Os ‘rydych dros 50 oed, neu’n agosáu at fod, efallai bod eich sefyllfa ariannol yn newid wrth i chi ystyried ymddeol. ‘Rydym wedi llunio canllaw i’ch helpu chi rheoli’ch sefyllfa ariannol newydd, a gwneud y gorau o’ch pensiwn.
Derbyn yr incwm uchaf posibl
Y cwestiwn pwysicaf pan fyddwch yn ymddeol yw ‘o ble fydd yr arian yn dod?’. Mae’r oedran ymddeol swyddogol yn cynyddu’n raddol dros y blynyddoedd ac, ar hyn o bryd yn 2020, 66 yw’r oedran ymddeol swyddogol i Ddynion a Merched.
Pensiwn y Wladwriaeth
Mae maint pensiwn y wladwriaeth yn ddibynnol ar faint o flynyddoedd llawn o gyfraniadau Yswiriant Gwladol sydd gennych. Mae system pensiwn y wladwriaeth yn gymhleth, felly i’ch helpu chi ddeall pa bensiwn y ‘dylech’ fod yn derbyn, gweler isod:
- os oeddech wedi cyrraedd oedran derbyn pensiwn ar, neu ar ȏl, Ebrill 2016, byddwch yn derbyn y pensiwn y wladwriaeth newydd, sef ‘cyfradd unffurf’ gwerth £179.60 yr wythnos ynghyd ag unrhyw ‘daliadau gwarchodedig’.
- Os ‘roeddech wedi cyrraedd oedran derbyn pensiwn cyn Ebrill 6 2016, byddwch yn aros ar yr hen gynllun sydd, ar hyn o bryd, yn talu uchafswm sylfaenol o £137.60 yr wythnos (a mwy os ‘roeddech wedi ennill Ail Bensiwn y Wladwriaeth hefyd).
Credyd Pensiwn
Yn cael ei dalu ar ben pensiwn y wladwriaeth, mae credyd pensiwn yn daliad ychwanegol i’r rhai sy’n gymwys, sy’n helpu chi ychwanegu at eich incwm.
I hawlio credyd pensiwn rhaid eich bod yn 66 oed (dynion a merched) a bod incwm oedolyn o dan £177.10 yr wythnos, neu £270 i bâr.
Mae credyd pensiwn wedi’i anelu at bobl sydd ar incwm isel, ond mae’n wastad werth gofyn os ‘rydych yn gymwys – rhowch alwad.
I ddarganfod os oes gennych hawl i dderbyn credyd pensiwn, ffoniwch y rhif ffȏn di-dâl isod : 0800 99 1234
Neu os hoffech dderbyn cymorth i wneud cais, cysylltwch ag un o’n gweithwyr cymunedol cyfeillgar a fydd y falch i’ch helpu chi gyda’ch cais.
Lwfans Gweini
Mae lwfans gweini yn helpu gyda’r costau ychwanegol os oes gennych anabledd difrifol, sy’n golygu bod angen rhywun i edrych ar eich ȏl. Mae dwy gyfradd tâl, yn ddibynnol ar faint o ofal sydd ei angen arnoch:
Gallech chi gael £60 neu £89.60 yr wythnos i dalu am gymorth gyda materion personol os ‘rydych yn:
- anabl, yn gorfforol neu’n feddyliol
- Oedran Pensiwn y Wladwriaeth neu hŷn
I wneud cais, gallwch ddefnyddio’r ffurflen hawlio lwfans gweini, a gwneud cais drwy’r post https://www.gov.uk/government/publications/attendance-allowance-claim-form, neu, os hoffech dderbyn cymorth ychwanegol i wneud cais, cysylltwch ag un o’n gweithwyr cymunedol a fydd yn falch ich helpu chi lenwi’r ffurflen gais.
Gwirio budd-daliadau
Yn flynyddol mae tua £3.5 biliwn o fudd-daliadau ddim yn cael eu hawlio gan bensiynwyr
Yn ȏl elusen Age UK,
Yn ychwanegol at gredyd pensiwn a lwfans gweini efallai eich bod yn gallu hawlio
budd-daliadau ychwanegol. Defnyddiwch y gwiriad budd-daliadau cyflym isod i weld os ‘rydych yn gymwys i dderbyn cymorth ychwanegol; https://www.moneysavingexpert.com/family/benefits-check/
Os hoffech rhagor o wybodaeth a chyngor ynghylch yr hyn y gallwch ei hawlio, ffoniwch Llinell Gymorth Age UK, 0800 678 1174.
Mae hefyd yn werth chweil gwirio Council Tax Rebanding i sicrhau nad ydych yn talu gormod o Dreth y Cyngor.
Arbed Ynni / Grantiau
Gan fod cost biliau ynni yn codi ym mis Ebrill 2022, nawr yw’r amser i ystyried arbed arian ar eich biliau ynni drwy weld pa grantiau ac arbedion ynni sydd ar gael i chi.
Mae llywodraeth y DU yn cynnig ystod o grantiau a gostyngiadau i bensiynwyr, gan gynnwys:
Disgownt Cartrefi Cynnes
Bydd ceisiadau am y gostyngiad hwn yn agor ym mis Medi. Mae’n bosibl y bydd y Disgownt Cartrefi Cynnes yn golygu eich bod yn derbyn £140 tuag at eich bil trydan ar ffurf taleb gwerth £140 i’ch mesurydd rhagdalu.
‘Rydych yn gymwys i dderbyn y disgownt cartrefi cynnes os ‘rydych naill ai’n
- Derbyn y rhan gwarant credyd pensiwn o’r credyd pensiwn
- Yn derbyn incwm isel
I wirio os ‘rydych yn gymwys gallwch fynd i wefan llywodraeth y DU neu mae croeso ichi ffonio un o’n gweithwyr cymunedol ar 01656 747 622
Taliadau Tanwydd Gaeaf
Mae’r taliad tanwydd gaeaf yn daliad unwaith y flwyddyn i’ch helpu chi wresogi’ch cartref yn ystod y gaeaf. Byddwch fel arfer yn gymwys i dderbyn y taliad tanwydd gaeaf os cawsoch eich geni ar, neu cyn, Medi 26 1955.
Gallwch wirio sut mae gwneud cais am daliadau tanwydd gaeaf yma: https://www.gov.uk/winter-fuel-payment
Grantiau gwella’r cartref i’w gwneud yn ynni effeithlon:
Mae miliynau o bunnoedd o arian grant ar gael i wella cartrefi ond, yn anffodus, mae llawer o grantiau llywodraeth y DU ddim yn cael eu hawlio. Gall y grantiau canlynol helpu gwella effeithlonrwydd ynni y eich cartref tra’n arbed arian ar eich biliau ynni:
- Mae Nest yn gynllun gan lywodraeth y DU sy’n cynnig ystod o gyngor di-duedd, am ddim, a gwelliannau effeithlonrwydd ynni megis amnewid y boeler a gosod gwres canolog neu insiwleiddio. Ewch i’r dudalen HHHP i ddysgu sut y gall ein gweithwyr cymunedol eich helpu chi gael mynediad at NEST.
- ECO-gyllido yw cynllun effeithlonrwydd ynni llywodraeth y DU, i helpu lleihau allyriadau carbon a thaclo tlodi tanwydd. Cynigir ystod o welliannau effeithlonrwydd ynni megis insiwleiddio’r atig, insiwleiddio’r ceudod a gosod gwres canolog. Gallwch ddarganfod os ydych yn gymwys yma: https://www.warmwales.org.uk/contact/
Mesurydd Dŵr
Os ‘rydych yn byw ar eich pen eich hun, neu os taw dim ond dau berson sy’n byw yn eich cartref, efallai y byddwch yn gallu arbed arian drwy osod mesurydd dŵr. Mae defnyddio mesurydd dŵr yn golygu eich bod ond yn talu am y dŵr a ddefnyddir, a gallai hyn olygu arbedion mawr i’ch cartref. Os ‘rydych yn ystyried newid i fesurydd dŵr dylech gysylltu â’ch cyflenwr dŵr. Gallwch wneud cais ar y ffȏn neu efallai y gallwch wneud cais drwy ddefnyddio’u gwefan. Yn ychwanegol, os hoffech derbyn cymorth i wneud cais am fesurydd dŵr, ffoniwch un o’n Gweithwyr Cymunedol.
Beth i’w wneud os ‘rydych yn poeni ynghylch talu’ch biliau ynni:
Bydd y cynnydd yn y cap ar filiau ynni yn effeithio ar bawb, a bydd llawr o bobl yn wynebu straen wrth geisio talu eu biliau ynni. Gal eich cyflenwr ynni eich helpu os ‘rydych yn cael trafferth talu eich biliau nwy a thrydan.
Cysylltwch â’ch cyflenwr cyn gynted ag y byddwch yn pryderi ynghylch talu’ch biliau ynni ac, i gydymffurfio ârheolau Ofgem, mae’n rhaid i gyflenwyr gydweithio gyda chi a chytuno ar gynllun talu y gallwch fforddio ei dalu. Ewch i wefan Ofgem am ragor o wybodaeth ynghylch yr hyn sydd angen ei wneud: https://www.ofgem.gov.uk/getting-help-if-you-cant-afford-your-energy-bills#:~:text=Contact%20your%20supplier%20as%20soon,plan%20you%20have%20agreed%20before.
Cymorth ychwanegol
Mae cymorth ychwanegol, a allai fod o fudd i chi, ar gael i bensiynwyr. Mae ein gweithwyr cymunedol Cartrefi Iachus, Pobl Iachus ar gael 5 diwrnod yr wythnos rhwng 9yb a 5yh i’ch helpu chi gydag unrhyw anghenion ychwanegol sydd gennych.
Cofrestr Gwasanaeth Blaenoriaeth
Mae’r cynllun hwn yn gynllun gwirfoddol, am ddim, y mae eich cyflenwr yn ei ddefnyddio i sicrhau bod y cwsmeriaid sydd fwyaf agored i niwed yn derbyn y cymorth cywir.
Dyluniwyd y system gan Ofgem i sicrhau bod gan unigolion sydd ag anghenion arbennig fynediad at gymorth ychwanegol oddiwrth eu cyflenwr ynni. Gall y cymorth a gynigir amrywio o un cyflenwr i’r llall, ac mae’n ddibynnol ar amgylchiadau, ond gall gynnwys: Gwybodaeth ymlaen llaw pan fydd toriad mewn gwasanaeth, cael blaenoriaeth adeg torri’r cyflenwad trydan, a darllen y mesurydd ynni yn chwarterol.
Mae bod yn gymwys i fod ar y Gofrestr Gwasanaeth Blaenoriaeth yn cynnwys:
- Bod angen cymorth arbennig arnoch
- Y byddech yn cael anhawster cynnal eich llesiant pe byddech yn colli’ch cyflenwad ynni am unrhyw gyfnod o amser
- Eich bod o oedran pensiwn
- Eich bod yn anabl
- Bod gennych nam ar eich clyw neu golwg, neu anghenion cyfathrebu eraill.
Addasiadau diogelwch yn y cartref
Mae tua 1 o bob 3 oedolyn dros 65 oed, a dros hanner o’r bobl dros eu 80, yn syrthio o leiaf unwaith y flwyddyn; gall ein Gweithwyr Cymunedol helpu gyda’r broses o osod addasiadau diogelwch megis canllawiau cydio a lifft grisiau, a hynny am ddim, i helpu osgoi’r fath broblem.
Gall Cymru Gynnes helpu chi gael mynediad at fesurau diogelwch ychwanegol megis synhwyryddion carbon monocsid, larymau mwg a falfiau popty sy’n cloi, er mwyn osgoi risgiau iechyd y gellir eu hosgoi.
Mae falf popty sy’n cloi yn declyn diogelwch syml sy’n sicrhau nad oes modd troi’r popty ymlaen yn anfwriadol; mae’n galluogi preswylwyr sy’n agored i niwed gadw eu hannibyniaeth, ac yn tawelu meddyliau’r teulu, ffrindiau a gofalwyr.