Mae’r DU yng nghanol argyfwng costau byw; gyda phrisoedd yn codi ar raddfa syfrdanol, mae llawer o aelwydydd yn cael hi’n anodd fforddio talu am bethau sylfaenol fel ynni, dŵr, bwyd, tanwydd a mwy.
Yr ydym wedi llunio canllaw i’ch helpu chi drwy’r sefyllfa hon.
Biliau a Dyled:
- Yr ydym yn deall bod biliau ynni yn gallu eich drysu a gall hyn wneud hi’n anodd deall faint yr ydych yn gwario ar ynni. Gyda’r argyfwng ynni cyfredol, mae rheoli eich defnydd ynni a deall eich biliau yn flaenoriaeth gynyddol i bawb. Yr ydym wedi llunio blog ynghylch deall eich biliau ynni er mwyn ichi ddatblygu hyder ariannol: https://www.warmwales.org.uk/understanding-your-energy-bills/
- Mesurydd Clyfar: Mae Mesuryddion Clyfar yn eich helpu chi rheoli’n well yr ynni yr ydych yn ei ddefnyddio a’r arian yr ydych yn gwario. Mae mesuryddion clyfar nwy a thrydan yn cofnodi’r pris a’r data defnydd bob hanner awr, ac yn anfon darlleniadau o’r mesurydd yn awtomatig at eich cyflenwr ynni; mae hyn yn golygu eich bod ond yn talu am yr ynni sy’n cael ei ddefnyddio. Os hoffech gael mesurydd clyfar, gallwch gysylltu ag un o’n Gweithwyr Cymunedol cyfeillgar, a fydd yn gallu eich helpu i wneud cais am fesurydd clyfar oddiwrth eich cyflenwr ynni.
- Biliau dŵr: er nad oes opsiwn, o ran biliau dŵr, i newid tariff mae llawer o ffyrdd o arbed arian ar eich biliau dŵr.
- Newidiwch i fesurydd dŵr: os yr ydych yn byw ar eich pen eich hun neu gydag un person arall, mae’n bosibl y bydd mesurydd dŵr yn golygu arbed punnoedd ar eich bil, oherwydd eich bod ond yn talu am y dŵr sy’n cael ei ddefnyddio. I ddarganfod os y byddai’n werth gosod mesurydd, defnyddiwch y cyfrifydd dŵr canlynol: https://www.ccwater.org.uk/watermetercalculator/
- Talwch eich bil drwy ddebyd uniogyrchol: gall cwsmeriaid dalu’n wythnosol, yn fisol neu mewn rhandaliadau bob 6 mis, yn hytrach na thalu’r swm cyfan pan maen nhw’n derbyn y bil.
- Cymorth i dalu eich biliau: mae gan Ddŵr Cymru ac Hafren Dyfrdwy ystod o gynlluniau i’ch helpu chi dalu eich biliau dŵr. Am ragor o wybodaeth ynghylch y cymorth sydd ar gael, darllenwch y blog hwn sydd wedi’i lunio gennym: https://www.warmwales.org.uk/savings-and-support-available-for-water-bills/
- Talwch sylw at daliadau rheolaidd: mae tri math o daliad rheolaidd sy’n gallu golygu bod arian yn gadael eich cyfrif heb bod angen eich caniatâd. Yr ydym yn argymell eich bod yn ystyried yr holl daliadau sy’n gadael eich cyfrif yn fisol, gan adolygu os oes modd torri yn ôl ar daliadau, a’r mannau lle y gallwch arbed arian. Mae gan yr arbenigwr arbed arian ganllaw gwych ynghylch y ffyrdd gorau i dorri’n ôl: https://www.moneysavingexpert.com/banking/direct-debit/
- Debydau Uniongyrchol: pan fyddwch yn rhoi eich caniatâd i gwmni dynnu swm amrywiol o arian o’ch cyfrif.
- Archebion sefydlog: pan fyddwch yn gofyn i’ch banc dalu swm penodol i rywun
- Taliadau cylchol: pan fyddwch yn rhoi eich caniatâd i gwmnïau dynnu ‘taliad’ o’ch cyfrif yn fisol, megis tanysgrifiadau.
- Cymorth Dyled Tanwydd: Gyda phris cynyddol ynni, bydd llawer o bobl yn wynebu mynd i ddyled tanwydd. Mae’n bwysig nodi nad yw unrhyw broblemau dyled yn amhosib eu datrys; efallai na fydd datrys y sefyllfa yn gyflym neu’n hawdd, ond mae wastad llwybr i’w ddilyn. Os yr ydych ar ei hôl hi gyda’ch biliau ynni, ac yn cael hi’n anodd talu, y peth gorau i’w wneud yw cysylltu â’ch darparwr cyn gynted ag y bo modd. Yn unol â rheolau Ofgem, y rheolydd, mae’n rhaid i’ch cyflenwr eich helpu chi – fel arfer drwy lunio cynllun talu y gallwch ei fforddio.
- Cysylltwch â Chymru Gynnes: gall ein Gweithwyr Cymunedol helpu eich cefnogi chi mewn amryw ffyrdd, gan eich cyfeirio at y cynlluniau sy’n siwtio’ch sefyllfa orau, cefnogi galwadau i’ch cyflenwr ynni a’ch cefnogi i ymgeisio am daliadau megis cronfeydd caledi neu fudd-daliadau ychwanegol.
Cartref Cynnes:
- Gall newidiadau bach yn eich arferion beunyddiol fynd yn bell tuag at helpu gostwng eich biliau, tra’n cadw’ch cartref yn gynnes a diogel. Gweler y blog diweddar a luniwyd gennym ni yn cynnwys awgrymiadau ynghylch cadw’n gynnes tra’n arbed arian.
- Cynhesu’r Corff, nid y Cartref’: er bod Martin Lewis wedi egluro ei fod yn flin bod rhaid iddo lunio’r fath ganllaw, mae’n cynnwys llawer o awgrymiadau defnyddiol ar gyfer y rhai nad ydynt yn gallu fforddio talu eu biliau ynni. Mae’r awgrymiadau yn cynnwys:
- Defnyddio poteli dŵr twym, blancedi wedi’u gwresogi a gwisgo haenau ychwanegol, cyn troi’r gwres i fyny
- Blaenoriaethu bwyta pryd o fwyd twym – p’un ai bo hynny’n bowlen o uwd neu bowlen o gawl.
- Gweler mwy yma: https://www.moneysavingexpert.com/utilities/heat-the-human-not-the-home-save-energy/
- Os yw eich boeler yn ddiffygiol neu wedi torri efallai na fydd yn gwresogi’ch tŷ yn ddigonol, ac yn costu mwy i’w rhedeg. Mae cynlluniau ar gael i’r rhai sy’n gymwys gael help i osod boeler newydd:
- Nyth: mae Nyth yn gynllun a ariennir gan Lywodraeth Cymru i ddarparu gwelliannau effeithlonrwydd ynni i’r rhai hynny sy’n cael budd-daliadau sy’n dibynnu ar brawf modd neu’n dioddef salwch cronig. Fe allech chi fod yn gymwys i gael boeler, system gwres canolog neu insiwleiddiad am ddim i’ch helpu chi gadw’n gynnes tra’n lleihau eich biliau ynni.
- ECO4: Mae’r Rhwymedigaeth Cwmni Ynni yn gynllun effeithlonrwydd ynni y llywodraeth i daclo tlodi tanwydd a chreu cartrefi cyfforddus, drwy gynnig arian am fesurau megis gwresogyddion stôr ac insiwleiddio. Gallwch ddysgu mwy yn: https://www.warmwales.org.uk/energy-company-obligation/
- Mae Cartrefi Iach, Pobl Iach yn gweithio ar draws Cymru a De-Orllewin Lloegr i helpu pobl fyw mewn cartrefi sy’n gynhesach, mwy diogel a mwy iachus. Mae ein tîm o Weithwyr Cymunedol yn cynnig ystod o gyngor, cefnogaeth ac opsiynau atgyfeirio wedi’u teilwra at anghenion yr aelwyd. Mae Cartrefi Iach, Pobl Iach yn agored i bawb, ond mae i rai o’r gwasanaethau y cyfeirir atynt eu meini prawf cymhwysedd eu hunain. Dysgwch mwy yn: https://www.warmwales.org.uk/healthy-homes-healthy-people/
Gwneud y gorau o’ch incwm
Mae’n gamsyniad cyffredin meddwl bod budd-daliadau ond ar gael i bobl sy’n ddi-waith; yn ôl ffigyrau diweddaraf y llywodraeth, mae hyd at 7.5 miliwn o aelwydydd yn cael eu hamddifadu o £15 biliwn y flwyddyn o fudd-daliadu sy’n dibynnu ar brawf modd.
Mae Money Saving Expert yn cynnig cyfrifydd budd-daliadau cyflym 10-munud i’ch helpu chi wirio’n hawdd os yr ydych yn gymwys i dderbyn budd-daliad, a faint y byddech yn debygol o dderbyn: https://www.moneysavingexpert.com/family/benefits-check/
- Lwfans Gweini: Yn aml, mae hwn yn cael ei anwybyddu, ond mae’n bwysig iawn gan y gall lwfans gweini dalu rhwng £60 – £89.50 yr wythnos, yn ddibynnol ar ddwysedd eich anabledd, ac nid yw’n dibynnu ar brawf modd. Defnyddiwch y gwiriwr budd-daliadau uchod i weld os yr ydych yn gymwys, neu gysylltwch ag un o’n Gweithwyr Cymunedol cyfeillgar.
- Credyd Pensiwn: Y cael ei dalu ar ben eich pensiwn, mae credyd pensiwn yn daliad ychwanegol sy’n helpu’r rhai sy’n gymwys i’w dderbyn gynyddu eu hincwm. I fod yn gymwys i’w dderbyn, rhaid eich bod o oedran cymhwysol, sef 66 i ddynion a merched, a bod eich incwm yn llai na £177.10 yr wythnos neu £270 i bâr. Mae credyd pensiwn wedi’i anelu at bobl ar incwm isel, ond mae’n werth ffonio i weld os yr ydych yn gymwys i’w dderbyn.
- Gwiriwch os yw eich plentyn yn gymwys i dderbyn prydau bwyd ysgol am ddim. Os yr ydych yn derbyn budd-daliadau sy’n dibynnu ar brawf modd ac ar incwm isel, mae’n bosibl y bydd eich plentyn yn gymwys i dderbyn prydau bwyd ysgol am ddim. https://www.gov.uk/apply-free-school-meals
Taliadau Costau Byw.
Mae miliynau o aelwydydd yn wynebu trafferthion ariannol oherwydd yr argyfwng cost byw; i’r rhai hynny nad oes ganddynt ddigon o arian i gynnal bywyd, mae’r llywodraeth a’ch cynghorau lleol yn cynnig ystod o daliadau i helpu eich cefnogi chi ar yr adeg hon.
- Cynllun cefnogi budd-daliadau sy’n dibynnu ar brawf modd – £650: Os yr ydych yn derbyn budd-daliadau sy’n dibynnu ar brawf modd byddwch yn derbyn hanner cyntaf y taliad cynllun cefnogi yn awtomatig erbyn Gorffennaf 14eg 2022. Os nad ydych wedi derbyn y taliad hwn, cysylltwch â’n Gweithwyr Cymunedol, a fydd yn gallu eich cefnogi i dderbyn y taliad hwn.
- Taliad Cost Byw Anabledd – £150: Taliad un-tro yw hwn sy’n cael ei dalu i hawlwyr sy’n derbyn budd-daliadau sy’n gysylltiedig ag anabledd; mae’n ychwanegol at y taliad cefnogi budd-daliadau sy’n dibynnu ar brawf modd. Bydd y bobl sy’n gymwys i’w dderbyn yn derbyn taliad uniongyrchol, a hynny o Fedi 2022.
- Cynllun Cymorth Ynni -£40: Bydd hwn yn cael ei dalu i bob aelwyd drwy law y cyflenwyr trydan dros 6 mis, o fis Hydref 2022. Bydd cwsmeriaid sy’n talu drwy ddebyd uniongyrchol a chwsmeriaid sydd mewn credyd yn derbyn yr arian i’w cyfrifon, tra bydd pobl sy’n meddu ar fesuryddion talu ymlaen llaw yn derbyn yr arian i’w mesurydd, neu’n derbyn talebau.
- Taliadau Cost Byw i Bensiynwyr -£300: Mae hwn yn daliad un-tro sy’n cael ei dalu i bob unigolyn sydd o oedran derbyn pensiwn (oed 66 +) rhwng Medi 19eg-25ain 2022. Bydd y taliad hwn, fel arfer, yn cael ei dalu drwy ddebyd uniongyrchol, ac yn cael ei dalu ar yr un pryd â’r taliad ynni’r Gaeaf, a delir ym mis Tachwedd/ Rhagfyr.
- Taliadau Cymorth Gofalwyr Di-dâl – £500: Gall pobl sy’n derbyn Lwfans Gofalwr ar Fawrth 31ain 2022, sy’n gofalu am fwy na 35 awr yr wythnos ac yn derbyn incwm isel. wneud cais am y taliad cymorth hwn. Dyddiad cau Gorffennaf 15fed 2022
- Cynllun Cynnal Costau Byw – hyd at £150: Cynllun Craidd: i’w dalu i bob aelwyd ym mandiau treth y cyngor A-D, aelwyddydd sy’n derbyn gostyngiad yn nhreth y cyngor ac aelwydydd ym mand treth y cyngor E lle y mae’r deiliad yn derbyn gostyngiad oherwydd anabledd. Nid oes angen gwneud dim os yn talu treth y cyngor drwy ddebyd uniongyrchol, a dylai’r taliadau eisoes fod wedi’u gwneud – fel arall, mae angen cyflwyno cais, a bydd y taliadau yn cael eu gwneud ar sail dreigl wrth i’r ceisiadau gael eu cymeradwyo.
Cymorth a Chefnogaeth Brys
Mae ein cynllun Pobl Iach Cartrefi Iach+ yn agored i bawb, ac yn cynnig cymorth brys megis ychwanegiadau arian brys a mynediad at becynnau bwyd. Yn ychwanegol, yr ydym yn cynnig cymorth llesiant meddwl a presgripsiynu cymdeithasol, oherwydd ein bod yn deall y gall straen tanwydd arwain at broblemau llesiant ychwanegol, megis gorbryder ac iselder. https://www.warmwales.org.uk/partnerships/
Gofynnwch am Help.
Un o’r ffyrdd hawsaf a mwyaf pwysig o gael mynediad at gymorth yn ystod yr argyfwng costau byw hwn yw gofyn am help. Mae ein tîm o Weithwyr Cymunedol yn gweithio ar draws Cymru a de-orllewin Lloegr i helpu darparu’r cymorth sydd ei angen arnoch chi.
Cysylltwch â ni heddiw i weld sut y gallwn eich helpu chi.
Gwybodaeth Ychwanegol.
Tra bod ein canllaw costau byw yn eang, mae dal cymorth ac awgrymiadau ychwanegol a fyddai’n gallu eich helpu chi ar yr adeg hon ar gael; mae’r Money Saving Expert wedi llunio rhestr o bron 100 ffordd o arbed arian yn ei lyfryn ‘Cost of Living Crisis Survival guide’ https://www.moneysavingexpert.com/family/cost-of-living-survival-kit/