Gydar cynnydd aruthrol ym mhris biliau ynni ar draws y DU, efallai ei bod yn bryd ystyried eich biliau dŵr, a pha newidiadau y gallwch eu gwneud i dorri cannoedd o bunnoedd oddiar eich biliau dŵr. Mae llawer o newidiadau bach a mawr y gallwch eu gwneud yn eich cartref a fydd efallai’n arbed arian ichi oddiar eich biliau dŵr.
Yr awgrymiadau gorau i arbed dŵr:
Yn wahanol i filiau nwy a thrydan, mae’n rhaid derbyn eich cyflenwad dŵr o’r cwmni rhanbarthol – ni allwch newid eich cyflenwr. Serch hynny, mae llawer o ffyrdd i leihau eich biliau. Os yr ydych yn cael trafferth fforddio’ch bil dŵr, peidiwch ei anwybyddu; mae nifer o bethau y gall ein Gweithwyr Cymunedol, a hyfforddwyd gan y bwrdd dŵr, eu gwneud i’ch helpu chi.
Os yr ydych yn defnyddio mesurydd dŵr, neu am arbed dŵr am resymau amgylcheddol, mae llawer o ffyrdd o dorri eich defnydd dŵr yn y tŷ; yr ydym wedi llunio rhestr o awgrymiadau defnyddiol:
Trowch y tap i ffwrdd
Cwpaned Cwta
Dŵr oer
Llenwch y peiriant
Cawodydd Byrrach
Ailgylchu
Mesurydd Dŵr:
Mae mesurydd dŵr yn declyn sy’n mesur yr union faint o ddŵr sy’n cael ei ddefnyddio yn eich cartref. Bydd eich cyflenwr dŵr yn defnyddio’r mesur hwnnw i gyfrif eich biliau dŵr, gan godi ond am y cyfaint o ddŵr sydd yn wirioneddol yn cael ei ddefnyddio.
Gallai mesurydd dŵr arbed arian ichi os:
- Yr ydych yn byw ar eich pen eich hun, neu gydag un person arall
- Yn byw mewn cartref sydd â gwerth ardrethol uchel
- Yn defnyddio ond ychydig iawn o ddŵr
I weld os y byddai gosod mesurydd dŵr o fudd ariannol, defnyddiwch y cyfrifydd mesurydd dŵr i wirio’n llawn neu, fel arall, gofynnwch i’ch cwmni dŵr; dyna’r ffordd orau o weld os y byddech yn arbed arian.
“Mae fy miliau wedi gostwng yn sylweddol, a dw i ddim yn gwarafun defnyddio dŵr; os oes arnaf ei angen, dw i’n ei ddefnyddio, ond dw i ond yn talu am yr hyn sy’n cael ei ddefnyddio. Mae fy miliau yn llawer is – byddwn yn sicr yn argymell gosod mesurydd dŵr”
MRs w- Cwsmer Cymru Gynnes
Sut mae mynd ati i gael mesurydd dŵr:
Os am osod mesurydd dŵch, ffoniwch un o’n Gweithwyr Cymunedol, a hyfforddwyd gan y bwrdd dŵr – byddan nhw’n gallu eich cynghori os yw mesurydd dŵr yn ddewis da i chi, yn darparu’r ffurflenni cais ac yn eich cyfeirio’n uniongyrchol at Ddŵr Cymru neu Hafren Dyfrdwy.
Nid oes angen talu am osod mesurydd dŵr, ac mae modd ei osod yn, neu y tu allan i’ch cartref.
Unwaith bod y mesurydd yn ei le, dylai eich cyflenwr rhoi pecyn gwybodaeth i chi yn cynnwys manylion y costau newydd, ac yn diweddaru eich cyfrif arlein.
Unwaith bod mesurydd dŵr wedi’i osod, mae gennych gyfnod o ddwy flynedd i ofyn i’r cyflenwr ei dynnu i ffwrdd. Os byddwch yn gwneud hynny, bydd eich taliadau yn dychwelyd i fod yn dalidau nad ydynt yn cael eu mesur. Os oes mesurydd dŵr eisoes wedi’i osod yn eich eiddo cyn ichi ei brynu neu rhentu, nid oes modd cael gwared ar y mesurydd dŵr.
Gallwch dderbyn cymorth os yr ydych yn cael trafferth talu eich biliau dŵr:
Mae ystod o gefnogaeth i’w gael gan y byrddau dŵr i sicrhau eich bod yn gallu talu’ch biliau dŵr.
Rhannwch gost eich bil drwy dalu ar ffurf debyd uniongyrchol: Gall cwsmeriaid dalu mewn rhandaliadau wythnosol, misol neu 6-misol, yn hytrach na thalu’r cost llawn wrth dderbyn y bil.
Cynlluniau ar gyfer pobl sy’n derbyn budd-daliadau, neu sydd ar incwm isel:
Dŵr Cymru
- Cynllun HelpU: Mae hyn yn rhoi cymorth i aelwydydd cyflog isel drwy osod cap ar faint sydd rhaid ichi dalu am eich dŵr. Mae Dŵr Cymru yn codi £266.47 am ei gynllun HelpU (£114.98 am ddŵr, £151.49 am garthffosiaeth).
– Gwiriwch yma i weld os yr ydych yn gymwys: https://www.dwrcymru.com/en/support-with-bills/helpu-tariff
- Cynllun Dŵr Uniongyrchol: Os yr ydych yn wynebu trafferthion ariannol ac mewn dyled i Ddŵr Cymru, mae’n bosibl y gall Dŵr Cymru helpu drwy dynnu eich costau dŵr a’ch dyledion o’ch budd-daliadau. Bydd hyn yn golygu bod eich dyledion yn gostwng yn raddol ac yn eich helpu chi adennill rheolaeth ar eich arian.
– Gwiriwch yma i weld os yr ydych yn gymwys i dderbyn y Cynllun Dŵr Uniongyrchol: https://www.dwrcymru.com/en/support-with-bills/water-direct-scheme
- Tariff WaterSure: os oes eisoes gennych fesurydd dŵr, neu eich bod wedi gwneud cais am un, mae’r cynllun WaterSure yn gosod cap ar faint sydd rhaid ichi dalu am eich dŵr.
Sut mae hyn yn gweithio: bydd WaterSure yn gosod cap ar gyfanswm cost blynyddol y dŵr sy’n cael ei fesur, felly ni fyddwch yn talu mwy na swm penodol am y flwyddyn, waeth faint o ddŵr y byddwch yn defnyddio mewn gwirionedd.
Cost cynllun WaterSure Cymru am y flwyddyn o Ebrill 1 2022 hyd at Fawrth 31 2023 yw £374.01 (£157.50 am ddŵr, £216.51 am garthffosiaeth).
– Gwiriwch yma i weld os yr ydych yn gymwys: watersure-tariff
Hafren Dyfrdwy
- Y Cynllun Here2Help: Gall y Cynllun Here2Help gynnig gostyngiad yn eu biliau dŵr i unrhyw gwsmer Hafren Dyfrdwy sy’n derbyn incwm cartref o dan £16,385.
Nid oes rhaid eich bod mewn dyled o ran eich biliau, neu chwaith yn derbyn budd-daliadau i wneud cais, ond asesir eich incwm i weld os yr ydych yn gymwys. I wneud cais, ewch i: https://www.hdcymru.co.uk/my-account/help-when-you-need-it/help-with-paying-your-bill/here-to-help-scheme/
- Cynllun WaterSure: Mae’r Cynllun WaterSure ar gael i gwsmeriaid sydd â mesurydd dŵr, sy’n derbyn budd-daliadau a bod ganddynt dri neu fwy o blant o dan 19 oed, neu i gwsmeriaid yn dioddef cyflwr meddygol sy’n golygu bod rhaid iddynt ddefnyddio dŵr ychwanegol.
Gwiriwch yma i weld os yr ydych yn gymwys: https://www.hdcymru.co.uk/my-account/help-when-you-need-it/help-with-paying-your-bill/watersure-scheme/
- Dŵr Uniongyrchol: Cynllun y llywodraeth yw Dŵr Uniongyrchol, yn caniatau i chi dalu’n uniongyrchol o’ch budd-daliadau am wasanaethau hanfodol.
Mae’n bosibl y byddwch yn cael hi’n haws rheoli’ch arian os bydd taliadau am filiau yn cael eu tynnu’n uniongyrchol o’ch budd-daliadau.
Mae’r cynllun Dŵr Uniongyrchol yn rhoi tawelwch meddwl i chi; byddwch yn gwybod bod eich bil dŵr wedi’i dalu a’ch bod yn gallu defnyddio’r arian sydd yn eich cyfrif am rywbeth arall, yn hytrach na thalu biliau. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth yma: https://www.hdcymru.co.uk/my-account/help-when-you-need-it/help-with-paying-your-bill/water-direct/
Cysylltwch â ni
Am wybodaeth bellach ynghylch y cymorth sydd ar gael, neu os am help ychwanegol i wneud cais at y cynlluniau, cysylltwch ag un o’n Gweithwyr Cymunedol cyfeillgar, sydd wedi’u hyfforddi gan y bwrdd dŵr.
Ebost: [email protected]
Galwad ffôn: 01656 747 622