Ar ȏl i Ofgem gyhoeddi’r cap newydd ar bris ynni, o fis Ebrill ymlaen bydd miliynau o aelwydydd ar draws Cymru a gweddill y DU yn wynebu cynnydd anferth yn eu biliau ynni.
Bydd y cynnydd yn y cap ar bris ynni yn golygu bod y bil am nwy a thrydan yn y DU yn codi, ar gyfartaledd, o £693 y flwyddyn.
Yn ȏl y Resolution Foundation, pan fydd y cap newydd ar bris ynni yn dod i rym ar Ebrill 1 bydd y nifer o aelwydydd sy’n dioddef ‘straen tanwydd’, sef y rhai sy’n gwario o leiaf 10% o gyllideb y cartref ar filiau ynni, yn treblu dros nos i 6.3 miliwn aelwyd ar draws y DU.
Rydym wedi llunio rhestr o awgrymiadau ynghylch arbed ynni i’ch helpu chi rheoli eich biliau ynni a chadw eich cartref yn gynnes a diogel.
Gwneud eich cartref yn gynhesach
- Cliriwch unrhyw gelfi sydd o flaen eich rheiddiaduron fel bod y gwres yn gallu cylchu yn hawdd
- Yn ystod tywydd oer, caewch y llenni a’r drysau er mwyn cadw’r gwres yn yr ystafell
- Atal drafftiau: Gan ddefnyddio pethu atal drafftiau a brynwyd, neu sydd wedi’u gwneud yn y cartref, gallwch leihau’r drafftiau o gwmpas ffenestri, drysau, fflap y ci/y gath a’r drysau i’r atig
- Peidiwch rhoi dillad i sychu ar rheiddiadur: Gall hyn wneud i’r rheiddiaduron weithio’n galetach i roi yr un faint o wres – yn hytrach, defnyddiwch sychwr dillad
- Gwaedwch y rheiddiaduron: Bydd hyn yn gwaredu unrhyw bocedi aer sydd ynddynt, ac yn sicrhau eu bod yn gweithio’n fwy effeithlon
- Er mwyn gwneud yn siwr ei fod yn gweithio ar ei orau, gwnewch yn siwr bod eich boeler yn derbyn gwasanaeth unwaith y flwyddyn
- Gwiriwch, yn reolaidd, bod pwysedd y boeler yn y band gwyrdd rhwng 1 a 2
- Trowch y thermostat lawr un gradd neu fwy: Mae’r mwyafrif o bobl yn teimlo’n gysurus pan fod y tymheredd rhwng 18⁰C a 21⁰C
- Defnyddiwch yr amserydd fel eich bod ond yn gwresogi’ch cartref pan y mae angen gwneud hynny.
Arbed arian ar eich biliau ynni:
- Gosodwch fesurydd clyfar (ar gael am ddim oddiwrth eich cyflenwr ynni): Bydd mesurydd clyfar yn anfon darlleniadau mesurydd at eich cyflenwr, felly bydd eich biliau yn gywir, a bydd y dangosydd yn eich cartref yn dangos ichi yn union faint o ynni sy’n cael ei ddefnyddio
- Os nad oes gennych fesurydd clyfar, anfonwch darlleniadau mesurydd at eich cyflenwr yn gyson: Bydd hyn yn helpu osgoi derbyn biliau a amcangyfrifwyd, sy’n gallu bod yn anghywir
- Os oes gennych fesurydd Economi 7 bydd hi’n rhatach defnyddio trydan yn ystod y nos: Defnyddiwch y rhaglen amserydd ar eich teclyn os oes un yn bodoli neu, fel arall, defnyddiwch amserydd sy’n plygio i mewn
- Pan nad ydych yn defnyddio unrhyw declyn, trowch y teclyn i ffwrdd neu dynnwch y plwg: Os ydynt yn dangos golau modd segur, neu’n gynnes i’w cyffwrdd, maen nhw’n defnyddio ynni dim ond oherwydd eu bod wedi’u plygio i mewn
- Pan mae’n bosibl gwneud hynny, golchwch llwyth llawn o ddillad: Golchwch y dillad ar 30-gradd yn lle 40-graddd
- Peidiwch gorlenwi’r tegell – defnyddiwch ond y cyfaint o ddŵr sydd ei angen arnoch. Ar gyfartaledd, mae aelwyd yn y DU yn berwi’r tegell 1,500 gwaith y flwyddyn
- Mae oergelloedd a rhewgelloedd yn defnyddio tua 20% o’r trydan: dylech eu dadrewi yn gyson, cadw’r coiliau (ar y cefn) yn lân, peidiwch gadael y drws ar agor am amser hir gan fod hyn yn achosi rhew i grynhoi a gwnewch yn siwr bod y bwyd wedi oeri cyn ei ddodi yn yr oergell neu’r rhewgell.
- Mae cadw’r teclynnau yn lân a mewn cyflwr da yn helpu eu cadw’n effeithlon: dylech waghau’r hwfer, tynnu’r calch o’r tegell, y peiriant golchi a’r peiriant golchi llestri, gwaghau drȏr lint y peiriant sychu dillad ac atgyweirio’r seliau ar eich oergell os y byddant wedi torri.
Os hoffech gefnogaeth ychwanegol gyda’ch biliau ynni, ac am dderbyn cyngor mwy teilwredig, mae ein gweithwyr cymunedol yma i’ch helpu chi gydag ystod eang o help a chefnogaeth, gan gynnwys:
- Helpu aelwydydd sy’n gymwys wneud cais at gynlluniau cymorth tanwydd gaeaf
- Mynediad at gynllun gwirio budd-daliadau a chefnogaeth i wneud cais am
- fudd-daliadau
- Cyngor ynghylch ynni, tariff dŵr a diogelwch yn y cartref
- Cymorth i aelwydydd sy’n gymwys i gael mynediad at gynllun Nest i amnewid y boele
Am ragor o wybodaeth neu i hunan-gyfeirio, neu gyfeirio rhywun ‘rydych yn adnabod, cysylltwch â [email protected]