Sut Gallwn Eich Helpu
Mae ein tîm o Weithwyr Cymunedol yn cynnig amrywiaeth o gyngor, cymorth ac opsiynau atgyfeirio wedi’u teilwra i anghenion y cartref ledled Cymru a De-orllewin Lloegr.
Mae ein gwasanaethau am ddim ac yn agored i bawb, ond mae gan rai o’r gwasanaethau rydym yn cyfeirio atynt eu meini prawf cymhwysedd eu hunain. Mae’r meini prawf hyn fel arfer yn ymwneud ag a yw rhywun ar incwm isel, ar fudd-daliadau prawf modd penodol a/neu â chyflyrau iechyd.
Mae ein Gweithwyr Cymunedol yn hynod wybodus ac yn trafod yr holl feini prawf gydag unigolion cyn gwneud cyfeiriadau.
Meysydd y gallwn eu cefnogi:
Cyngor ar Ynni a Chynhesrwydd Fforddiadwy
Gwres: cymorth gyda cheisiadau i Nyth, cynllun a ariennir gan Lywodraeth Cymru, darparu boeleri newydd, systemau gwres canolog, ac inswleiddio i aelwydydd cymwys.
Cysylltiad â’r rhwydwaith nwy: cymorth i wneud cais am dalebau cysylltiad nwy os byddwch yn gymwys.
Defnydd Gorau Posibl o Arian
Lleihau biliau ynni a dŵr, cymorth gyda dyled, a chymorth gyda thai.
Diogelwch yn y Cartref
Ymwybyddiaeth o garbon monocsid, bod ag annwyd yn ormodol, lleithder a llwydni, a baglu, llithro a chwympo.
Iechyd a Lles Personol
Gwella iechyd meddwl, corfforol, lles, a lleihau unigedd. Rydym yn ceisio ymgysylltu, annog, addysgu a grymuso ein buddiolwyr gan eu galluogi i gael rheolaeth a gwneud newidiadau drostyn nhw eu hunain. Rydym hefyd yn asesu lles trigolion drwy gysylltu ein gwaith â Rhagnodi Cymdeithasol a mesur lles personol gan ddefnyddio SYG4.
Anghenion Sylfaenol
Sicrhau bod anghenion sylfaenol yn cael eu diwallu cyn edrych ar y 4 maes allweddol uchod. Mae’n rhaid i ni gydnabod bod iechyd unigolyn yn cael ei bennu’n bennaf gan amrywiaeth o ffactorau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol. Darparu mynediad i gymorth brys ar ffurf ychwanegiadau brys a phecynnau bwyd.
Cysylltwch â ni
Os oes gennych unrhyw bryderon sy’n ymwneud â biliau ynni a’u heffaith ar eich lles, mae ein tîm yma i helpu. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth neu os hoffech gyfeirio rhywun i’r gwasanaethau HHHP +Lles, cysylltwch â ni: