Mae pawb yn gwybod bod biliau ynni yn gallu ein drysu a gall hyn ei gwneud hi’n anodd deall faint o arian ‘rydych yn gwario ar ynni.
Gan ystyried yr argyfwng ynni cyfredol, mae deall faint o ynni ‘rydych yn defnyddio a deall eich biliau yn flaenoriaeth cynyddol i bawb. Cyn i ni esbonio beth y mae eich bil yn cynnwys, a’r broses o ddarllen y mesuryddion, ‘rydym am egluro peth o’r iaith allweddol sy’n gysylltiedig â biliau ynni.
Yr hyn mae eich bil yn cynnwys
Bydd biliau ynni yn amrywio, o ran golwg, o gyflenwr i gyflenwr. Gallwch ddod o hyd i ganllawiau i filiau’r cwmnïau ynni mwyaf yma – https://www.uswitch.com/gas-electricity/guides/energy-bills/
Bydd rhai eitemau yn ymddangos ar bob bil, a bydd deall rhain yn fan cychwyn da i ddechrau deall eich defnydd ynni. Bydd yr wybodaeth ar eich bil yn cynnwys:
- Eich tariff presennol – mae hyn yn amlinellu cost awr cilowat o ynni ynghyd â’r tâl sefydlog dyddiol. Mae’r argyfwng ynni cyfredol yn golygu nad oes unrhyw gynigion rhad ar gael, a nad yw llawer o gwmnïau yn derbyn cwsmeriaid newydd, felly ni allwch newid eich cyflenwr. Mae gwahanol fathau o dariff ar gael – mae rhai ohonynt yn sefydlog, rhai yn amrywiol ac mae rhai yn benodol ar gyfer y math o gyfarpar gwresogi sydd gennych e.e. mae tariffau Economi 7 yn addas ar gyfer y rhai sydd â gwresogyddion stȏr.
- Faint o ynni (nwy a/neu trydan) ‘rydych wedi’u defnyddio ers eich bil diwethaf. Bydd hyn naill ai wedi’i amcangyfrif os nad ydych wedi cyflwyno darlleniadau o’r mesuryddion, neu’n gwbl gywir os ‘rydych wedi cyflwyno darlleniadau. Bydd y defydd ynni yn cael ei fesur mewn kWh (oriau cilowat) ac mewn arian.
- Eich balans cyfredol – cyfrifir hyn drwy ystyried faint ‘rydych wedi’i dalu hyd yn hyn, a faint o ynni a ddefnyddiwyd (bydd cyflwyno darlleniadau cyson o’r mesuryddion – neu beidio – yn effeithio ar hyn). Bydd eich balans yn dangos p’un ai ‘rydych mewn credyd (bod gennych arian wedi’i ‘fancio’ gyda’r cyflenwr) neu eich bod mewn dyled (mae arnoch chi arian iddyn nhw). Yn ddibynnol ar eich tariff, a’ch ffordd o wneud taliadau, efallai bydd hyn yn effeithio ar faint eich taliad nesaf.
- Yn aml bydd y bil yn cynwys dadansoddiad mwy manwl o’ch defnydd, esboniad o rai o’r termau allweddol a ddefnyddir a gwybodaeth ynghylch ffyrdd posibl o arbed arian neu dderbyn gwell cynnig (ond mae hyn yn annhebygol o ddigwydd ar hyn o bryd).
Darllen y mesurydd
Mae’r mesurydd yn mesur faint o nwy neu drydan sy’n cael ei ddefnyddio. Mae trydan yn cael ei fesur mewn kWh a nwy mewn metrau ciwbig; mae’r metrau ciwbig yn cael eu trosglwyddo i kWh gan eich cwmni ynni.
Bydd gennych fesuryddion ar wahan ar gyfer y nwy a’r trydan a, gan ddibynnu ar y math o dŷ sydd gennych, efallai y bydd rhain yn y tŷ neu mewn ardal gymunol. Mae darllen y mesuryddion tua bob mis yn syniad da – does dim gwahaniaeth pa adeg o’r mis y byddwch yn eu darllen, ond mae’n bwysig eich bod yn gwneud hynny’n gyson fel bod eich biliau’n dal yn gywir.
Y dyddiau hyn, mae gan lawer o gwmnïau ynni apiau y gallwch eu defnyddio i gyflwyno darlleniadau a rheoli’ch cyfrif. Gallwch hefyd, fel arfer, gyflwyno darlleniadau trwy gyfrwng eu gwefannau neu ar y ffȏn. Bydd llawer o gwmnïau ynni yn anfon ebost i’ch atgoffa gwneud os nad ydych wedi cyflwyno darlleniad mesurydd yn ddiweddar.
Os oes gennych fesurydd clyfar nid oes angen cyflwyno darlleniadau, gan y bydd y mesurydd clyfar yn gwneud hyn yn awtomatig. Hefyd, gallwch ddarllen eich mesurydd clyfar yn eich cartref er mwyn gweld faint o ynni sy’n cael ei ddefnyddio ar unrhyw adeg. Gallwch ddysgu mwy am fesuryddion clyfar yma – https://www.gov.uk/guidance/smart-meters-how-they-work
Geiriau allweddol
Nid yw’r iaith a ddefnyddir ar filiau ynni bob amser yn hawdd i’w deall. Isod mae rhai termau allweddol, ynghyd ag esboniad o’r ystyr.
Tariff safonol amrywiol
hwn yw’r tariff y mae llawer o bobl yn talu ar hyn o bryd. Mae cost y tariff yn amrywiol – gall y cwmni ynni gynyddu neu ostwng y prisiau OND mae Ofgem yn gosod cap ar y pris, ac mae hyn yn golygu bod terfyn uchaf ar faint y mae’r cwmnïau yn gallu codi yr awr cilowat, ac am y taliadau sefydlog. Nid yw hyn yn golygu bod terfyn uchaf i’ch biliau, dim ond bod terfyn uchaf ar bris awr cilowat – bydd cyfanswm eich biliau yn dal i ddibynnu ar eich defnydd ynni
Tariff pris sefydlog
mae gan y tariffau hyn bris sefydlog am bob awr cilowat ac am daliadau sefydlog. Fel arfer mae’r rhain yn parhau am 12 neu 24 mis.
Tâl sefydlog
yn ogystal â thalu am yr oriau cilowat a ddefnyddir, bydd cwmnïau yn codi swm penodol bob dydd, p’un ai ‘rydych yn defnyddio unrhyw ynni neu beidio. Mae’r symiau a godir yn amrywio, ond fel arfer maen nhw rhwng 20c a 60c y dydd am bob tanwydd.
Oriau cilowat (kWh)
Mae hyn yn fesur o faint o ynni sydd wedi’i ddefnyddio; 1 kWh yw’r maint o ynni a ddefnyddir pe byddech yn cadw teclyn 1000 wat i fynd am awr.
Er mwyn egluro hyn mewn termau mwy defnyddiol, dyma ganllaw:
- Byddai bwlb golau100 wat yn cymryd 10 awr i ddefnyddio 1kWh
- Byddai popty (2000 wat, er enghraifft) yn cymryd 30 munud i ddefnyddio 1 kWh
- Byddai cawod drydan (tua 10,000 wat) yn defnyddio 1kWh mewn 6 munud
- Byddai oergell/rhewgell (200 – 400 wat) yn defnyddio 1kWh mewn tua 3 awr
- Byddai teledu LED 42” (80 wat) yn defnyddio 1kWh mewn 12 awr a hanner
MPAN
hwn yw’r rhif unigryw sy’n adnabod y mesurydd trydan yn eich cartref. Mae’n golygu Rhif Gweinyddol Pwynt Mesurydd, ac mae’n cynnwys 21 rhif. Ar eich bil mae fel arfer yn cael ei alw’n ‘rhif cyflenwi’ ac, yn aml, mae’r rhifau wedi’u rhestru fesul blociau.
MPRN
mae hwn yn cyfateb i’r MPAN ond yn cael ei ddefnyddio ar gyfer mesuryddion nwy. Mae’n golygu Cyfeirnod Pwynt Mesurydd ac, fel arfer, yn cynnwys rhwng 6 ac 11 rhif. Mae’r MPAN a’r MPRN ill dau yn cael eu cynnwys ar yr holl filiau trydan a nwy, a bydd eu hangen arnoch os ‘rydych am newid eich cyflenwr
‘Rydym yn gwybod bod llawer o bobl eisoes yn defnyddio cyn lleied â phosib o ynni; mae deall y biliau ond yn rhan fach o leihau defnydd a gostwng y costau – costau sydd, i lawer, eisoes mor isel ag y gallant fod, ond sy’n dal yn llawer rhy uchel.
Os ‘rydych yn byw mewn cartref sy’n anodd ei gadw’n gynnes, mae’n bosibl y gallwn eich helpu chi – cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth os gwelwch y dda.