Mae’r DU yng nghanol argyfwng costau-byw, gyda’r newyddion o Ofgem bod y cap ynni yn codi o 80% anhygoel ym mis Hydref, gan adael llawer o breswylwyr yn cael trafferth fforddio pethau sylfaenol megis ynni, dŵr, bwyd, tanwydd a rhagor.
Mewn ymateb i’r argyfwng costau-byw, mae’r Prif Weinidog Liz Truss wedi datgan y bydd cap o £2,500 y flwyddyn ar filiau Ynni aelwyd nodweddiadol o Hydref 1 2022 ymlaen, a fydd yn parhau am y ddau aeaf nesaf.
Gwarant Pris Ynni:
Mewn ymateb i’r argyfwng costau-byw, mae’r Prif Weinidog Liz Truss wedi datgan y bydd cap o £2,500 y flwyddyn ar filiau Ynni aelwyd nodweddiadol o Hydref 1 2022 ymlaen, a fydd yn parhau am y ddau aeaf nesaf.
Beth yw’r Gwarant Pris Ynni?
Bydd y Gwarant Pris Ynni y sicrhau bod aelwyd nodweddiadol ym Mhrydain Fawr yn talu cyfartaledd o £2,500 y flwyddyn am ei fil ynni, am y ddwy flynedd nesaf, gan ddechrau ar Hydref 1 2022.
Bydd yr arbediad i’r defnyddiwr yn seiliedig ar ddefnydd, ond bydd aelwyd nodweddiadol yn arbed o leiaf £1,000 y flwyddyn (yn seiliedig ar y prisiau cyfredol o Hydref ymlaen).
Sut y gallai i dderbyn y gwarant pris?
Does dim angen gwneud cais, a does dim angen cysylltu â’ch cyflenwr ynni.
Ar gyfer defnyddwyr yn Lloegr, yr Alban a Chymru sy’n talu am ynni drwy fil misol, chwarterol neu gyson arall, bydd y Gwarant Pris Ynni yn cael ei gymhwyso pan fydd eich bil yn cael ei gyfrifo.
Ar gyfer cwsmeriaid sy’n defnyddio mesurydd rhagdaliad, bydd y Gwarant Pris Ynni yn cael ei gymhwyso i’r gyfradd yr ydych y talu am bob uned o ynni, felly bydd yr arian a ddodwch yn y mesurydd yn parhau’n hirach na fyddai wedi gwneud fel arall y gaeaf hwn.
Os yr ydych ar dariff sefydlog, bydd y Gwarant Pris Ynni yn eich gwarchod yn yr un ffordd ag y mae’n gwarchod cwsmeriaid ar dariff safonol newidiol (svt).
Bydd cyflenwyr ynni yn amrwyio’r tarfiffau sefydlog yn awtomatig. Nid oes angen i gwsmeriaid ar dariffau sefydlog wneud unrhyw beth i fanteisio ar y cynllun hwn.
Sut mae hyn yn cymharu â’r cynnydd yn y Cap Pris mis Hydref?
Bydd y Gwarant Pris Ynni yn DISODLI’R cap ynni.
Bydd hwn yn gap at gostau sefydlog a chyfraddau’r unedau felly, defnyddiwch llai a thalwch llai, defnyddiwch mwy a thalwch mwy.
£1,971 y flwyddyn o ddefnydd arferol yw’r cap ynni cyfredol, ac roedd hwn am godi i £3,549 y flwyddyn (ac roedd yn debyg o godi i £5,400 y flwyddyn yn Ionawr). Bydd y gwarant pris newydd yn dechrau ar Hydref 1, bydd yn costu £2,500 y flwyddyn i rywun sy’n defnyddio ynni ar lefel nodweddiadol, ac yn parhau am ddwy flynedd.
A fydda i’n dal i dderbyn taliadau costau byw?
Byddwch.
Bydd y taliad o £400 i bob aelwyd (sy’n cael ei dalu ar gyfradd o £66 y mis dros y gaeaf) yn parhau. Bydd hynny’n gostwng y taliad cyfartalog i £2,100 y flwyddyn.
Bydd y taliad o £650 i’r rhai hynny sy’n derbyn llawer matahu o fudd-daliad yn parhau (mae hanner o’r swm eisoes wedi’i dalu).
Heyd, bydd y taliad o £150 i bobl anabl a’r £300 i bensiynwyr yn parhau.
Bydd aelwydydd mwyaf agored i niwed y DU yn dal i dderbyn gwerth £1,200 o gefnogaeth, a delir mewn rhan-daliadau dros y flwyddyn.

Taliadau Cost-Byw
Yn ogystal â’r rhewi prisiau ynni, bydd taliadau costau byw yn dal i gael eu talu, gwnewch yn siŵr eich bod yn derbyn yr hyn sy’n ddyledus i chi.
Cynllun Cymorth Biliau Ynni
Bydd deiliad tŷ yn derbyn y £400 mewn 6 rhandaliad yn dechrau o Hydref 2022. Bydd deiliaid tai yn cael:
- £66 yn Hydref a Tachwedd
- £67 yn Rhagfyr, Ionawr, Chwefror a Mawrth
Os oes gennych fesurydd rhagdalu, bydd eich cyflenwr yn cadarnhau sut y byddwch yn cael y £400 yn nes at fis Hydref 2022. Bydd naill ai:
- ychwanegwch y rhandaliadau i’ch mesurydd ynni yn awtomatig
rhoi’r rhandaliadau i chi fel talebau drwy e-bost, neges destun neu’r post
Os ydych yn cael talebau, dim ond ar gyfer eich cyfrif ynni eich hun y byddwch yn gallu eu defnyddio.
Taliadau costau byw ar gyfer aelwydydd cymwys
Enw’r Cynllun | Swm | Cymhwysedd | Pryd a sut y byddwch yn ei gael |
Budd-daliadau incwm isel | £650- talu mewn 2 gyfandaliad o £326 a £324 | Gallwch gael y gronfa os ydych yn derbyn budd-daliadau cymwys: – Credyd Cynhwysol – JSA – ESA – Cymhorthdal Incwm – Credyd Pensiwn – Credyd Treth Plant -Credyd Treth Gwaith | Bydd hwn yn cael ei dalu’n uniongyrchol i chi. Ail daliad Hydref/Gaeaf 2022 |
Taliad Costau Byw i’r Anabl | £150 | Yn derbyn budd-daliadau anabledd ar 25 Mai 2022: – Lwfans Gweini – Lwfans Byw i’r Anabl – Taliad Annibyniaeth Bersonol – Taliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog – Atodiad Symudedd Pensiwn Rhyfel | Wedi’i dalu’n uniongyrchol i chi. Dechrau Hydref 2022 |
Taliad Costau Byw i Bensiynwyr | £300 | Os oes gennych hawl i Daliad Tanwydd Gaeaf ar gyfer gaeaf 2022 i 2023, byddwch yn cael £300 ychwanegol ar gyfer eich cartref yn cael ei dalu gyda’ch taliad arferol o fis Tachwedd 2022. | Wedi’i dalu gyda Thaliad Tanwydd Gaeaf. Tachwedd 2022 |
Cynllun cymorth tanwydd gaeaf Cymru | £200 | Bydd y cynllun yn agored i aelwydydd lle mae ymgeisydd yn cael un o’r budd-daliadau cymwys hyn: – Cymhorthdal Incwm – Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm – Lwfans Cyflogaeth a Chymorth – Credyd Cynhwysol – Credydau Treth Gwaith – Credydau Treth Plant – Credyd Pensiwn -Taliad Annibyniaeth Personol – Lwfans Byw i Bobl Anabl – Lwfans Gweini – Lwfans ar gyfer Gofalwyr – Budd-daliadau Cyfrannol – Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor – Taliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog – Lwfans Gweini Cyson – Atodiad Symudedd Pensiwn Rhyfel Rhaid i ymgeiswyr hefyd fod yn gyfrifol am dalu’r biliau ynni ar gyfer yr eiddo. | Gellir gwneud ceisiadau i awdurdodau lleol drwy eu gwefan pan fydd y cynllun yn agor ar 26 Medi 2022. Dod o hyd i’ch awdurdod lleol. |
Cefnogaeth Ychwanegol
Awdurdodau lleol
Efallai bod gan eich cyngor lleol gynlluniau cymorth a elwir yn ‘gymorth lles’ neu’r ‘Gronfa Cymorth Cartref’. Mae pob cyngor yn rhedeg ei gynllun ei hun. Mae’r cymorth y maent yn ei gynnig a phwy all ei gael yn amrywio. Gall cymorth gynnwys:
- Biliau ynni a dŵr
- Bwyd
- Eitemau hanfodol – er enghraifft, dillad neu ffwrn
Gofynnwch i’ch cyngor lleol a ydynt yn rhedeg cynllun ‘cymorth lles’ neu ‘Gronfa Cymorth Cartref’. Gallwch ddarganfod sut i gysylltu â’ch cyngor lleol ar GOV.UK
Sefydliadau Cefnogi

Shelter

Banc bwyd

Cyngor ar Bopeth

Money Helper

Money Saving Expert
Cysylltwch â Cymru Gynnes
Mae gennym dîm o gynghorwyr ynni hyfforddedig a Gweithwyr Cymunedol i helpu i ddarparu cyngor, atgyfeiriadau, a mynediad at grantiau i sicrhau nad oes neb yn byw mewn cartrefi anniogel neu oer. Mae ein tîm o Weithwyr Cymunedol yn gweithio ledled Cymru i helpu i roi’r cymorth sydd ei angen arnoch.
Cysylltwch heddiw i weld sut y gallwn eich helpu.
Mae ein gwasanaethau yn hollol rhad ac am ddim ac yn agored i bawb.