atig)
- Mewn cyflwr gwael
- B) Agored i Niwed
Cwsmeriaid sy’n agored i niwed neu sy’n wynebu risg uwch oherwydd cyflwr meddygol fel yr amlinellir isod (ond heb fod yn gyfyng i); neu sydd wedi derbyn neges oddiwrth, neu eu cyfeirio at, Gymru Gynnes oherwydd bod ganddynt gyflwr meddygol sy’n eu gwneud yn fwy agored i niwed mewn ‘tŷ oer’.
- pobl sy’n dioddef cyflyrau cardiofasgwlaidd
- pobl â chyflyrau resbiradol (yn benodol, clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint ac asthma plentyn)
- pobl sy’n dioddef cyflyrau iechyd meddwl
- pobl anabl
- pobl hŷn (60 ac hŷn)
- aelwydydd â phlant (yn derbyn addysg llawn-amser)
- menywod beichiog
- C) Tlodi Tanwydd
I gymhwyso oherwydd Tlodi Tanwydd rhaid i gwsmeriaid ddangos eu bod yn agored i niwed oherwydd ansefydlogrwydd ariannol, fel yr amlinellir isod (ond heb fod yn gyfyng i); neu fod wedi derbyn neges oddiwrth, neu eu cyfeirio at, Gymru Gynnes oherwydd eu sefyllfa ariannol ddybryd sy’n golygu eu bod yn fwy agored i niwed mewn ‘tŷ oer’.
- Dyled tanwydd sy’n cynyddu, heb unrhyw ffordd o’i leihau.
- Ar fesurydd rhagdalu a bod hunan-datgysylltu’n digwydd yn gyson.
- Yn gwario mwy na 10% o’u hincwm net ar dalu biliau ynni domestig er mwyn cadw eu cartrefi’n ddigon cynnes.
Rhan 2 – Meini Prawf Cymhwyso – Incwm Isel
Yn dilyn Rhan 1, er mwyn cymhwyso yn unôl âRhan 2 – rhaid bod incwm net eich aelwyd (ar ôl talu’r Morgais/Rhent a’r Prif Fil Ynni Gwresogi) yn is na’r gwerthoedd a nodir yn y tabl isod, sy’n cyfeirio at faint y teulu.
Trothwy Incwm:
1 Oedolyn £18,400
1 Oedolyn + 1 Plentyn £19,900
1 Oedolyn + 2 Plentyn £24,800
1 Oedolyn + 3 Phlentyn £29,600
1 Oedolyn + 4 Plentyn+ £34,500
2 Oedolyn £26,000
2 Oedolyn + 1 Plentyn £27,500
2 Oedolyn + 2 Plentyn £32,300
2 Oedolyn + 3 Plentyn £37,200
2 Oedolyn + 4 Plentyn+ £42,000
Yn ychwanegol at y meini prawf incwm aelwyd. rhaid bod gan yr eiddo Dystysgrif Perfformiad Ynni (EPC) cyfredol, gradd D, E, F neu G